Meddyliwch am y person ieuengaf rydych chi’n ei adnabod. Sut olwg fydd ar eu bywyd yn 2050? Beth am 2100? Beth maen nhw’n ei fwyta? Lle maen nhw’n byw? Sut fyddan nhw’n dathlu eu pen-blwydd? 

Nawr dychmygwch y ddolen anweledig sy’n eich cysylltu yn y presennol â’r ddelwedd honno o’r dyfodol. Sut fydd eich penderfyniadau heddiw yn effeithio ar eu dyfodol yn 2100? Sut gallwn ni fod yn hynafiaid da sydd eu hangen ar genedlaethau’r dyfodol, a gadael byd gwell ar ein hôl?   

Nid meddwl yn hirdymor yw’r unig un o’r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – dyma’r syniad sy’n eistedd wrth wraidd y ddeddfwriaeth. Mae’r Ddeddf yn diffinio meddwl yn y tymor hir fel: “Y pwysigrwydd cydbwyso anghenion tymor byr â’r angen i ddiogelu’r anghenion tymor hir, yn enwedig pan fydd pethau’n cael eu gwneud i ddiwallu anghenion tymor byr gael effeithiau niweidiol yn y tymor hir.”  

Bydd dyfodol yn digwydd p’un a ydym yn meddwl amdano ai peidio ond gall meddwl am y tymor hir ein helpu i lywio byd cynyddol gymhleth ac ansicr mewn ffordd sy’n lleihau risg ac yn datgloi cyfleoedd. Gall ein helpu i adeiladu gwytnwch yn ein systemau a mynd allan o’r modd ‘delio â argyfyngau byr dymor’ cyson.

Fodd bynnag, gall fod yn anodd meddwl yn y tymor hir pan fydd blaenoriaethau wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn y presennol. Bydd angen amser ac ymdrech, ochr yn ochr â gwybodaeth a sgiliau newydd i ymgymryd â’r newid diwylliannol ac ymddygiadol sylweddol hwn.

Er mwyn cefnogi’r newid hwn, rydym wedi creu a llunio adnoddau a all eich helpu i feddwl am y tymor hwy a gweithredu heddiw er gwell yfory.

Rydym hefyd yn trefnu ac yn darparu diwrnodau hyfforddi a sesiynau gyda chyrff cyhoeddus i’w helpu i gynllunio a defnyddio dulliau meddwl hirdymor yn eu gwaith. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithdai dyfodol neu os hoffech drafod meddwl yn y tymor hir, cysylltwch â ni drwy cysylltwchâni@cenedlaethaurdyfodol.cymru a nodi ar gyfer sylw Petranka Malcheva.