Mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru’n gwario dros £6 biliwn bob blwyddyn ar gaffael ystod o nwyddau, gwasanaethau a gwaith; mae hyn bron yn draean o holl wariant datganoledig blynyddol Cymru, ac amcangyfrifir y bydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru’n gwario dros £60 biliwn dros y degawd nesaf.

Yn dilyn cyhoeddi ein Hadroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol yn 2020, rydym wedi datblygu cynhyrchion wedi’u targedu i helpu cefnogi gweithrediad y Ddeddf a’r argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad. 

Ymchwil ac adolygiad o gaffael

Mae gan Gymru’r cyfle i feddwl sut a ble i wario’r arian hwnnw er lles cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol

Dychmygwch beth allai gwario’r arian ar brynu pethau A gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol pobl a chymunedau yng Nghymru ei olygu?

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ddylai fod y fframwaith trosfwaol ar gyfer caffael cyhoeddus yng Nghymru. Mae caffael yn un o’r saith maes corfforaethol ar gyfer newid yng nghanllawiau statudol y Ddeddf (Rhannu Pwrpas, Rhannu Dyfodol, SPSF1: Canllawiau Craidd) ac mae’n rhaid iddo fod yn faes ffocws allweddol ar gyfer cyrff cyhoeddus wrth iddynt gwrdd â’u dyletswyddau o dan y Ddeddf.

Fel gwarcheidwad cenedlaethau’r dyfodol, mae Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi enwi Caffael fel maes i ffocysu arno drwy gydol 2019-20. Mae’r Comisiynydd yn cynnal ymchwil caffael i sefydlu i ba raddau y mae’r Ddeddf yn trwytho’r broses gaffael a phenderfyniadau sy’n cael eu gwneud ar gaffael.

“Mae angen i ni ffocysu ar y canlyniadau nid y broses gaffael.” Steve Edwards, Cyfarwyddwr Regulation & Commercial Wales & West Utilities.

Isod wele’r meysydd yr argymhellir gan y Comisiynydd y dylai holl gyrff cyhoeddus yn cynnwys Llywodraeth Cymru, ffocysu arnynt:

  • Datblygu arweinyddiaeth sy’n cefnogi ymagwedd strategol tuag at gaffael, gan gydnabod ‘pŵer pwrcasu’
  • Caffael llesiant: ffocws ar ganlyniadau a mesur yr hyn sydd o bwys
  • Ffocysu ar gynllunio ariannol tymor-hwy
  • Hybu cydweithredu effeithiol ar y cyd â chyflenwyr i wella eu dulliau o rannu, dysgu, capasiti a sgiliau
  • Adeiladu ar fframweithiau sefydledig, yn cynnwys y rhai cyfreithiol
  • Hybu meddylfryd ac agwedd ‘gallaf-wneud’

Am yr holl dystiolaeth, asesiad, casgliadau allweddol a chyngor os gwelwch yn dda gweler yr adran ar Gaffael ar ein gwefan adroddiadau cenedlaethau’r dyfodol ddynodedig.

Yn dilyn cyhoeddiad ein Hadroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol yn 2020, rydym wedi datblygu cynhyrchion wedi’u targedu i helpu cefnogi gweithrediad y Ddeddf a’r argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad gan gynnwys ‘Beth mae Adroddiad yr Adolygiad Caffael yn ei olygu i Chyrff Cyhoeddus a Llywodraeth Cymru’.

Ymchwil ac adolygiad o gaffael

Gan weithio ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd, mae Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi cynnal ymchwil ac Adolygiad Adran 20, i sefydlu i ba raddau y mae’r Ddeddf wedi bod yn llywio penderfyniadau caffael ar draws y cyrff cyhoeddus yng Nghymru er 2016 (pan ddaeth y Ddeddf i rym).

Amlinellir y prif ganfyddiadau o gam ymchwil y gwaith hwn yn y ‘Caffael dan y Chwydd Wydr’ yn Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol y Comisiynydd a gyhoeddwyd ym mis Mai 2020.

Cyhoeddwyd yr Adroddiad ‘Caffael llesiant yng Nghymru’ ar Chwefror 25ain 2021, gan egluro canfyddiadau allweddol, tynnu sylw at arfer da ac amlinellu argymhellion yn seiliedig ar Adolygiad Adran 20.

Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys canfyddiadau ac argymhellion yn benodol ar gyfer y naw corff cyhoeddus a oedd yn destun Adolygiad Adran 20. Mae’n cynnwys y rhai sy’n berthnasol i gyrff cyhoeddus a’r rhai sydd wedi’u cyfeirio’n bennaf at Lywodraeth Cymru yn rhinwedd ei swydd fel arweinydd. Mae gan y naw sefydliad ddyletswydd statudol (Adran 22 (4)) i gyhoeddi eu hymateb i’r argymhellion a wnaed gan y Comisiynydd yn yr adroddiad hwn. Anogir cyrff cyhoeddus i wneud hynny cyn pen 25 diwrnod gwaith ar ôl cyhoeddi’r argymhellion. Mae llawer o’r argymhellion yr un mor berthnasol i bob corff cyhoeddus a ddylai eu hystyried yn gyngor, a byddwn yn dilyn cynnydd fel rhan o ddyletswydd y Comisiynydd i ddarparu cyngor a chymorth ac i fonitro ac asesu sut mae cyrff cyhoeddus yn gwneud cynnydd tuag at eu nodau llesiant.

Mae yna ddogfen ‘fersiwn byr’ hefyd, sy’n crynhoi gweledigaeth y Comisiynydd ar gyfer caffael, gan nodi’r materion allweddol a amlygwyd gan gyrff cyhoeddus yn ystod yr ymchwil ac Adolygiad Adran 20, yn ogystal â’r argymhellion a amlinellir yn yr Adroddiad ‘Caffael llesiant yng Nghymru’.

Hefyd, mae Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn cynhyrchu adnoddau a allai roi arweiniad pellach.

– Mae y Gallu i Greu yn un o brif raglenni gwaith y Comisiynydd, sy’n gosod gweledigaeth bositif ar gyfer Cymru. Gallwch ddod o hyd i beth cyngor yn y Teithiau hyn.

Mae’r Themâu, Canlyniadau a Mesurau Cenedlaethol Cymru (TOMs) yn fframwaith ar gyfer mesur a rheoli gwerth cymdeithasol, wedi’i gynllunio i sicrhau’r llesiant mwyaf posibl trwy wario. Mae’r Comisiynydd wedi datblygu astudiaeth achos yn dangos sut y datblygwyd y TOMs trwy gymhwyso’r pum ffordd o weithio ac yn dangos cyfraniad tuag at nodau llesiant cenedlaethol Cymru.

Ein gwaith yn y maes hwn:

Rydym wedi bod yn rhan o’r Tasglu Gwerth Cymdeithasol, yn cefnogi datblygiad a gweithrediadau TOMs Cenedlaethol Cymru. Mae’r fframwaith hwn ar gyfer mesur a rheoli gwerth cymdeithasol wedi’i fapio yn erbyn saith nod llesiant cenedlaethol Cymru a chymhwyswyd y pum ffordd o weithio yn ystod ei ddatblygiad.

Ers i swyddfa’r Comisiynydd gael ei sefydlu yn 2016 rydyn ni wedi bod yn edrych ar y modd  y mae caffael yn cael ei ddarparu yng Nghymru yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Rydyn ni wedi tynnu sylw Llywodraeth Cymru at ein pryderon, ac wedi rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn amlygu’r ffaith nad yw polisi caffael ac arfer yng Nghymru’n cyd-fynd â’r gofynion newydd sy’n dod o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Yn dilyn yr ymyriadau hyn ym mis Medi 2017, cynhaliodd Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, adolygiad o’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru.

Er mwyn sicrhau polisi a newid cyfundrefnol yn y maes hwn mae rhai o’r pethau yr ydym wedi eu gwneud yn cynnwys:

  • Cyfrannu i adolygiad Llywodraeth Cymru drwy ymaelodi â’r Grŵp Cyfeirio Rhanddeiliaid.
  • Herio cyrff cyhoeddus i edrych ar y modd y gallant ddefnyddio caffael fel cyfrwng i roi prawf ar ddulliau newydd o feddwl a dod o hyd i ddulliau drwy y rhain y gall caffael gyflawni llawer mwy na dim ond cynhyrchion a gwasanaethau, a hynny drwy ddefnyddio’r ymagwedd cylch bywyd cyfan, gan gyfrannu at yr agenda dim-gwastraff a datgarboneiddio a chyflwyno materion gwirioneddol i gymunedau, yng Nghymru a gwledydd sy’n datblygu. Rydyn ni wedi bod yn gweithio gydag ystod o sefydliadau yn cynnwys WRAP, Cyfnewid Arfer Da a Busnes yn y Gymuned i archwilio cyfleoedd i gydweithio, i herio a newid y ffordd y mae caffael yn cael ei weithredu yng Nghymru.
  • Gweithio gyda’r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i ddylanwadu ar ddatblygiad fframweithiau bwyd newydd yn y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol – Canlyniad y gwaith hwn yw bod 80% o’r cyflenwyr ar y contractau newydd bwyd ffres yn FBaChau Cymreig.
  • Wedi cynnwys cyngor ar gaffael yn fy nghyngor statudol i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus.
  • · Wedi cefnogi ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at ddatblygu prosiectau peilot sydd wedi eu ffocysu ar y Ddeddf, gan weithio gyda chynghorau Caerffili, Torfaen, Sir Fynwy, Ceredigion a Sir Benfro i ddatblygu ymagwedd effeithiol a chyson tuag at gymhwyso’r Ddeddf i weithgaredd caffael mewn sefydliadau, y gellir wedyn eu hefelychu drwy Gymru gyfan.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am waith y Comisiynydd ar gaffael gweler Datganiadau Newyddion a’r Wasg a chofrestrwch i dderbyn Cylchlythyr Cenedlaethau’r Dyfodol.