Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi ymrwymo i weithredu er budd cenedlaethau’r dyfodol, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, drwy gynghori, annog a hyrwyddo’r modd y mae cyrff cyhoeddus yn gweithio tuag at nodau llesiant y Ddeddf ac ystyried y pum dull o weithio. Mae’r Comisiynydd wedi ymrwymo i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, ac fel rhan o’r ymrwymiad hwnnw ein nod yw:

  • Darparu proses hygyrch, syml a thryloyw ar gyfer ymchwilio cwynion am y gwasanaeth yr ydym yn ei roi
  • Ymateb yn gyflym i gwynion; ac
  • Ymddiheuro a darparu iawndal priodol os yr ydym wedi rhoi gwasanaeth gwael

Rydym yn croesawu eich adborth, gan ei fod yn ein helpu i wella’n gwasanaeth yn barhaus a sicrhau nad yw problemau’n cael eu hailadrodd, felly os gwelwch yn dda dwedwch wrthym pan fydd problem yn cyrraedd.

Sut ydw i’n cwyno?

Os yr ydych yn anhapus ynghylch:

  • ein gwasanaeth
  • ymchwiliad o fater yr ydych wedi ei godi
  • penderfyniad i beidio ag ymchwilio mater yr ydych wedi ei godi
  • canlyniad ymchwiliad

gallwch ddefnyddio’r weithdrefn gwyno hon. Gallwch hefyd ddefnyddio’n gweithdrefn gwyno i gwyno am bethau eraill, er enghraifft, efallai y byddwch yn dymuno cwyno am oedi eithriadol mewn ymateb i ohebiaeth, neu eich bod yn teimlo bod aelod o’r staff wedi bod yn anghwrtais neu wedi methu helpu; neu ein bod wedi methu gwneud yr hyn yr oeddem wedi dweud y dylasem ei wneud. Os yn bosibl dylech roi cyfle i’r aelod o staff sydd wedi achosi pryder i ddelio â’r gwyn yn y lle cyntaf.

Fodd bynnag, os nad ydych yn siŵr â phwy y dylech gysylltu, neu os nad ydych yn fodlon â’r modd y mae eich cwyn wedi cael ei thrin gan aelod o staff, os gwelwch yn dda cysylltwch â’r Cyfarwyddwr Cyllid a Llywodraethu Corfforaethol:

Cyfarwyddwr Cyllid a Llywodraethu Corfforaethol

Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Tramshed Tech

Stryd Pendyris

Caerdydd CF11 6BH

Ffôn: 029 2167 7400
Ebost: cysylltwchani@cenedlaethaurdyfodol.cymru

Er y gallwch drafod cwynion gyda’n staff, rydym yn argymell eich bod yn cwyno’n ysgrifenedig. Gallwch ysgrifennu eich cwyn yn Gymraeg neu Saesneg.

Pan fyddwch yn ysgrifennu atom, os gwelwch yn dda dwedwch wrthym beth yw eich cyfeiriad a’ch rhif ffôn, ac os oes gennych unrhyw anghenion cyfathrebu ychwanegol megis yr angen am brint bras, os gwelwch yn dda rhowch wybod i ni a gwnawn ein gorau i ddarparu ar eich cyfer

Beth sy’n digwydd i fy nghwyn?

Bydd y Cyfarwyddwr Cyllid a Llywodraethu Corfforaethol (y Cyfarwyddwr) ei hunan yn delio â’ch cwyn. Unwaith yr ydych wedi gwneud cwyn i’r Cyfarwyddwr fe fydd hi’n anfon cydnabyddiaeth o fewn pum diwrnod gwaith o dderbyn eich llythyr neu eich e-bost.
Bydd y Cyfarwyddwr yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i’r materion yr ydych wedi eu codi ac yn gwneud ymchwiliad fel y bo’n briodol. Bydd yr ymchwiliad yn cychwyn ar yr union adeg yr ydych wedi derbyn cydnabyddiaeth.
Os ydyw’r gwyn yn ymwneud â’r Cyfarwyddwr, neu os ydyw’r Cyfarwyddwr wedi ymgyfrannu yn y mater yr ydych yn cwyno amdano, bydd uwch aelod o’r staff yn ymchwilio yn ei lle. Os bydd y Cyfarwyddwr yn penderfynu bod eich cwyn yn ddilys, byddwn yn anfon ymddiheuriad atoch yn ysgrifenedig, ynghyd â manylion am unrhyw gamau eraill sydd yn ein barn yn angenrheidiol o dan yr amgylchiadau, yn cynnwys yr hyn y byddwn yn ei wneud i atal y broblem rhag digwydd eto. Os bydd y Cyfarwyddwr yn penderfynu nad yw eich cwyn yn ddilys, byddwn yn ysgrifennu atoch gydag eglurhad.
Ein nod yw anfon ateb llawn am bob cwyn ymhen 20 diwrnod o’u derbyn. Os nad yw hynny’n bosibl, er enghraifft os ydyw’r mater yr ydych wedi ei godi’n gofyn am waith manylach, byddwch yn rhoi gwybod i chi.

Oes terfyn amser ar gyfer cwyno?

Gall fod yn anodd ymchwilio materion sydd wedi digwydd beth amser yn ôl. Yn gyffredinol, byddem yn disgwyl i chi wneud unrhyw gwyn am y gwasanaeth o fewn cyfnod rhesymol yn dilyn eich ymwybyddiaeth o’r broblem ac mewn unrhyw achos, o fewn deuddeg mis.

Beth os nad wyf yn fodlon â’r ymateb i fy nghwyn?

Dylech ysgrifennu eto at y Cyfarwyddwr yn datgan eich bod yn dymuno apelio i’r Comisiynydd. Dylech nodi mor glir â phosibl pam yr ydych yn anfodlon â’r ymateb a wnaed i’ch cwyn.
Bydd y Cyfarwyddwr yn cydnabod eich apêl o fewn pum diwrnod gwaith o’i derbyn. Bydd y Comisiynydd yn ystyried eich apêl yn bersonol yr adeg honno a’i nod fydd anfon ateb llawn atoch o fewn 20 diwrnod gwaith. Eto, os nad yw hyn yn bosibl, bydd yn rhoi gwybod i chi.
Mae penderfyniad y Comisiynydd yn derfynol. Byddwn yn cydnabod gohebiaeth bellach oddi wrthych ond, oni bai bod hyn yn codi materion newydd sydd yn ein barn yn arwyddocaol, ni fyddwn yn anfon atebion pellach o sylwedd atoch.

A fedraf apelio yn erbyn barn y Comisiynydd?

Os nad ydych yn fodlon â phenderfyniad y Comisiynydd, gallwch ofyn i Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg annibynnol adolygu ei phenderfyniad.