Darparu cyngor a chymorth i gyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
Rydym yn darparu cyngor, cymorth a chefnogaeth i bobl ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Rydym yn darparu cyfleoedd dysgu a datblygu; cyhoeddi argymhellion ac adroddiadau; sylwadau ar bolisi a materion cyfoes; cynhyrchu pecynnau cymorth ac adnoddau; darparu cyngor yn uniongyrchol i sefydliadau; ac ymateb i aelodau o’r cyhoedd sy’n cysylltu â ni.
Mae ein tîm yn cael llawer o geisiadau am gymorth ac mae angen inni flaenoriaethu’r sefydliadau hynny sydd â dyletswyddau o dan y Ddeddf; ond anfonwch e-bost at contactus@futuregenerations.wales gyda’ch ymholiad ac fe gawn ni weld sut gallwn ni helpu.
Cefnogi cyrff cyhoeddus i gymhwyso’r Ddeddf
Ar gyfer y sefydliadau hynny sy’n dod o dan y Ddeddf, mae gennych chi bwynt cyswllt penodol yn y tîm. Gweler Ein Tîm am ragor o wybodaeth. Os nad ydych yn siŵr pwy i gysylltu â nhw, mae croeso i chi anfon e-bost at cysylltwchani@cenedlaethaurdyfodol.cymru neu’r Cyfarwyddwr Gweithredu ac Effaith, Heledd Morgan: heledd.morgan@futuregenerations.wales
Lle y gallwn, byddwn yn cwrdd â chi i roi cyngor, darparu cyflwyniadau, hyfforddiant, cyfeirio, adnoddau, pecynnau cymorth, astudiaethau achos, canllawiau a chymorth cyffredinol.
Mae ein strategaeth ddiweddaraf, Cymru Can, yn amlinellu Gweithredu ac Effaith fel ein cenhadaeth graidd, gan sicrhau bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei gweithredu’n effeithiol a chydag uchelgais gan cyrff cyhoeddus mewn ffordd sy’n gwella bywydau pobl Cymru nawr ac yn y dyfodol.
Gan weithio gyda sefydliadau, rhoesom bwyslais ar rannu gwybodaeth, sgyrsiau o safon a hyfforddiant i helpu sefydliadau i feithrin eu gallu. Rydym am helpu’r cyrff hyn a’u timau i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o sut i ysgogi newid.
Byddwn yn gwneud hyn drwy deilwra ein hadnoddau presennol a chyhoeddi offer newydd sy’n darparu cymorth, ond hefyd drwy gynnig gweithdai gan gynnwys:
- Gloywi’r Ddeddf, yr egwyddor datblygu cynaliadwy, cymhwyso’r ffyrdd o weithio a chyfrannu at y nodau llesiant cenedlaethol.
- Dosbarthiadau meistr ar ddefnyddio’r ffyrdd o weithio.
- Cyfleoedd i archwilio sut i gymhwyso’r Ddeddf o fewn canolfannau corfforaethol sefydliadau.
- Dysgu ar dechnegau hirdymor a’r dyfodol.
- Rhannu arfer rhyngwladol ar ddatblygu cynaliadwy.
Cofrestrwch ar gyfer ein sesiynau agored sydd ar ddod yma a chofiwch gysylltu â ni drwy eich pwynt cyswllt neu drwy cysylltwchani@cenedlaethaurdyfodol.cymru i siarad am rywbeth mwy penodol ar gyfer eich sefydliad eich hun.
Rydym am adeiladu rhwydwaith o hyfforddwyr o fewn cyrff cyhoeddus ledled Cymru, felly mae croeso i chi ddefnyddio ein deunyddiau adnoddau ar gyfer dysgu a thrafod yn eich sefydliadau eich hun. Rydym yn croesawu unrhyw adborth ar y rhain!
I gael rhagor o wybodaeth am ein cenhadaeth, Gweithredu ac Effaith, darllenwch ein strategaeth, Cymru Can.