Byddwn yn ei gwneud yn genhadaeth i hwyluso trawsnewid yn y ffordd yr ydym yn cadw pobl yn iach, gyda mwy o ffocws ar atal a'r tymor hir. O ganlyniad, mae cyrff cyhoeddus yn cydweithio i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol afiechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Mae iechyd yn ganolog i’n llesiant ac mae’r GIG yn un o sefydliadau mwyaf gwerthfawr y wlad. Mae dros hanner cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei gwario ar iechyd, ond mae lefelau salwch y gellir eu hatal ac anghydraddoldebau iechyd yn parhau i fod yn uchel. Mae gan y rhai sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig ddisgwyliad oes is ar gyfartaledd o hyd, ac rydym yn aml yn clywed am y rhwystredigaethau y mae pobl yn eu profi oherwydd rhestrau aros a’r angen am wasanaethau cydgysylltiedig. 

Er gwaethaf gwaith caled ac ymroddiad y gweithlu ar draws ein sector iechyd a gofal cymdeithasol, y llu o ddulliau arloesol o ymdrin â llesiant gydol oes ac ehangu dulliau megis rhagnodi cymdeithasol, prin yw’r cynnydd a wneir tuag at Gymru iachach. 

Ein rôl unigryw yw cefnogi’r sector iechyd i gymhwyso dulliau hirdymor ac ataliol; helpu i arfogi pob corff cyhoeddus i ddeall eu rôl o ran atal afiechyd; a gwneud mwy i rannu enghreifftiau ac eiriol dros bobl sy’n gwneud pethau da. Mae angen i ni chwarae rhan mewn newid y naratif o un lle rydym yn cwestiynu ar y cyd a all y GIG ymdopi neu a yw’n addas ar gyfer y dyfodol, i un lle rydym yn mynegi ac yn datrys y ffyrdd y mae’r system ehangach yn gwneud pobl yn afiach. 

Byddwn yn cefnogi cyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, fel eu bod yn cydweithio i ddefnyddio pob lifer sydd ganddynt, i gofleidio ‘iechyd ym mhob polisi.’ Byddwn yn defnyddio ein pwerau a’n dyletswyddau i gynnull, cynghori, monitro, ac adolygu. 

Damcaniaeth Newid Iechyd a Llesiant 

Byddwn yn ei gwneud yn genhadaeth i hwyluso trawsnewid yn y ffordd yr ydym yn cadw pobl yn iach, gyda mwy o ffocws ar atal a’r tymor hir. O ganlyniad, mae cyrff cyhoeddus yn cydweithio i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol afiechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. 

Yr Angen 

Mae cynnydd tuag at Gymru Iachach yn rhy araf. 

Mae salwch y gellir ei atal ar gynnydd ac mae anghydraddoldebau o ran canlyniadau iechyd yn uchel mewn llawer o gymunedau. 

Mae’r baich ar iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol yn anghynaladwy heb symud i system fwy ataliol.  

Gweithgaredd 

1. Galluogi pob corff cyhoeddus i ddeall eu rôl o ran atal afiechyd ac i gymhwyso dulliau hirdymor ac ataliol. 

2. Cynnull cyrff cyhoeddus, grwpiau cymunedol ac eraill i hwyluso cyfnewidiadau dysgu ar yr agenda iechyd. 

3. Rhannu enghreifftiau o arfer da ac eirioli dros y bobl hynny sy’n gwneud pethau da. 

4. Sicrhau bod sefydliadau y tu allan i’r GIG yn defnyddio eu ysgogwyr i wella iechyd a llesiant, mewn meysydd fel tai, addysg, a chynllunio defnydd tir. 

5. Gweithio gydag eraill i ddeall yn well oblygiadau tueddiadau’r dyfodol a photensial atebion yn y dyfodol.  

Canlyniadau 

Deellir y model cymdeithasol o iechyd ac mae’n ffocws i amcanion llesiant.

Mae newid mewn cyllidebau a chynllunio tuag at atal yn Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus. 

Mae mwy o gydweithio ac integreiddio yn digwydd rhwng y GIG, gofal cymdeithasol, a sefydliadau perthnasol eraill, er enghraifft rhannu data, cyllidebau, cynlluniau ac ymgyrchoedd. 

Mae ystod fwy amrywiol o bobl yn ymwneud â chydgynhyrchu gwasanaethau.   

Effaith  

Mae Cymru’n lleihau nifer yr achosion o glefydau y gellir eu hatal, gan gymharu’n dda â gwledydd eraill y DU. 

Mae anghydraddoldebau iechyd wedi gostwng, ac mae disgwyliad oes iach yn cynyddu.  

Bydd profiad pobl o’n gwasanaethau iechyd yn well gyda chynlluniau iechyd a gofal cydgysylltiedig. 

Ledled Cymru rydym wedi creu amgylcheddau er llesiant sy’n hybu llesiant – nid yn achosi salwch.

Ein Cenadaethau 

 

Adnoddau a gwybodaeth bellach: