Datgarboneiddio
Mae datgarboneiddio’n fater trawsbynciol sy’n ganolbwynt i’n holl waith ac yn hollbwysig i genedlaethau’r dyfodol.
Y newid yn yr hinsawdd yw un o’r heriau mwyaf sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol. Cawsom ein rhybuddio gan adroddiad nodedig Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd a gyhoeddwyd yn 2018 bod gennym lai na 12 mlynedd (10 erbyn hyn) i osgoi chwalfa’r hinsawdd.
Mae Fforwm Economaidd Risgiau Byd-eang Economaidd 2020 yn dangos yn glir mai’r newid yn yr hinsawdd yw’r risg hirdymor amlycaf sy’n wynebu’r byd, gyda methiant i leihau ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd yn fater o bryder allweddol. Bydd angen i addasu i effeithiau’r newid yn yr hinsawdd fod yn flaenoriaeth, yn cynnwys y modd yr ydym yn ymateb i’r risgiau o gynnydd mewn llifogydd, digwyddiadau tywydd eithafol a chynnydd mewn tymheredd ar bobl, ecosystemau a’r amgylchedd adeiledig.
Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn cyflwyno dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cyllidebau carbon ar gyfer Cymru, a lleihau allyriadau o 80% o leiaf erbyn 2050 er bod y targed hwn yn debygol o gael ei gynyddu i 95% yn ôl y cyngor oddi wrth Bwyllgor Newid Hinsawdd y DG.
Nid yw’r cynnydd hyd yn hyn wedi bod yn ddigon cyflym, sy’n golygu bod angen i ni leihau ein hallyriadau yn ddramatig yn y degawd nesaf i gyflawni’r targed o leihad o 45% erbyn 2030. Mae hon yn her sylweddol gan fod 50% o allyriadau yn cael eu cynhyrchu gan nifer bach o safleoedd diwydiannol.
Mae Llywodraeth Cymru’n monitro lefel a ffynonellau allyriadau yng Nghymru ar lefel rhyngwladol, ond nid oes digon o ffocws ar y modd y mae sectorau, sefydliadau ac unigolion ledled Cymru yn medru cynorthwyo ein targedau lleihau carbon.
Mae pobl ifanc wedi cael effaith arwyddocaol ar sicrhau gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd yng Nghymru, ac ar draws y byd. Maent hwy, a chymdeithas yn gyffredinol yn awr yn hawlio mwy o weithredu ar gyfiawnder hinsawdd, gan alw ar arweinyddion y byd i weithredu ar frys.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i gynorthwyo, herio a darparu fforymau ar gyfer rhannu arfer da mewn dull ymarferol i helpu cyrff cyhoeddus wrth iddynt symud tuag at ddatgarboneiddio, gyda ffocws arbennig ar drafnidiaeth, tai, cynllunio a’r amgylchedd adeiledig.
Mae hyn wedi arwain at:
- Ymrwymiad polisi oddi wrth Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru i’r sector cyhoeddus fod yn garbon niwtral erbyn 2030
- Ffocws arwyddocaol ar y nodau llesiant a’r pum dull o weithio o fewn Cymru Garbon Isel a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2019, yn cynnwys ffocws ar gyfiawnder hinsawdd
- Llywodraeth Cymru’n alinio cylchoedd eu cyllidebau ariannol a’u cyllidebau carbon sy’n golygu bod penderfyniadau am ble mae’r arian yn cael ei wario yn medru ffocysu mwy ar gyflawni targedau lleihau carbon. Dyma’r unig lywodraeth yn y DG i wneud hyn.
Yn y blynyddoedd diweddar rwyf wedi herio cyrff cyhoeddus ar y mater dadgyfeirio cronfeydd pensiwn ac wedi gorfod ffocysu ar y modd y mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo datgarboneiddio yn unol â’u datganiad ar yr Argyfwng Hinsawdd. Yn 2019 cyhoeddais Gynllun Deg Pwynt ar gyfer ariannu’r argyfwng hinsawdd, gan amlinellu’r meysydd lle mae angen mwy o fuddsoddiad. Roedd cyllideb ganlynol 2020/21 yn cynnwys £240miliwn ychwanegol o wariant cyfalaf i gynorthwyo gweithredu ar argyfyngau’r hinsawdd a natur.
Argymhelliad allweddol o fewn fy Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020 yw i Lywodraeth Cymru gael cynllun buddsoddi hirdymor sy’n dangos sut y byddant yn ariannu’r argyfwng hinsawdd a chynorthwo ymrwymiadau mwy uchelgeisiol a thargedau ar gyfer sectorau sydd o dan eu rheolaeth.
Isod wele’r meysydd yr wyf yn argymell pob corff cyhoeddus yn cynnwys Llywodraeth Cymru i ffocysu arnynt:
- Deall ein hallyriadau a ble i flaenoriaethu gweithredu
- Mynd i’r afael â’r hinsawdd ac argyfwng natur drwy ymagwedd holistig, gan fanteisio ar rôl pobl ifanc
- Cyflawni trawsnewid cyfiawn
- Gweithredu datrysiadau ar raddfa a fydd yn ennill manteision niferus
- Buddsoddi mwy mewn mynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd.
I weld fy holl dystiolaeth, asesiad, canfyddiadau allweddol a chyngor os gwelwch yn dda gweler yr adran ar Ddatgarboneiddio ar ein gwefan adroddiadau cenedlaethau’r dyfodol ddynodedig.