Mae Lisa yn Gyfrifydd Siartredig, bu’n hogi ei chrefft dros 15 mlynedd mewn Ymarfer a Diwydiant cyn mentro i’r Sector Cyhoeddus. Mae hi’n awyddus ac yn gyffrous i fod yn rhan o Gymru sy’n newid, dan arweiniad y tim, ac mae’n edrych ymlaen at yr holl heriau a chyfleoedd a ddaw yn ei sgil. Mae Lisa yn byw ger Caerdydd gyda'i gŵr a dwy ferch ifanc. Pan nad yw yn ei rôl “mam” mae'n mwynhau ychydig o oriau ymlacio gyda ffrindiau yn cymryd rhan mewn te prynhawn neu brunches. Mae ganddi ddiddordeb mawr mewn damcaniaethau Ffiseg Cwantwm (nid y fathemateg ofnadwy!) ac mae ei phleser euog yn ymwneud â UFOs a Theorïau Cynllwyn - mae'r gwir allan yna!