Mae Jenny yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru i’w helpu i gyflawni’r Ddeddf Llesiant i’r eithaf. Mae rhan ‘monitro ac asesu’ ei rôl yn tynnu ar ei chefndir mewn gwerthuso. Mae’n olrhain amcanion Cyrff Cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i adolygu sut y maent wedi newid yn unol ag argymhellion blaenorol a wnaed gan Swyddfa Cenedlaethau’r Dyfodol.
Cyn ymuno â'r swyddfa, mae hi wedi gweithio mewn gwleidyddiaeth ac ymchwil gymdeithasol yng Nghymru, Llundain a Brwsel. Y tu allan i'r gwaith, mae Jenny yn mwynhau heicio, syrffio (yn wael), a mynd i gigs ac arddangosfeydd.