Mae'n ofynnol i'r Comisiynydd fonitro ac asesu i ba raddau y mae amcanion llesiant a osodir gan gyrff cyhoeddus yn cael eu cyflawni. Mae'r ddyletswydd hon yn ceisio sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn symud yn agosach at eu hamcanion ac yn cyfrannu at y nodau llesiant cenedlaethol. Bob pum mlynedd, rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n cyflwyno asesiad cyffredinol ac argymhellion ar gyfer gwelliant.

Yn Ebrill 2017, daeth yn ofynnol i holl gyrff cyhoeddus Cymru oedd yn ddarostyngedig i’r Ddeddf  gyhoeddi am y tro cyntaf eu hamcanion llesiant a’u camau, gan ddangos sut yr oeddent yn gwella llesiant cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol Cymru ac yn cyfrannu at y saith nod llesiant cenedlaethol. 

Dadansoddodd fy nhîm y 345 amcan llesiant cyfunol a llawer o gamau eraill oedd yn sail iddynt, er mwyn dod i ddeall y themâu cyffredin oedd yn ymddangos a rhoi cyngor ar y modd y dylai cyrff cyoeddus gyflymu’r newid.

Cyhoeddais y canfyddiadau hyn yn fy adroddiad “Llesiant yng Nghymru: y Siwrnai hyd yn hyn,” gan gynghori cyrff cyhoeddus ar y modd y dylent hwythau hefyd gyflawni eu dyletswydd i adrodd yn flynyddol ar y cynnydd tuag at eu hamcanion llesiant.

Drwy weithio ochr yn ochr ag Archwilydd Cyffredinol Cymru drwy ein Memorandwm o Gyd-ddealltwriaeth rydw i’n monitro ac asesu’r cynnydd sy’n cael ei wneud gan cyrff cyhoeddus tuag at gyflawni eu hamcanion llesiant. 

Yn 2018/19, datblygais fethodoleg mewn cydweithrediad â chyrff cyhoeddus yn seiliedig ar hunanfyfyrio ac adolygiad cydweithwyr. Cwblhawyd offeryn hunanfyfyrio gan bob corff cyhoeddus ac, yn dilyn cyfnod o gyd-ddysgu gyda chyrff cyhoeddus eraill, rhoddais gyngor manwl unigol i bob corff cyhoeddus ar sut i wella cynnwys yr amcanion a sut i’w cyflawni’n gyflymach ac yn well.

Cyhoeddwyd canfyddiadau cyffredinol yr ymarfer hwn ym mis Rhagfyr 2019 mewn adroddiad ‘Cynnydd tuag at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ a gellir eu crynhoi fel a ganlyn:

• Mae yna rai enghreifftiau rhagorol o arloesi y mae’r Ddeddf yn eu cyflwyno ledled Cymru. Fodd bynnag, mae angen i gyrff cyhoeddus ystyried a chyflwyno darlun mwy cydlynol o sut mae’r sefydliad gyda’i gilydd yn cynyddu ei gyfraniad i’r saith nod llesiant cenedlaethol.

• Nid yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi digon o adnoddau i weithredu’r Ddeddf.

• Mae cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni amcanion llesiant mewn rhai meysydd, ond mae amrywiad yn y modd y mae cyrff cyhoeddus yn cymhwyso’r Ddeddf.

• Mae angen mwy o gynnydd a chyflymder yn y newid mewn meysydd corfforaethol.

• Nid oedd ansawdd yr amcanion a’r camau a osodwyd yn 2017-18 bob amser yn cwrdd â dyheadau a gofynion y Ddeddf.

Mae monitro ac asesu cynnydd hyd yma wedi bod yn ymgymeriad mawr ac mae fy nghanfyddiadau yn sail i lawer o’r argymhellion yn fy Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol.

Rydym yn parhau i rannu gwybodaeth a chydlynu ein rhaglen waith a’n dyletswyddau yn ystod ail gyfnod adrodd 2020-2025.

Archwilydd Cyffredinol Cymru

Rwy’n gweithio’n agos gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru, sydd â dyletswydd gyflenwol o dan y Ddeddf. Rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gynnal o leiaf un archwiliad ym mhob corff cyhoeddus mewn cyfnod o bum mlynedd. Mae’r archwiliad yn ceisio darganfod i ba raddau y mae’r corff cyhoeddus wedi defnyddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy wrth osod eu hamcanion llesiant a chymryd camau i’w cyflawni.

Mae natur gyflenwol ein swyddogaethau, yn ychwanegol at ethos y ddeddfwriaeth (integreiddio, cydweithredu ac ymgyfrannu yn benodol) yn golygu ein bod yn cydweithio’n agos i geisio alinio ein swyddogaethau. Mae’n hollbwysig i ni nad ydym yn anfon negeseuon anghyson i gyrff cyhoeddus a’n bod yn tynnu gyda’n gilydd i’r un cyfeiriad i yrru’r newidiadau dwfn a chywir tuag at y Gymru a garem.

Gallwch ddarllen adroddiad 2020 Archwilydd Cyffredinol Cymru yma.