Fel ein Swyddog Cymorth Cyfathrebu, mae Hollie yn gyfrifol am gynhyrchu ein cylchlythyr misol CCD, trefnu cyfieithu a phrawfddarllen ein cyhoeddiadau Saesneg a Chymraeg. Mae Hollie hefyd yn cefnogi Claire, Arweinydd y Cyfryngau, gyda gwaith yn y wasg a’r cyfryngau ac yn cefnogi ar ein llwyfannau cymdeithasol, ein gwefan a’n gwaith dylunio. Y tu allan i’r gwaith, mae Hollie yn mwynhau darllen, cofnodi’i bywyd cyfan ar ffurf pwyntiau bwled yn ei dyddiadur ac ail-wylio Gilmore Girls am y milfed tro.