Byddwn yn ei gwneud yn genhadaeth i helpu i drosglwyddo Cymru i economi sy'n rhoi pobl a'r blaned yn gyntaf. O ganlyniad, mae llywodraethau ar bob lefel, busnesau a chymunedau, yn gwneud i hyn ddigwydd.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn disgrifio Cymru lewyrchus fel cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, a charbon isel sy’n cydnabod terfynau’r amgylchedd byd-eang ac yn defnyddio adnoddau’n effeithlon ac yn gymesur – gan bwysleisio sgiliau, addysg, a gwaith teg wrth gynhyrchu cyfoeth. 

Nid yw’r ail-fframio ffyniant hwn yn cynnwys CMC, sef y mesur canolog o bolisi economaidd yn y gogledd byd-eang ers degawdau a dyma un o’r ffyrdd y mae Cymru’n gwneud pethau’n wahanol. 

Ac eto nid yw ein heconomi yn cyflawni ar gyfer pob un o’r nodau llesiant eto. Mae’r argyfwng costau byw yn ehangu anghydraddoldeb economaidd yng Nghymru, mae tlodi ar gynnydd, ac mae ein heconomi yn defnyddio adnoddau naturiol yn gyflymach nag y gallwn eu hailgyflenwi. 

Un o’n rolau unigryw yn y maes hwn yw cynyddu ein cefnogaeth i gyrff cyhoeddus i lunio cynlluniau llesiant economaidd lleol a rhanbarthol. Byddwn yn hyrwyddo dulliau sy’n canolbwyntio ar bobl o ran datblygu economaidd, sy’n ailgyfeirio cyfoeth yn ôl i’r economi leol; yn rhoi mwy o reolaeth a buddion yn nwylo pobl leol; ac yn ymateb i dueddiadau’r dyfodol megis AI, sgiliau digidol a gwyrdd. Byddwn yn gweithio gyda’r sefydliadau sydd eisoes yn arwain ar ddileu tlodi yng Nghymru i sicrhau bod ein gweithgareddau’n ategu ymdrechion i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol. 

Damcaniaeth Newid Economi Llesiant 

Byddwn yn ei gwneud yn genhadaeth i helpu i drosglwyddo Cymru i economi sy’n rhoi pobl a’r blaned yn gyntaf. O ganlyniad, mae llywodraethau ar bob lefel, busnesau a chymunedau, yn gwneud i hyn ddigwydd.

Yr Angen

Mae twf economaidd yn aml yn cael ei weld fel nod ynddo’i hun, yn hytrach nag arwain at welliannau yn llesiant pobl.

Mae’r argyfwng costau byw yn ehangu anghydraddoldeb economaidd, mae tlodi ar gynnydd, ac mae’r economi’n defnyddio adnoddau naturiol yn gyflymach nag y gellir ei ailgyflenwi.

Gweithgaredd

1. Asesu integreiddio dulliau economaidd llesiant o fewn cynlluniau datblygu economaidd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. 

2. Cynnull cyrff cyhoeddus, busnesau, melinau trafod ac eraill i rannu arfer da a rhwystrau i gynnydd. 

3. Adolygu tueddiadau’r dyfodol, megis AI, ac ystyried sut y gallai cynlluniau economaidd Cymru ymateb. 

4. Adeiladu offer i fusnesau Cymru ar sut i gefnogi’r nodau llesiant ac adeiladu offer ar gyfer y sector cyhoeddus ar sut i gymell busnesau i weithredu a buddsoddi yn y nodau llesiant. 

5. Rhoi cyngor i gyrff cyhoeddus ar sut y maent yn mesur llwyddiant wrth gyflawni economi llesiant, gan ddefnyddio enghreifftiau rhyngwladol.  

Canlyniadau  

Mae awdurdodau lleol, Bargeinion Dinesig / Twf a Chyd-bwyllgorau Corfforaethol yn fframio eu cynlluniau economaidd o amgylch economi llesiant ac yn gweithredu set o amcanion economi llesiant.

Mae mwy o fusnesau, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, yn ymgorffori’r nodau llesiant yn eu modelau busnes. 

Ceir cyd-ddealltwriaeth ar draws cyrff cyhoeddus ynghylch sut yr ydym yn mesur llwyddiant mewn economi llesiant. 

Effaith

Mae Cymru’n gwneud cynnydd o ran ei dangosyddion llesiant sy’n ymwneud â nod Cymru Ffyniannus.

Mae ein hôl troed byd-eang yn lleihau, ac rydym ar y trywydd iawn i ddefnyddio ein cyfran deg o adnoddau byd-eang yn unig erbyn 2050.

Mae llwyddiant economaidd a busnes Cymru yn arwain at waith teg, lefelau sgiliau uwch, lefelau tlodi is a gwahaniaethau cyflog is yn seiliedig ar ryw, anabledd ac ethnigrwydd.   

Ein Cenadaethau 

 

Adnoddau a gwybodaeth bellach: