Korina yw ein Ysgogwr Newid Arweinwyr y Dyfodol ac mae’n canolbwyntio ar waith Academi Arweinwyr y Dyfodol. Mae’r Academi’n gweithio gydag amrywiaeth o noddwyr, partneriaid a chyfranogwyr ledled Cymru, i sicrhau bod pob sector yn ymwreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn eu gwaith a bod gan arweinwyr y dyfodol yr holl wybodaeth, sgiliau a chefnogaeth sydd eu hangen arnynt i wneud y byd yn lle gwell! Mae Korina yn angerddol am degwch, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac mae wrth ei bodd â chelf! Mae hi'n rhedeg busnes digwyddiadau cerddoriaeth byd ar yr ochr , gyda'r nod o uno a dathlu gwahanol ddiwylliannau yng Nghymru, ac mae hi'n rhedeg ac yn perfformio mewn band gwerin Groegaidd hefyd! Yn ei hamser rhydd mae Korina yn gwirfoddoli fel Ymddiriedolwr. Mae hi hefyd wrth ei bodd bod yn yr awyr agored gyda’i chi, mynd i gigs, teithio gyda theulu a ffrindiau, a gwneud gwaith camera ar gyfer fideos cerddoriaeth!