Cymru Can: Ein Gweledigaeth a’n Pwrpas
Mae Cymru Can yn nodi ein strategaeth newydd ar gyfer 2023 – 2030 a’n gweledigaeth hirdymor.
Mae’n crynhoi’r dull y bwriadwn ei fabwysiadu dros y saith mlynedd nesaf, yn rhoi trosolwg o’r ffordd y byddwn yn gweithio ac yn amlinellu sut y byddwn yn mesur ein heffaith.
Darllenwch Cymru Can, ein strategaeth newydd ar gyfer 2023 – 2030.
Darllenwch ein hadroddiad methodoleg ar gyfer Cymru Can.
Gwyliwch y fersiwn BSL o’n fideo Cymru Can.
Darllenwch ein fersiwn Hawdd ei Ddarllen.
Dysgwch fwy am y rhai sydd wedi’u cynnwys yn y fideo Cymru Can.
Ein Gweledigaeth
Cymru sy’n lle gwell i fyw ac mae ganddi ddyfodol disglair ac optimistaidd – ffyniannus, cynhwysol a gwyrdd.
Gyda’n gilydd rydym wedi diogelu buddiannau’r rhai sydd heb eu geni eto. Mae llesiant a meddwl hirdymor wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. Cymru Can.
Ein Pwrpas
Rydym yn llais ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, yn gweithredu heddiw er mwyn sicrhau gwell yfory. Rydym yn cynghori ac yn herio, gan ddwyn y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i gyfrif. Rydym yn ysbrydoli, yn ymgynnull ac yn cynnull i gael yr effaith fwyaf posibl.
Ynghyd ag eraill, rydym yn tyfu mudiad dros newid – gan roi meddwl hirdymor a ffocws ar y dyfodol wrth wraidd popeth a wnawn.
Ein Cenadaethau
Mae Cymru Can yn crynhoi’r dull y bwriadwn ei fabwysiadu dros y saith mlynedd nesaf tuag at gyflawni’r weledigaeth hon. Mae’n nodi ein pum cenhadaeth:
Fe wnaethom hefyd nodi pynciau, themâu neu systemau sy’n cysylltu ein holl genadaethau, megis y system fwyd, deallusrwydd artiffisial a digidol, y byddwn yn eu harchwilio’n fanylach.
Rydym yn mabwysiadu ymagwedd ‘Theori Newid’ at gynllunio ein cenadaethau, sy’n golygu ein bod yn gwneud cysylltiadau clir rhwng yr hyn a wnawn, a’r hyn yr ydym am ei gyflawni (ein heffaith).
Drwy gyflawni’r rhain, byddwn yn gallu mynd i’r afael â materion y mae pobl yn poeni amdanynt fel iechyd ein hafonydd, y prinder tai, anghydraddoldeb parhaus, a’r argyfwng costau byw. A byddwn yn defnyddio’r wybodaeth, y mewnwelediadau a’r cysylltiadau yr ydym wedi’u meithrin yn ystod 2016-2023.
Mae cwmpas eang i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac mae dull Cymru Can wedi’i gynllunio i sicrhau y gallwn ganolbwyntio ein gwaith lle y gall fod yn fwyaf effeithiol. Nid yw’n golygu na fyddwn yn cymryd rhan yn unman arall mewn meysydd nad ydynt wedi’u cynnwys yn y strategaeth hon, ond yn hytrach mai ein cenadaethau fydd lle bydd y rhan fwyaf o’n hadnoddau’n mynd a lle rydym yn meddwl y gallwn gael yr effaith fwyaf.
Byddwn yn symud adnoddau i gynyddu ein hymgysylltiad a chyngor arbenigol i gyrff cyhoeddus, mewn ffordd sy’n cydnabod y pwysau sydd arnynt, er mwyn sicrhau bod gan y rhai y mae’n rhaid iddynt gymhwyso Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yr ymwybyddiaeth, y ddealltwriaeth, yr hyder a’r offer sydd eu hangen arnynt i wneud hynny.
Byddwn yn adolygu ac yn mesur ein hymagwedd wrth fynd ymlaen, gan gynnwys eraill i wneud yn siŵr ein bod bob amser yn cael yr effaith fwyaf y gallwn gyda’n hadnoddau.
Dros yr ychydig fisoedd nesaf, byddwn yn ymuno â sefydliadau a phobl a all ein helpu i gyflawni ein cenadaethau. Os hoffech chi fod yn rhan o’r gwaith hwn, anfonwch e-bost atom yn cysylltwchani@cenedlaethaurdyfodol.cymru.
Ein Gwerthoedd
Bob dydd, rydym yn gweithio tuag at ein gweledigaeth, wedi’i hategu gan set o werthoedd craidd a rennir:
Rydym yn Gynhwysol; Beiddgar; Agored; Cefnogol ac Optimistaidd.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am ein gwerthoedd a’n diwylliant yma.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ymwneud â gwella bywydau nawr, y flwyddyn nesaf, ymhen 25, 50, 100 mlynedd i’r dyfodol – a mwy.
Wrth i ni geisio ailadeiladu’r system heddiw, rhaid i ni ei wneud mewn ffordd sy’n helpu pawb yfory.
Mae’n her, ond yn un hanfodol, a bydd y buddion yn enfawr i bob un ohonom.
Derek Walker | Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru