Maniffesto y Dyfodol

Mae ein cenedlaethau iau yn tynnu sylw at fethiannau penderfyniadau’r gorffennol, ac yn anffodus, mae hyn yn aml iawn yn cynnwys penderfyniadau’r presennol sy’n methu ystyried eu dyfodol – rhywbeth sy’n creu embaras, efallai, ond sy’n angenrheidiol. A gyda mudiadau ieuenctid yn tyfu ledled y byd, ochr yn ochr â’r gostyngiad mewn oedran pleidleisio yma yng Nghymru, ni fedr gwneuthurwyr polisi bellach anwybyddu eu lleisiau a’u gobeithion am ddyfodol gwell.

Fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, rwyf am fod yn lleisiol ar eu rhan a galw ar y Llywodraeth Cymru nesaf i ymrwymo i greu Cymru well – maniffesto radical a dewr ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae Etholiadau Seneddol 2021 yn rhoi’r cyfle i Gymru greu’r dyfodol yr ydym ei eisiau. Mae hefyd yn etholiad arwyddocaol, gan ei fod yn caniatáu cyfle i bobl 16 ac 17 mlwydd oed bleidleisio am y tro cyntaf.

Etholiadau Seneddol 2021

Rydyn ni’n byw drwy amseroedd anodd; o’r profiad argyfyngus o golli bywyd, pwysau ar wasanaethau cyhoeddus, cael ein gwahanu oddi wrth y rhai rydyn ni’n eu caru, i’r dinistr posibl hirdymor i’r economi, swyddi a bywoliaethau. Nid yw’r angen i feddwl a chynllunio ar gyfer y dyfodol erioed wedi bod mor berthnasol. Mae llawer o ganfyddiadau ac argymhellion y ddogfen hon yn ceisio amlygu sut y gallwn wneud hynny’n well. Ym mhob argyfwng mae yna ddau gyfnod: yn y cyntaf rydych chi’n ymateb, ac yn yr ail, yn dysgu. I fod yn llwyddiannus mae’n rhaid i chi brofi’r ddau.

Ym Mai 2020, cyhoeddais fy adroddiad statudol – Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol (Yr Adroddiad), sy’n mynegi’r cynnydd a wnaed gan gyrff cyhoeddus tuag at gyflawni eu dyletswyddau a fy nisgwyliadau innau o dan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae cynnwys Yr Adroddiad wedi manteisio ar fy nghysylltiad â dros 5,000 o unigolion a sefydliadau yng Nghymru.

“Pan fydd gwleidyddion yn methu edrych tu hwnt i’r etholiad nesaf – maent yn esgeuluso hawliau cenedlaethau’r dyfodol.”

– Roman Krznaric

Mae’r ddogfen hon yn cynnwys argymhellion allweddol y dylai pleidiau gwleidyddol, yn fy marn, eu hystyried o fewn eu gwaith maniffesto. Gallwch ddod o hyd i’r rhestr gyflawn isod.

Dylid darllen yr Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol llawn (a’i argymhellion) ar y cyd â’r ddogfen hon. Mae’r argymhellion a amlygir o fewn y Maniffesto hwn yn cyfrannu tuag gyflawni’r saith nod llesiant.

Wrth i ni agosau at yr etholiad – ymunwch â’r mudiad a hyrwyddo’r Gymru a garem.

Defnyddiwch yr hashnod #CymruEinDyfodol yn eich gweithgaredd cyfryngau cymdeithasol.

Y 48 Argymhelliad

Y 48 Argymhelliad

  1. Buddsoddi mewn natur a blaenoriaethu ariannu a chymorth ar gyfer adfer cynefinoedd graddfa-fawr, bywyd gwyllt, creu a chysylltedd ledled Cymru.
  2. Buddsoddi mewn dulliau gwell o gysylltu a symud pobl drwy wella cysylltedd digidol, teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus.
  3. Datblygu pecyn ysgogiad economaidd sy’n arwain at greu swyddi ac sy’n cynorthwyo datgarboneiddio cartrefi.
  4. Buddsoddi mewn sgiliau a hyfforddiant i gefnogi’r newid i ddyfodol gwell, gan greu swyddi gwyrdd newydd.
  5. Buddsoddi mewn diwydiannau a thechnolegau’r dyfodol, a chefnogi busnesau a fydd yn helpu Cymru i arwain y chwyldro carbon isel a chloi cyfoeth a swyddi mewn ardaloedd lleol gyda buddsoddiad yn yr economi sylfaenol.
  6. Bod yn dryloyw wrth ddangos effaith carbon holl bolisïau a phenderfyniadau gwariant y Llywodraeth.
  7. Buddsoddi mewn ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd a Natur. Ymrwymo i gynyddu gwariant flwyddyn ar ôl blwyddyn.
  8. Datblygu strategtaeth system fwyd ar gyfer Cymru gan gysylltu holl rannau’r system fwyd o’r fferm i’r fforc.
  9. Sefydlu targedau adfer natur ar dir a môr yn cynnwys cwblhau’r rhwydwaith safleoedd gwarchodedig.
  10. Sicrhau fod pobl yn medru cael mynediad at fan gwyrdd naturiol o fewn 300 metr i’w cartref.
  11. Ymrwymo i wneud ein cymunedau’n wyrddach drwy sicrhau 20% o orchudd coed ym mhob tref a dinas yng Nghymru erbyn 2030.
  12. Ei gwneud yn ofynnol i seilwaith gwyrdd gael ei gyflwyno fel rhan o bob datblygiad newydd a chynlluniau a ariennir gan Lywodraeth Cymru megis gwella ysgolion, cymunedau a chyfleusterau iechyd ayyb.
  13. Sefydlu System Lles Genedlaethol i wella iechyd y genedl a lleihau’r galw ar wasanaethau.
  14. Penodi Gweinidog Atal a brigdorri cyllidebau i wario ar bolisïau ataliol.
  15. Creu cynllun ar gyfer ymateb i dueddiadau’r dyfodol*mewn ffordd sy’n lleihau anghydraddol-debau yn hytrach na’u gwaethygu. *megis awtomeiddio cynyddol, ein poblogaeth sy’n heneiddio a’r newid yn yr hinsawdd.
  16. Creu targedau heriol ar gyfer recriwtio menywod, pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, a phobl anabl ar draws y sector cyhoeddus.
  17. Creu Strategaeth Cydraddoldeb Hiliol i fynd i’r afael ag anghydraddo-ldebau sy’n cael eu profi gan gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru.
  18. Gwneud mynd i’r afael ag adfyd plentyndod yn flaenoriaeth a chreu strategaeth genedlaethol i rymuso holl wasanaethau cyhoeddus allweddol i gyflwyno ymyrraeth gynnar effeithiol, gynaliadwy seiliedig ar dystiolaeth.
  19. Gwneud gwahardd disgyblion o’r ysgol yn rhywbeth o’r gorffennol.
  20. Sefydlu gweledigaeth genedlaethol fel y gall Cymru ddod y genedl fwyaf eco-lythrennog a chyfrifol ar lefel byd-eang yn y byd.
  21. Gosod canllawiau moesegol clir i bensiynau’r sector cyhoeddus yng Nghymru’n cynnwys ymrwymiadau i ymwrthod â holl ffynonellau niweidiol, tanwydd ffosil, llygredd, gyrru nwyddau, datgoedwigo dramor ac arfau.
  22. Adeiladu ar y Genedl Noddfa; cydnabod pobl sy’n cael eu dadleoli yng nghyd-destun trychinebau a’r newid yn yr hinsawdd fel ffoaduriaid, ac eirioli drostynt i gael cynnig yr un amddiffyniad ag a gynigir i ffoaduriaid.
  23. Sefydlu gweledigaeth ar gyfer dysgu gydol oes.
  24. Sefydlu ac ariannu cenhadaeth genedlaethol a rennir ar gyfer addysg gan ddod â sgiliau busnes, y trydydd sector, gweithredwyr cymunedol, pobl hŷn a’r sector gwasanaeth ieuenctid i fod yn rhan canolog o gyflawni gofynion y cwricwlwm newydd.
  25. Sefydlu truth addysg i ariannu’r dull uchod a gweithredu’r cwricwlwm newydd yn ehangach.
  26. Cyflwyno cymwysterau seiliedig ar asesiad i ddisgyblion 16 mlwydd oed sy’n ffocysu ar amrywiaeth ac sydd wedi eu canoli o gwmpas disgyblion nid arholiadau.
  27. Archwilio cyfleoedd am wythnos waith fyrrach.
  28. Cyflwyno peilot Incwm Sylfaenol.
  29. Ystyried economeg llesiant ym mhob penderfyniad polisi, trefniadau ariannu a rhyngweithio gyda’r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol.
  30. Sicrhau bod asiantaethau diwylliannol Cymru’n cydweithio ac yn gweith-redu i fynd i’r afael ag argyfyngau’r hinsawdd a natur.
  31. Sefydlu Incwm Cyfranogiad Creadigol
  32. Datblygu ac ariannu ‘coridorau diwylliannol’ ledled Cymru sy’n annog y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i gysylltu safleoedd diwylliannol a chreadigol, rhaglenni a sefydliadau.
  33. Creu cymdogaethau 20 munud i alluogi pobl i gael mynediad at wasanaethau craidd yn agosach at eu cartrefi; gan greu cymunedau iachach, gwyrddach ac hapusach.
  34. Gwneud band eang yn wasanaeth cyhoeddus allweddol.
  35. Mabwysiadu ymagwedd sy’n creu lleoedd ar gyfer pob penderfyniad polisi cymunedol ac ariannol.
  36. Gwnewch dai yn hawl dynol.
  37. Gosod targed cenedlaethol ar gyfer newid moddol i alluogi pobl i fabwysiadu dulliau carbon isel o deithio.
  38. Cyflwyno trafnidiaeth am ddim i bobl ifanc Cymru.
  39. Dyrannu o leiaf 50% o wariant cyfalaf trafnidiaeth ar wella gwasanaethau bysiau a threnau.
  40. Annog arloesedd mewn datblygu tai a chymunedau sy’n pontio’r cenedlaethau.
  41. Ei gwneud yn ofynnol i bob datblygiad tai a ariennir yn gyhoeddus fod yn garbon niwtral.
  42. Cyflwyno rhaglen ‘Trac Cyflym Bywyd Go Iawn’ o fewn y Gwasanaeth Sifil a’r Sector Cyhoeddus i ennyn ymgyfraniadpobl â phersbectifau a phrofiadau ehangach mewn datblygiad polisi.
  43. Gwneud gwybodaeth ac arbenigedd mewn buddiannau cenedlaethau’r dyfodol yn ofyniad allweddol mewn o leiaf un swydd ar bob bwrdd sector cyhoeddus.
  44. Creu gweledigaeth hirdymor a strategaeth ar gyfer sector cyhoeddus Cymru’r dyfodol.
  45. Hyrwyddo caredigrwydd ar bob lefel o lywodraeth ac ym mholisi cyhoeddus a phenderfyniadau ariannol.
  46. Sefydlu ‘Gweinidogaeth o Bosibiliadau’ ac ennyn ymgysylltiad y disgleiriaf a’r gorau o bob lefel o lywodraeth a gwasanaeth cyhoeddus i gydweithio ochr yn ochr â’r sector preifat a’r sector gwirfoddol, i greu datrysiadau arloesol i heriau’r presennol a’r dyfodol.
  47. Penodi Gweinidog Atal gyda’r cyfrifoldeb am fabwysiadu ymagwedd llywodraeth-gyfan tuag at fuddsoddi mewn atal.
  48. Rhoi arweiniad clir ac arweinyddiaeth i gyrff cyhoeddus eraill ar y modd y maent yn ystyried ac yn cymhwyso’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn eu gweithgareddau caffael.

Maniffesto y Dyfodol

Ein Cymru Ni

Gweledigaeth Pobl Ifanc Cymru

Mae ein gweledigaeth ar gyfer y Gymru a garem wedi’i nodi yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – ein saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Gan weithio gydag ystod o sefydliadau, gofynnais i bobl ifanc yng Nghymru ddweud wrthyf beth sy’n bwysig iddyn nhw wrth iddyn nhw ddehongli fy Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae eu syniadau’n gyffrous – a dylai pleidiau gwleidyddol fod yn uchelgeisiol drwy ystyried eu disgwyliadau.

Fel Gwarcheidwad ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol, bûm yn awyddus i gynnwys pobl ifanc yn fy ngwaith a chydnabod eu llais yn y dirwedd ddiwylliannol, gymdeithasol a gwleidyddol gyfredol, yn enwedig gan y bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn pleidleisio am y tro cyntaf y flwyddyn nesaf.

Credwn fod eu cynnwys yn hanfodol i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed ac i sicrhau bod llais cenedlaethau’r dyfodol yn cael ei gynrychioli. Rydym yn cydnabod nad Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei fformat presennol yw’r un mwyaf hygyrch neu atyniadol i bobl ifanc felly rydym wedi gweithio gyda nifer o sefydliadau gan gynnwys Avant Cymru, Disability Arts Cymru a Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru i ddatblygu dehongliad pobl ifanc o’r adroddiad, y negeseuon allweddol a’r hyn sydd ei angen arnynt ar gyfer eu dyfodol yng Nghymru mewn ffordd sy’n berthnasol ac yn ddeniadol i bobl ifanc, ac sy’n canolbwyntio meddyliau’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau.

Rydym yn ddiolchgar i sefydliadau sydd wedi deal o’r cychwyn pwysigrwydd y gwaith hwn gan gynnwys Plant yng Nghymru, Diverse Cymru, EYST (Ethnic Youth Support Team), Urdd Gobaith Cymru, Sipsiwn a Theithwyr Cymru, sydd wedi defnyddio eu rhwydweithiau i ddod â grŵp amrywiol ynghyd o 30 o bobl ifanc o bob rhan o Gymru.

Rydym wedi ein llorio gan ymateb ac ymroddiad y bobl ifanc a fuodd yn rhan o’r tri gweithdy i ddadansoddi’r adroddiad 800 tudalen. Maent wedi fy herio i a’r tîm ar y cynnwys a’r iaith a ddefnyddir sydd wedi gwneud inni ystyried y ffordd y byddwn yn cyfathrebu yn y dyfodol gyda cynulleidfaoedd.

Fel swyddfa, rydym yn deall pwysigrwydd ‘diwylliant fel mecanwaith ar gyfer newid.’ Mae Cymru yn unigryw yn ei chydnabyddiaeth o bwysigrwydd ‘llesiant diwylliannol’, ac fel swyddfa rydym yn awyddus i dynnu sylw at ba mor hanfodol yw’r elfen diwylliannol i fywydau pobl a sut y gall fod yn ffordd effeithiol o adrodd straeon ac ysbrydoli newid, yn arbennig i godi ymwybyddiaeth am faterion sy’n wynebu cenedlaethau sydd i ddod. Yn hynny o beth, dewisodd pobl ifanc y dull delfrydol i’w lleisiau gael eu clywed, a chyfansoddi eu hymatebion trwy gân, celf a barddoniaeth. Rydym yn falch o’u rhannu gyda chi.

Rydym yn gyffrous iawn i ddatblygu eu gwaith ymhellach a rhannu eu syniadau gyda chi dros y misoedd nesaf.

Adnoddau