Cyd-benodiad gan Swyddfa Iechyd Cyhoeddus Cymru oedd Louisa. Ei swydd yw meddwl am y dyfodol a helpu cyrff cyhoeddus i wneud yr un fath. Mae hyn yn cynnwys beth all fod angen ei wneud yn awr i baratoi ar gyfer y dyfodol, pa effaith fydd penderfyniadau’n eu cael yn y tymor hwy a beth yw natur y dyfodol yr ydym yn dymuno ei greu. Fel rhan o’i hymdrechion tuag at greu gwell dyfodol, mae Louisa wedi gweithio i elusennau iechyd a chyfiawnder cymdeithasol ac mae’n cefnogi cael mwy o fenywod i gyfranogi mewn bywyd cyhoeddus. Mae Louisa ar ei hapusaf yn yr awyr agored, yn archwilio traethau Gŵyr gyda’i gŵr a’i chi, neu’n mynd yn or-emosiynol mewn theatr gerddorol, llyfrau a gormod o raglenni teledu.