Byddwn yn ei gwneud yn genhadaeth i sicrhau bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei gweithredu’n effeithiol a chydag uchelgais mewn ffordd sy’n gwella bywydau pobl Cymru nawr ac yn y dyfodol.

Mae’r Ddeddf yn unigryw yn yr uchelgais y mae’n ei gosod i Gymru ac mae’n ysbrydoli eraill ar draws y byd, gyda’r Cenhedloedd Unedig yn datgan, “yr hyn y mae Cymru’n ei wneud heddiw, bydd y Byd yn ei wneud yfory”. 

Ond er gwaethaf arfer da cynyddol, nid yw’n cael ei weithredu ar y cyflymder a’r raddfa angenrheidiol. 

Ein cenhadaeth yw sicrhau bod gweithredu’r ddeddfwriaeth hon yn gwireddu ei photensial yn llawn, er mwyn cau’r bwlch rhwng dyhead a chyflawni. Dyma ein cenhadaeth graidd ac mae’n sail i bopeth a wnawn. 

Mae’n golygu adeiladu ar yr hyn sydd wedi dod o’r blaen a mynd ymhellach, gan sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cael eu cefnogi’n llawn i ddefnyddio’r Ddeddf, gydag uchelgais, i ysgogi newid. Pan na fydd hynny’n digwydd, byddwn yn ei alw allan. 

Damcaniaeth Newid Gweithredu ac Effaith 

Byddwn yn ei gwneud yn genhadaeth i sicrhau bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei gweithredu’n effeithiol a chydag uchelgais mewn ffordd sy’n gwella bywydau pobl Cymru nawr ac yn y dyfodol. 

Yr Angen

Nid yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei rhoi ar waith ar y cyflymder a’r raddfa angenrheidiol. 

Nid yw’r egwyddor datblygu cynaliadwy a’r pum ffordd o weithio yn cael eu cymhwyso’n gyson; ac mae amrywiaeth yn ansawdd yr amcanion llesiant a bennir gan gyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. 

Gweithgaredd

1. Teilwra adnoddau a hyfforddiant presennol a chyhoeddi offer newydd sy’n darparu cefnogaeth. 

2. Ehangu ein Hacademi Arwain Cenedlaethau’r Dyfodol a’n rhaglen ryngwladol i hwyluso cyfnewidiadau dysgu rhwng cyrff cyhoeddus, llunwyr polisi byd-eang, ac eraill. 

3. Bod yn ganolbwynt ar gyfer meddwl ac arbenigedd hirdymor. 

4. Sicrhau bod cyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynhyrchu ac yn defnyddio amcanion llesiant sy’n gweithio ar gyfer y tymor hir ac sy’n ysgogi cynnydd gwirioneddol tuag at nodau llesiant Cymru. 

5. Gweithio gydag eraill, gan gynnwys Archwilio Cymru, i ddatblygu system fonitro effeithiol i olrhain cynnydd ar amcanion llesiant. 

Canlyniadau 

Mae cyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwneud y mwyaf o’u cyfraniad at y Nodau drwy eu hamcanion llesiant. 

Mae gan gyrff cyhoeddus fwy o ddealltwriaeth a hyder wrth gyflwyno dulliau hirdymor a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  

Mae cyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn ymwybodol o sut beth yw daioni wrth gymhwyso Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn effeithiol a chydag uchelgais.

Mae mwy o bobl, o bob oed, yn eiriol dros ddulliau hirdymor ac er budd cenedlaethau’r dyfodol. 

Effaith  

Mae’r canlyniadau i bobl yng Nghymru wedi gwella fel y’u mesurwyd gan y 50 o ddangosyddion a cherrig milltir llesiant cenedlaethol. 

Mae Cymru yn gymdeithas gydnerth, carbon isel gyda gwaith teg; yn fwy cyfartal, iachach, a chyfrifol yn fyd-eang; gyda chymunedau cydlynus, diwylliant ffyniannus a’r Gymraeg yn fywiog. 

Ein Cenadaethau 

 

Adnoddau a gwybodaeth bellach: