Cyllid yw un o’r meysydd corfforaethol ar gyfer newid yn y Canllawiau Statudol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar weithrediad y Ddeddf.

Rydyn ni wedi gwneud rhai ymyriadau rhagweithiol sy’n ceisio gwella’r system gyllid a’r system gwneud penderfyniadau sy’n sail i wasanaethau cyhoeddus, oherwydd ar adegau o bwysau ar gyllid cyhoeddus fel canlyniad i COVID-19 yn ogystal â chaledi a Brexit mae angen i ni sicrhau fod pob ceiniog sy’n cael ei gwario’n macsimeiddio’u cyfraniad at bob un o bedwar dimensiwn llesiant.

Gallem weld bod penderfyniadau’n ymwneud â chyllid a buddsoddi’n aml yn gweithredu fel rhwystr yn hytrach na chyfle i helpu i gyflawni’r nodau llesiant, a sefydlu’r pum dull o weithio.

Cyllideb Llywodraeth Cymru yw’r penderfyniad (neu set o benderfyniadau) mwyaf un sy’n cael ei wneud gan gorff cyhoeddus yng Nghymru bob blwyddyn. Yn ogystal â phenderfynu sut mae cyrff cyhoeddus yn cael eu hariannu, mae’r broses gyllideb a phenderfyniadau’n anfon arwyddion pwysig am flaenoriaethau ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus ac yn dangos a yw’r blaenoriaethau hynny’n newid i wireddu dyheadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Rydyn ni wedi neilltuo adnodd arwyddocaol ar gyfer monitro ac asesu’r gyllideb ddrafft dros dair blynedd yn olynol ac wedi rhoi cyngor i’r Llywodraeth a thystiolaeth i Bwyllgor Cyllid y Senedd yn 2017, 2018 a 2019.

Welsh Government annual Draft Budget Process

Yn aml nid yw strwythurau seilos traddodiadol yn Llywodraeth Cymru (a chyrff cyhoeddus eraill) wedi’u cynllunio i alluogi dull integredig o wneud penderfyniadau ariannol. Mae portffolios cabinet yn aml yn canolbwyntio ar annog canlyniad penodol ac mae’r ffordd y mae grwpiau’r gyllideb yn dal i gael eu trefnu’n golygu y gall gwneud penderfyniadau cydweithredol sy’n ystyried achosion ac effeithiau materion allweddol sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol fod yn heriol.

  • Mae cyllideb nesaf Llywodraeth Cymru’n gyfle i gael adferiad gwyrdd a chyfiawn yn dilyn y pandemig.

    Rwy’n cydnabod yr heriau arwyddocaol y mae Llywodraeth Cymru wedi’u hwynebu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae’n gadarnhaol bod y gyllideb ddrafft 2021-22, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2020, yn pwysleisio pwysigrwydd adferiad gwyrdd a chyfiawn.

    Rwyf wedi darparu dadansoddiad o’r gyllideb ddrafft i’r Llywodraeth ac i Bwyllgor Cyllid y Senedd, yn cynnwys meysydd lle rwy’n ystyried bod cynnydd wedi ei wneud, yn ogystal â meysydd allweddol y dylid, yn fy marn, eu blaenoriaethu ar gyfer buddsoddiad cynyddol.

     

    Gwelliannau cadarnhaol

    Rwy’n falch i weld bod gwariant ar deithio cynaliadwy yn parhau i gynyddu – mae wedi cynyddu o 63% ers 2019-20, ochr yn ochr â chynnydd mewn buddsoddiad mewn teithio llesol, cynlluniau Metro a rheilffyrdd a Seilwaith Cerbydau Trydan. Fodd bynnag yn nhermau’r ffordd y darperir y cyllid hwn, dylai’r Llywodraeth ystyried dyraniadau aml-flwyddyn ar gyfer cynlluniau teithio llesol i’w galluogi i’w cynllunio a’u cyflwyno’n iawn.

    Rwy’n ystyried bod rhai penderfyniadau cadarnhaol wedi eu gwneud mewn perthynas ag ariannu datgarboneiddio cartrefi, gan adeiladu ar y Rhaglen Ôl-osod Optimeiddiedig a ddatblygwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, er bod angen dybryd am gynllun tymor hwy ar gyfer ariannu datgarboneiddio stoc dai. Dylai’r Llywodraeth gynyddu’r buddsoddiad mewn ôl-osod tai a sicrhau ymrwymiadau tymor hir aml-flwyddyn i gynyddu gweithredu dros y degawd nesaf.

     

    Meysydd ar gyfer ystyriaeth bellach

    Mae yna nifer o feysydd eraill yr wyf wedi tynnu sylw atynt yn gyson fel cyfleoedd allweddol ar gyfer adferiad gwyrdd a chyfiawn, lle rwy’n ystyried bod yna ddiffyg cyllid yn y gyllideb ddrafft.

    Y maes allweddol yw buddsoddi mewn sgiliau a chyflogadwyedd, sy’n rhaid iddo fod yn sail i adferiad yn dilyn y pandemig. Credaf bod yna gyfle arbennig i Lywodraeth greu cysylltiadau â’r argyfyngau hinsawdd a natur a buddsoddi yn natblygiad sgiliau mewn sectorau lle dangosir bod ganddynt botensial arwyddocaol i greu swyddi ar gyfer adferiad gwyrdd a chyfiawn. Fel yr amlinellir yn fy nadansoddiad rwy’n pryderu oherwydd bod y dyraniadau a nodir yn y gyllideb ddrafft yn annigonol ar gyfer cadw i fyny â’r galw cynyddol a’r farchnad lafur sy’n newid yn gyflym ac rwy’n argymell rhai meysydd penodol y dylid buddsoddi mwy ynddynt. Dylai’r Llywodraeth ystyried sut y gall warantu mwy o fuddsoddiad mewn sgiliau a chyflogadwyedd ar gyfer economi di-garbon, yn arbennig drwy wella mynediad i sectorau sydd mewn sefyllfa dda i sicrhau adferiad gwyrdd.

    Rwyf hefyd yn tynnu sylw at gyfleoedd i fuddsoddi mewn adfywio canol tref a dinas i gefnogi cynnydd mewn gweithio o bell; ar gyfer buddsoddi yn y sector diwylliant a’r diwydiannau creadigol fel rhan greiddiol o adferiad; a buddsoddiad pellach mewn datrysiadau sy’n seiliedig ar natur. Dylai’r Llywodraeth sicrhau bod buddsoddiad yn sicrhau manteision mewn perthynas â chymaint o’r nodau llesiant â phosibl – er enghraifft ystyried sut y gall eu cynigion gwariant ar gyfer adfywio trefi a dinasoedd gefnogi gweithio o bell yn well, cynnwys y sector diwylliant a chreu seilwaith gwyrdd.

    Tra bo’r pandemig wedi bod yn ddinistriol a heriol mewn llawer ffordd, mae hefyd wedi dod â manteision, yn cynnwys dulliau newydd o weithio’n arloesol, yn ddigidol a chydweithredol, â ganddynt y potensial i ddod â newid diwylliannol i’r ffordd yr ydym yn gwneud pethau yng Nghymru. Dylai’r Llywodraeth sicrhau bod buddsoddi ar draws portffolios yn ‘cynnal yr hyn sy’n dda’ drwy gynorthwyo dulliau newydd cadarnhaol o weithio pan fyddwn yn symud i fodd adferiad a chael ein temtio i fynd yn ôl at yr ‘hen normal’.

    Rwy’n falch bod y Llywodraeth wedi cychwyn rhaglen waith i ddeall yn well y lefel o allyriadau carbon sy’n deillio o benderfyniadau cyllidebol. Dylai’r Llywodraeth asesu effaith carbon eu gwariant, yn arbennig gwariant cyfalaf mawr, a chyhoeddi manylion ar effaith carbon eu cyllideb a phenderfyniadau ar fuddsoddiadau a seilwaith mawr.

     

    FGCW Scrutiny of the Welsh Government draft Budget 2021 – 22

    Annex 1 – Advice to Government on priorities for investment in a green and just recovery 

    Annex 2 – Advice to Government on priorities for capital spend

  • Mae’r gwaith yr wyf wedi ymgymryd ag ef gyda Thrysorlys Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gweithio gyda’r New Economics Foundation a Chyllid Cymdeithasol wedi arwain at gyhoeddi Cynllun Gwella’r Gyllideb eleni sy’n nodi sut ddylai cynnydd edrych o safbwynt Llywodraeth Cymru yn nhermau’r modd y mae proses y gyllideb yn cyd-fynd â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

     

    Mae fy ngwaith ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru wedi ffocysu ar feysydd allweddol ar gyfer newid.

     

    Atal

    Mae fy ngwaith wedi dangos bod angen i’r Llywodraeth wneud rhagor i ddangos ymagwedd tuag at atal sy’n draws-lywodraethol, yn ddealladwy a seiliedig ar dystiolaeth. Rwyf wedi gweithio gyda swyddogion Llywodraeth i archwilio diffiniad o atal a gwariant ataliol ac rwyf yn awr yn defnyddio hwn i herio penderfyniadau gwariant y Llywodraeth.

    Mae Atal yn golygu gweithio mewn partneriaeth i gyd-gynhyrchu’r canlyniadau gorau posibl, gan ddefnyddio cryfderau ac asedau sydd gan bobl a lleoedd i’w cyfrannu. Drwy eu rhannu’n bedwar lefel, gall pob lefel leihau’r galw am y nesaf:

    • Atal Sylfaenol – adeiladu cydnerthedd – creu’r amodau lle nad yw problemau’n codi yn y dyfodol. Ymagwedd fyd-eang.
    • Atal Eilaidd – Targedu gweithredu tuag at feysydd lle mae perygl mawr y bydd problem yn digwydd. Ymagwedd wedi ei thargedu, sy’n cadarnhau cyffredinoliaeth flaengar.
    • Atal trydyddol – ymyrryd pan fydd problem wedi digwydd, i’w hatal rhag gwaethygu a’i hatal rhag digwydd eto yn y dyfodol. Ymagwedd ymyrraeth.
    • Gwariant aciwt – gwariant sy’n rheoli effaith sefyllfa negyddol iawn gan wneud ychydig neu ddim i atal problemau rhag digwydd yn y dyfodol. Ymagwedd adferol.* Penderfyniad i ddarparu cymorth i bawb yw cyffredinoliaeth flaengar, gan roi llais i bawb a phopeth ond sy’n cydnabod y bydd gofyn am fwy o gymorth gan y bobl neu’r ardaloedd ag anghenion mwy.

     

    Datgarboneiddio

     Ym mis Mehefin 2019, cyhoeddais y Cynllun Deg Pwynt i ariannu Argyfwng Hinsawdd sy’n awgrymu sut y gallai cyllideb Llywodraeth Cymru gynyddu buddsoddiad mewn gweithredu ar yr hinsawdd, gan ffocysu ar:

    • Mwy o fuddsoddiad mewn teithio llesol, trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith cerbydau trydan.
    • Mwy o fuddsoddiad mewn rhaglen genedlaethol ôl-osod tai – gallai ffocysu i gychwyn ar gartrefi sy’n byw mewn tlodi tanwydd a’r rhai mewn perchnogaeth gyhoeddus gostio i fyny at £1 biliwn.
    • Cymru’n dod yn hunangynhaliol mewn trydan adnewyddadwy erbyn 2035.
    • Cynyddu gorchudd coed a mabwysiadu arferion amaethyddol carbon isel ac ail-feddwl arfer defnydd tir.
    • Sicrhau bod datgarboneiddio’n egwyddor allweddol ac yn annog gwneud penderfyniadau o fewn cynllunio, contractau caffael y sector cyhoeddus a buddsoddiadau cronfa bensiwn sydd wedi eu cefnogi gan raglen i hyfforddi sector cyhoeddus carbon-lythrennog.

    Roeddwn yn falch i weld dyraniad o £140 miliwn i gynorthwyo gweithredu ar hinsawdd a natur yng nghyllideb 2020-21 Llywodraeth Cymru, yn unol â’r hyn a gynigiais, a hefyd gynnydd mewn cyllid ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy a theithio llesol.

    Mae yna hefyd botensial enfawr i gyfrannu at y nodau llesiant drwy gyfrwng y £6.1 biliwn sy’n cael ei wario ar hyn o bryd gan y sector cyhoeddus yng Nghymru ar gaffael a gallwch ddarllen mwy am fy ngwaith yn y maes hwn yma.

    Darllenwch  Gyllideb Ddrafft y Llywodraeth 2019-20

    Darllenwch ein cyngor ar y modd y mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru (2020-21 yn talu sylw i’r Ddeddf)