Mae Jonny’n credu bod Cymru’n mynd i newid y byd - drwy ddangos sut mae’n bosibl i ymladd anghydraddoldeb cymdeithasol a’r newid yn yr hinsawdd i gyd ar yr un pryd. Mae’n cefnogi gwaith rhyngwladol y tîm, yn arwain ar ymgysylltiad y sector preifat ac yn gyfrifol am Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae Jonny’n treulio gormod o amser yn darllen am wleidyddiaeth ac mae’n bwyta gormod o basta. Ei hoff sioe gerdd, meddai, yw Little Shop of Horrors ond os wnewch chi holi mwy, mewn gwirionedd Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat yw ei ffefryn.