Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Beth yw rôl y Comisiynydd?
Fy ngwaith i yw bod yn warchodwr cenedlaethau’r dyfodol. Mae hynny’n golygu helpu cyrff cyhoeddus a’r rhai sy’n gwneud polisi yng Nghymru i feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau.
Er enghraifft, os ydym yn gwybod y gallai tua 35% o swyddi yn y DU ddiflannu o ganlyniad i robotiaid, deallusrwydd artiffisial neu gyfrifiaduron, beth mae hynny’n mynd i’w olygu i chi, eich plant a’ch wyrion ac wyresau?
Rydym yn gwybod y byddwn yn byw’n hirach, ond a ydym am fyw bywydau iach, actif ynteu a ydym yn mynd i fyw gyda salwch a chyflyrau iechyd hirdymor?
Mae gwir angen i gyrff cyhoeddus ganolbwyntio ar sut mae eu penderfyniadau yn mynd i gael effaith hirdymor, a gweithio gyda’i gilydd i atal problemau rhag digwydd, gan gydnabod na all unrhyw gorff cyhoeddus unigol ar ben ei hun ymateb i rai o’r heriau mawr a wynebwn.
Mae gennym i gyd ran i’w chwarae wrth adeiladu’r Gymru yr ydym am ei gweld yn y dyfodol.
Darllenwch fy nghynllun strategol yma.
Pwy yw'r Comisiynydd presennol?
Dechreuais yn y swydd yn 2016 ac rwyf wedi arwain ymyriadau proffil uchel yn ymwneud â chynllunio trafnidiaeth, diwygio addysg a’r newid yn yr hinsawdd, gan herio’r Llywodraeth ac eraill i ddangos sut y maent yn ystyried cenedlaethau’r dyfodol.Fel un a ddisgrifiwyd gan y Cylchgrawn Big Issue fel un o’r Gwneuthurwyr Newid mwyaf blaengar yn y DU, mae fy hymyriadau wedi sicrhau newidiadau sylfaenol mewn polisi cynllunio defnydd tir, cynlluniau trafnidaeth o bwys a pholisi’r Llywodraeth ar dai - gan sicrhau bod y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud heddiw yn addas ar gyfer y dyfodol.
Rwyf wedi cynrychioli Cymru yn y Cenhedloedd Unedig, yr OECD ac ar nifer o Fforymau Rhyngwladol yn cynnwys cadeirio ‘Rhwydwaith o Sefydliadau ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol’.
Gwrandewch I Sophie Howe ar 'Four Thought' Radio Four.
Beth yw pwerau a dyletswyddau’r Comisiynydd?
Fy nyletswyddau cyffredinol yw:
“Hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy, yn benodol i weithredu fel gwarcheidwad gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion ac annog cyrff cyhoeddus i roi mwy o ystyriaeth i effaith hirdymor yr hyn a wneir ganddynt.”
“Monitro ac asesu i ba raddau y mae’r nodau llesiant a osodwyd gan gyrff cyhoeddus yn cael eu gwireddu.”
Gallaf:
- Ddarparu cyngor i gyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
- Gynnal adolygiadau o sut mae cyrff cyhoeddus yn cymryd i ystyriaeth effaith hirdymor eu penderfyniadau
- Gwneud argymhellion yn dilyn adolygiad
Diffiniwyd diben fy sefydliad fel a ganlyn:
Amlygu materion
Amlygu’r materion pwysig, yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol
Cefnogi a herio
Cefnogi a herio cyrff cyhoeddus i feddwl am effaith hirdymor y pethau y maent yn eu gwneud
Gweithio gyda’n gilydd
Cefnogi a herio cyrff cyhoeddus i feddwl am effaith hirdymor yr hyn a wneir ganddynt
Gweithredu yn ogystal â thrafod
Gweithredu yn ogystal â thrafod – ysgwyddo’r hyn yr ydym yn dymuno ei weld mewn eraill
Pa bwerau sydd gan y Comisiynydd?
Fel Comiysinydd, rhaid i mi hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gweithredu fel gwarcheidwad cenedlaethau’r dyfodol ac annog cyrff cyhoeddus i feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau. I wneud hyn, mae’r gyfraith yn caniatáu i’r Comisiynydd:
- Rhoi cyngor neu gymorth i gorff cyhoeddus;
- Rhoi cyngor i Archwilydd Cyffredinol Cymru ar yr egwyddor datblygu cynaliadwy;
- Rhoi cyngor neu gymorth i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â pharatoi ei chynllun llesiant lleol;
- Rhoi cyngor neu gymorth i unrhyw berson arall y mae’r Comisiynydd yn ystyried ei f/bod yn cymryd (neu’n dymuno cymryd) camau a allai gyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant;
- Annog arfer gorau ymhlith cyrff cyhoeddus wrth gymryd camau i gyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;
- Hyrwyddo ymwybyddiaeth ymysg cyrff cyhoeddus o’r angen i gymryd camau i gyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy;
- Annog cyrff cyhoeddus i weithio gyda’i gilydd a gyda phersonau eraill pe gallai hyn eu cynorthwyo i gyflawni eu hamcanion llesiant;
- Ceisio cyngor panel cynghori mewn perthynas ag arfer unrhyw un o swyddogaethau’r Comisiynydd.
Gallaf hefyd gynnal ymchwil i ddarganfod i ba raddau y mae’r nodau llesiant a’r dangosyddion cenedlaethol yn gyson â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, yn ogystal ag i ba raddau y mae’r egwyddor datblygu cynaliadwy’n cael ei hystyried mewn dangosyddion cenedlaethol a nodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Yn olaf, gallaf gynnal adolygiadau ffurfiol i roi mewnwelediad iddi ar sut mae cyrff cyhoeddus yn cymhwyso’r Ddeddf. Fodd bynnag, mae’n bwysig i nodi nad yw cynnal adolygiad yn caniatáu imi wyrdroi penderfyniadau penodol a wnaed eisoes. Mae’n fecanwaith i ddarganfod a yw cyrff cyhoeddus yn amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol ac i wirio a ydynt wedi meddwl am effaith hirdymor eu gweithredoedd. Ar ddiwedd adolygiad, gallaf wneud argymhellion i gynghori ar sut y dylai’r corff cyhoeddus gymhwyso’r Ddeddf yn y dyfodol.