Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
Sefydlwyd Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) yn 2015 i ddod ag arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus lleol ynghyd i asesu a mynd i’r afael ag anghenion llesiant eu hardaloedd, fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Sefydlodd y Ddeddf Fwrdd ar gyfer pob un o’r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru. Ond mae gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus y cyfle i gydweithio ar draws Awdurdodau Lleol ac i uno, ac erbyn hyn mae 13 o BGCau ar gyfer Cymru gyfan.
Mae aelodau bwrdd fel arfer yn cynnwys arweinwyr o’r awdurdod lleol, bwrdd iechyd, yr awdurdod tân ac achub, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal â chynrychiolwyr o’r sector gwirfoddol, Llywodraeth Cymru, yr heddluoedd, y comisiynydd heddlu a throseddu a’r gwasanaethau prawf. Gallant hefyd wahodd sefydliadau eraill.
Mae dyletswyddau’r Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys:
- Asesu cyflwr llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn eu hardaloedd, a elwir yn ‘asesiad llesiant;’
- Gosod amcanion lleol sydd wedi’u cynllunio i wneud y mwyaf o’u cyfraniad at nodau llesiant Cymru a chyhoeddi Cynllun Llesiant
- Cymryd pob cam rhesymol i gyflawni’r amcanion hynny.
Mae BGCau yn cyhoeddi cynlluniau llesiant bob pum mlynedd. Cyhoeddwyd y cynlluniau llesiant cyntaf yn 2018 a chyhoeddwyd y cynlluniau diweddaraf yn haf 2023. Rhaid i gynlluniau llesiant lleol nodi amcanion a chamau y bwriedir iddynt wella pedwar dimensiwn llesiant ei ardal.
Mae’r Comisiynydd yn rhoi cyngor i bob Bwrdd yn ystod y broses hon – gallwch ddarllen ein canfyddiadau diweddaraf yn Llesiant yng Nghymru: trosolwg. Gallwch hefyd ddarllen ein blog ‘Beth mae’r cynlluniau llesiant newydd yn ei ddweud wrthym am waith a chynnydd BGCau yng Nghymru?’ yma.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a’u rôl yma.