Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ymwneud â dod â newid i fywydau pobl a newid ymddygiad. Mae hyn yn gymhleth, yn cymryd amser ac yn her wirioneddol…

Fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, fy nyletswydd gyffredinol yw hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Rwy’n hyfforddwr ac yn ffrind beirniadol i gyrff cyhoeddus, byrddau gwasanaethau cyhoeddus ac unrhyw un a all helpu i gyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant cenedlaethol. Rwy’n cefnogi ac yn herio cyrff cyhoeddus fel eu bod yn croesawu eu dyletswydd i wella pob agwedd ar lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol holl boblogaeth Cymru. Mae fy rhaglen waith wedi’i strwythuro o amgylch y pedwar pwrpas canlynol, a nodais ar ddechrau fy nhymor yn y swydd:

  1. Amlygu a gweithredu ar y materion a’r heriau mawr sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol.
  2. Cynorthwyo a herio cyrff cyhoeddus i ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
  3. Bod yn rhan o’r Ddeddf a helpu i adeiladu mudiad ar gyfer newid o’i chwmpas.
  4. Gweithredu’n geiriau – ysgwyddo’r newid rydyn ni am ei weld mewn eraill.

 

Mae fy Adroddiadau Blynyddol ar gyfer 2016/17, 2017/18, 2018/19, 2019/20 a 2020-21 yn dangos sut rydw i wedi bwrw ymlaen â fy ngwaith a’r effaith a gyflawnwyd.

Sut rydw i'n cynllunio fy ngwaith

Wrth symud ymlaen, fy ffocws yw sicrhau gweithrediad yr argymhellion a wnaed yn Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol.

Roedd yn ddyletswydd gyfreithiol i gyhoeddi’r Adroddiad hwn ym mis Mai 2020, sy’n egluro beth yw pwrpas gwella’n llesiant ar y cyd, yn unol â’r Ddeddf. Gwneuthum argymhellion ynghylch sut y dylid cymhwyso gwahanol elfennau’r Ddeddf (megis y pum dull o weithio, y nodau llesiant a’r meysydd corfforaethol ar gyfer newid a amlinellir gan ganllawiau’r Ddeddf. Manteisiodd  yr Adroddiad ar farn dros 5,000 o bobl a sefydliadau.

Mae fy rhaglen waith yn cael ei chyflwyno bob blwyddyn mewn cynllun yr ydym yn ei alw’n “Fap Ffordd”. Tra’i fod yn hyblyg i faterion a chyfleoedd adweithiol, mae’r Map Ffordd yn ganolog i’r hyn a wnawn a sut rydyn ni’n gweithio fel tîm. Mae’n nodi’r hyn yr ydym am ei gyflawni, sut, pryd a phwy sy’n gyfrifol ac yn ymgyfrannu.

Eleni, wrth ddatblygu fy Map Ffordd, rwyf wedi:

  • Ennyn ymgyfraniad cyn-fyfyrwyr fy Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol.
  • Rhannu meddyliau cynnar gyda’m Panel Cynghori statudol, y Pwyllgor Archwilio Risg a Sicrwydd a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
  • Ystyried materion a godwyd gyda mi gan aelodau’r cyhoedd a thrwy ymgysylltu â rhanddeiliaid.
  • Ystyried y dystiolaeth a’r argymhellion o ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i’r rhwystrau i weithredu’r Ddeddf yn effeithiol.
  • Rhannu syniadau gyda phartneriaid i ddod â safbwyntiau a syniadau allanol i mewn i drafodaethau.

Map ffordd ar gyfer 2021-22

Ochr yn ochr â natur eang Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi cael eu dominyddu gan y pandemig COVID a fydd yn cael effaith difrifol ar genedlaethau’r dyfodol. Mae yna lawer o heriau y byddwn o bosib yn dod ar eu traws o ganlyniad i’r pandemig ond mae yna hefyd gyfleoedd i ni ail-lunio Cymru sy’n gwireddu anghenion y dyfodol yn well ac sy’n ymroi i ragweld a mynd i’r afael â siociau a heriau’r dyfodol. Gan gadw hynny mewn golwg, ail-ganolbwyntiodd fy rhaglen waith yn ystod 2020/21 ar y materion hyn a bydd yn parhau yn yr un modd tan ddiwedd fy ngyfnod yn fy Swydd yn 2023.

 

Crynodeb:

Yr her a osodais i’m tîm, ac i bawb sy’n ymwneud â chyflawni newid yn y meysydd hyn, yw y dylai pob maes gwaith weithio mor galed â phosibl i ni ac mae deall y cysylltiadau a’r gorgyffwrdd yn allweddol ar gyfer cyflawni hyn.

Mwy o fanylion:

1. Amlygu a gweithredu ar yr heriau allweddol sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn darparu fframwaith arweiniol ar gyfer y modd y dylem geisio ymateb i argyfwng COVID-19. Mae’r Ddeddf yn caniatáu i ni wneud y penderfyniadau cywir, i’n helpu i symud tuag at agwedd ataliol tymor hwy tuag ar y modd yr ydym yn rhedeg ein cymdeithas a’n gwasanaethau cyhoeddus. Gan fanteisio ar argymhellion yn y Rhaglen Lywodraethu Addas ar gyfer y Dyfodol, ffocws fy ngwaith yn 2021-22 fydd darparu cyngor a her ar adferiad llewyrchus, gwyrdd a chyfartal, fel a ganlyn:

  • Buddsoddi mewn diwydiannau eraill ar gyfer adferiad, megis datgarboneiddio tai a thrafnidiaeth.
  • Gosod cynllun buddsoddi hirdymor ar gyfer gwneud cartrefi’n fwy effeithlon mewn ynni – gan arbed arian i bobl ar filiau ynni, creu swyddi a dileu tlodi tanwydd yn y degawd nesaf trwy ddyblu cyllid tlodi tanwydd.
  • Lansio Gwasanaeth Natur Cenedlaethol i ddarparu sgiliau a chreu swyddi, gan gynyddu cyfleoedd ar gyfer presgreibio cymdeithasol (lle mae cleifion yn derbyn cefnogaeth anghlinigol yn y gymuned), tra’n adfer Cymru i’r amgylchedd naturiol fel coedwigoedd, cefn gwlad a mannau gwyrdd, gan helpu Cymru i ddatblygu i fod y genedl eco-lythrennog gyntaf yn y byd.
  • Adeiladu ar bŵer diwylliant a chreadigrwydd yn ein hadferiad yn dilyn COVID.
  • Cynyddu cyfleoedd ar gyfer dysgu gydol oes.
  • Targedu rhaglenni sgiliau mewn diwydiannau sy’n canolbwyntio ar y dyfodol tuag at fenywod, pobl anabl, pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a’r rhai sydd bellaf o’r farchnad lafur.
  • Blaenoriaethu buddsoddiad a chreu swyddi mewn adferiad gwyrdd a arweinir gan ofal – gan dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i weithwyr gofal.

Er mai dim ond un o’r cyrff cyhoeddus sy’n dod o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw Llywodraeth Cymru, mae’n hanfodol ei bod yn dangos arweiniad drwy weithio’n gynaliadwy a chreu’r fframweithiau polisi a rheoliadol cywir i alluogi pob penderfyniad yng Nghymru i gyfrannu at ein saith nod llesiant cenedlaethol. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi gweld nifer o newidiadau arwyddocaol i gyfeiriad polisi gan y Llywodraeth sy’n nodi eu bod yn cymryd eu dyletswyddau o ddifrif, ond mae llawer o waith i’w wneud o hyd. Felly, byddaf yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n ein hatal rhag gweithredu er budd cenedlaethau’r dyfodol yr wyf wedi tynnu sylw atynt ym Mhennod 2 o fy Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn ymchwiliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

 

2. Cefnogi a herio cyrff cyhoeddus i ddefnyddio’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Byddaf yn treialu dull newydd o gefnogi cyrff cyhoeddus i weithredu gofynion y Ddeddf trwy ddyrannu pwynt cyswllt ar gyfer pob corff cyhoeddus yn fy nhîm.

Bydd hyn yn cychwyn yn ystod Haf 2021. Mae cael pwynt cyswllt o fewn fy nhîm yn rhywbeth y mae cyrff cyhoeddus wedi dweud wrthyf yn gyson y bydd yn eu helpu ac roedd adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn adleisio’r adborth hwn.

Rwyf wedi recriwtio pum rôl Cymorth i Ysgogwyr Newid newydd at y diben hwn, a fydd yn gweithio gyda chyrff cyhoeddus i benderfynu pa gefnogaeth sydd ei hangen a sut rydyn ni wedyn yn ymateb.

Bydd hyn yn cael ei werthuso ymhen chwe mis a bydd parhad y tu hwnt i’r pwynt hwn yn destun asesu effaith gyda’r Llywodraeth yn cynyddu fy nghyllideb i ariannu hyn yn barhaol.

Byddaf yn parhau i weithio’n agos gydag Archwilydd Cyffredinol Cymru yn natblygiad ei drefn archwilio newydd. Byddaf yn cadw golwg ar amcanion llesiant cyrff cyhoeddus wrth iddynt newid, ac adroddiadau blynyddol cyrff cyhoeddus, a gan fod adroddiadau blynyddol y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i fod i gael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2020, byddaf yn cwblhau fy ymagwedd tuag at adolygu’r rhain.

Bydd fy nhîm yn parhau i ymateb i geisiadau am gyngor a chymorth hyd eithaf ein gallu.

 

3. Bod yn rhan o Fudiad dros Newid a helpu i’w adeiladu 

Mae ein Deddf arloesol yn denu sylw o bob cwr o’r byd ac mae gwneuthurwyr newid newydd yn ymuno â ni’n gynyddol ar draws y sector cyhoeddus a phreifat a grwpiau gwirfoddol a chymunedol. Trwy’r gweithgareddau uchod, byddaf yn dod o hyd i dir a rennir ag eraill lle gallwn adeiladu mudiad dros newid gyda’n gilydd. Byddaf yn parhau i gynyddu ein proffil a chyflawni’r gwaith creadigol, meithrin cysylltiadau newydd, cynnwys ac ymgysylltu â phobl a phartneriaid a gymerodd ran yn y sgwrs Cymru Ein Dyfodol ac ymroi i ehangu’r rhwydwaith hwn. Rhan allweddol o hyn yw gweithio gyda fy Mardd Preswyl Taylor Edmonds. Mae fy mherthynas â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a sefydliadau eraill y sector gwirfoddol yn allweddol i’r gwaith hwn.

Yn dilyn llwyddiant fy Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol 2019/2020 a hyfforddodd 20 o arweinwyr ifanc yn y Ddeddf, rwy’n anelu at sefydlu ail raglen academi erbyn diwedd 2021. Rwy’n falch iawn bod llawer o bartneriaid y llynedd wedi ymrwymo i ymuno â ni eto.

Dros y deuddeg mis nesaf, byddaf yn gweithio’n agos gyda Gweinidogion Cymru a Thîm Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru i hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn fyd-eang, ac i sicrhau partneriaethau gyda rhanddeiliaid rhyngwladol i ddod ag arbenigedd mewn cynaliadwyedd yn ôl i sector cyhoeddus Cymru. Edrychaf ymlaen at gefnogi’r amcanion hyn mewn partneriaeth â swyddfeydd Tramor Llywodraeth Cymru ac mewn digwyddiadau byd-eang fel Uwchgynhadledd Un Byd Ifanc, Expo’r Byd yn Dubai ac Uwchgynhadledd Hinsawdd COP26. Byddaf hefyd yn ymgysylltu ymhellach ar ddatblygu cynlluniau i wella’r ffordd y mae busnesau yng Nghymru’n cael eu trefnu o amgylch y Ddeddf ac arddangos cynnydd yng Nghymru ac yn fyd-eang.

 

4. ‘Gweithredu’r geiriau’ – ysgwyddo’r newid rydyn ni am ei weld mewn eraill

Rwyf wedi ymrwymo i greu diwylliant sy’n cael effaith cadarnhaol arnom ni yn ogystal ag yng Nghymru a gweddill y byd. Mae rhai o’r camau a gymerwyd hyd yma yn cynnwys:

  • Fel ymateb i’r pandemig a gweithio gartref, fe wnes i greu strwythur Codwr Hwyl lle mae aelodau staff yn cysylltu’n wythnosol â chydweithwyr dethol (eu ‘sêr’) i asesu eu lles a’u datblygiad personol.
  • Cyflwyno’r fenter ‘Rydych chi wedi cael eich mygio’ lle mae rhywun yn cael ei enwebu bob wythnos i dderbyn cydnabyddiaeth arbennig am waith caled neu ymdrech ragorol.
  • Lansio polisi newydd a fydd yn caniatáu i staff sy’n dioddef cam-drin domestig gyrchu grant neu fenthyciad i ‘leddfu rhwystrau ariannol’ sy’n eu hatal rhag gadael y tramgwyddwr.
  • Cofrestru i fod yn gyflogwr Cyflog Byw gwirioneddol.
  • Cynnig ymagwedd ‘unrhyw bryd yn unrhyw le’ tuag at oriau gwaith. Mae hyn wedi lleihau ein hangen i deithio’n ddiangen, yn caniatáu i ni dreulio amser o ansawdd gyda’n teulu ac mae’n ddibynnol iawn ar ymddiriedaeth yn ein gilydd i’w gyflawni.
  • Dosbarthiadau yoga wythnosol yn y swyddfa.
  • Cyflwyno polisi gwirfoddoli lle gall staff gymryd amser i rannu eu sgiliau gyda’r gymuned a dod â dealltwriaeth yn ôl i’r swyddfa i drwytho ein gwaith.

Byddaf yn adolygu fy niwylliant sefydliadol, yn arbennig byddaf yn cefnogi fy nhîm sydd wedi bod yn gweithio’n gyfangwbl o gartref ac mewn sawl achos yn gorfod cydbwyso gwaith â phlant sy’n dysgu gartref. Rwy’n ceisio rhannu ein profiad gyda chyfoedion a dysgu oddi wrth eraill. Bydd y gweithredoedd mwy uchelgeisiol a nodir yn fy rhaglen ‘Teithiau’ y Gallu i Greu yn sail i hyn.

 

Ein heffaith

Rwyf wedi dewis mesurau perfformiad sy’n caniatáu i mi (a’r rhai sydd am graffu ar fy ngwaith) weld sut mae fy Swyddfa yn dylanwadu ar yr esblygiad tuag at Gymru fwy cynaliadwy. Maent yn dilyn theori model effaith newid, ac yn gweithio’n ddilyniadol:

  1. Fframio dadl a chael materion ar yr agenda
  2. Annog ymrwymiadau disgyrsiol gan weinidogion, y llywodraeth ac eraill
  3. Sicrhau newid gweithdrefnol yn y modd y mae cyrff cyhoeddus yn cyflawni eu gwaith
  4. Effeithio ar gynnwys ac ymrwymiadau polisi
  5. Dylanwadu ar newid ymddygiad ymarferol mewn eraill

 

Hoffech chi gymryd rhan?

Hoffwn glywed gan bobl sydd â mewnwelediad neu syniadau ar unrhyw un o’r materion uchod a gweithio gyda nhw. Gallwch gysylltu â fy nhîm a minnau trwy e-bost (cysylltwchani@cenedlaethaurdyfodol.cymru), Twitter, Instagram, trwy lythyr neu ffôn. Rydyn ni hefyd yn cyhoeddi cylchlythyr misol.