Effaith y Ddeddf

Gweithredu heddiw ar gyfer gwell yfory

Pasiwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gan Lywodraeth Cymru yn 2015.

Yn unigryw i Gymru, mae’r Ddeddf wedi denu diddordeb o wledydd ledled y byd, yn cynnig cyfle enfawr i wneud newid cadarnhaol, hirdymor i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Crëwyd rôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol hefyd ochr yn ochr â’r Ddeddf i ddarparu cyngor i’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru ar gyflawni llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol ac er mwyn asesu ac adrodd ar sut y cânt eu cyflawni.

Mae llawer o sefydliadau mawr a bach hefyd yn rhan o’r mudiad hwn oherwydd eu bod am fod yn rhan o ymdriniaeth Tîm Cymru. Mae athrawon, meddygon, darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, cymunedau a busnesau, arweinwyr a phobl ifanc mewn ysgolion, awdurdodau lleol, canolfannau hamdden, canolfannau ailgylchu, cymdeithasau adeiladu, safleoedd adeiladu, cyrchfannau twristiaeth a mwy ‘yn rhan o’r Ddeddf’ – gan helpu i greu Cymru sy’n iachach, yn fwy cyfartal, yn gydnerth yn amgylcheddol, yn gyfrifol yn fyd-eang, yn lewyrchus, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu.

Mae’r gwaith hwn a’r fideos isod yn dangos ond rhai o’r ffyrdd y mae’r Ddeddf yn gwneud gwahaniaeth i fywyd yng Nghymru hyd yn hyn.

Beth mae Cymru yn ei wneud heddiw, bydd y Byd yn ei wneud yfory
Y Cenhedloedd Unedig | Nikhil Seth (Cyn Bennaeth Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig)

Effaith

Mewn saith mlynedd fer, mae’r Ddeddf wedi mynnu atebion hirdymor i heriau mwyaf y wlad ac wedi gofyn i wasanaethau cyhoeddus gydweithio a chynnwys pobl mewn penderfyniadau sy’n gwella ein llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.

Yn un o’i chyflawniadau mwyaf, mae’r Ddeddf wedi helpu i greu newid sylfaenol yn y ffordd y mae Cymru’n mesur llwyddiant, gan werthuso cynnydd yn seiliedig ar lesiant, yn hytrach na CMC. Diffinio ‘Cymru Lewyrchus’ fel un sy’n cyflawni gwaith da a chymdeithas carbon isel.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn sicrhau bod Cymru’n dod yn genedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang, gan ddarparu sgiliau i bobl ifanc ar gyfer y dyfodol, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau a hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol hirdymor.

Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud yma yng Nghymru yn ysbrydoliaeth ar draws y byd, i wledydd fel yr Alban, Iwerddon, Canada, Ffrainc, yr Almaen, Gibraltar, Seland Newydd a Japan, sydd eisiau dysgu gan Gymru a datblygu eu dulliau cenhedlaeth y dyfodol eu hunain.

Map

A ydych yn rhan o’r Ddeddf?

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn diogelu Cymru at y dyfodol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a’r genhedlaeth nesaf drwy wella llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd.

Mae llawer i’w wneud o hyd ond mae Cymru’n dangos i weddill y byd yr hyn y gellir ei gyflawni, a dim ond newydd ddechrau rydym ni.

Gweithredu heddiw ar gyfer gwell yfory

 

Diddordeb mewn mwy o enghreifftiau o sut mae’r Ddeddf wedi cael effaith ar draws Cymru a’r Byd?