Byddwn yn ei gwneud yn genhadaeth i atgyfnerthu effaith gadarnhaol llesiant diwylliannol. O ganlyniad, mae cyrff cyhoeddus yn gwneud y newidiadau brys sydd eu hangen i hyrwyddo diwylliant a chreadigrwydd, gwarchod gwead cymunedau yn ogystal â hyrwyddo aml-ddiwylliannedd a’r Gymraeg.

Diwylliant yw curiad calon cymuned. Mae gan lesiant diwylliannol yr un pwysau â llesiant amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan gydnabod y rôl enfawr y mae’n ei chwarae. 

Mae cymdeithas â llesiant diwylliannol da yn un lle mae pobl yn elwa o ddiwylliant, treftadaeth a’r iaith Gymraeg ac yn gallu cymryd rhan yn y celfyddydau, chwaraeon a hamdden. 

Gwyddom, fodd bynnag, fod cyrff cyhoeddus yn aml yn gweld llesiant diwylliannol fel y maes anoddaf i’w ddeall a’u bod hefyd o dan bwysau ariannol cynyddol a all roi ein diwylliant a’n gwasanaethau hamdden dan fygythiad. Mae ein dadansoddiad ein hunain wedi canfod nad yw diwylliant, creadigrwydd, cymunedau cydlynol, a’r Gymraeg bob amser yn cael eu deall fel rhywbeth sydd wrth wraidd cyflawni nodau llesiant eraill ac nad yw cynlluniau ac amcanion llesiant yn gwneud digon i sicrhau bod canlyniadau llesiant diwylliannol yn cael eu cefnogi. 

Bydd harneisio pŵer creadigrwydd, a dod â phobl ynghyd i gyd-ddychmygu dyfodol gwell, yn allweddol i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mawr sy’n ein hwynebu, megis newid yn yr hinsawdd, ynysu cymdeithasol, ac anghydraddoldeb economaidd. Mae diwylliant yn dod â gobaith, positifrwydd ac optimistiaeth i feddwl am y tymor hir. 

Mae cyfle i ni gefnogi newid sylweddol. Ein rôl unigryw yn y gofod hwn fydd tynnu sylw at enghreifftiau sy’n datrys heriau trwy ddiwylliant; gweithio gyda chyrff cyhoeddus i godi eu huchelgeisiau ynghylch diwylliant a chymuned mewn amcanion llesiant; a chydweithio â’r sector creadigol i gyfleu heriau ac atebion y dyfodol. 

Theori Newid Diwylliant a’r Iaith Gymraeg 

Byddwn yn ei gwneud yn genhadaeth i atgyfnerthu effaith gadarnhaol llesiant diwylliannol. O ganlyniad, mae cyrff cyhoeddus yn gwneud y newidiadau brys sydd eu hangen i hyrwyddo diwylliant a chreadigrwydd, gwarchod gwead cymunedau yn ogystal â hyrwyddo aml-ddiwylliannedd a’r Gymraeg. 

Yr Angen

Nid yw cyrff cyhoeddus yn rhoi digon o sylw i ddiwylliant a’r Gymraeg yn eu hamcanion a’u cynlluniau llesiant. 

Nid ydym yn dod o hyd i’r ffyrdd gorau o gyfathrebu’r camau gweithredu angenrheidiol o’n blaenau. 

Mae diffyg cyllid a phenderfyniadau byr eu golwg yn bygwth seilwaith a chydlyniant cymunedol. 

Gweithgaredd 

1. Eiriol dros lesiant diwylliannol a’r iaith Gymraeg i gael mwy o flaenoriaeth mewn ymagweddau at lesiant. 

2. Tynnu sylw at enghreifftiau sy’n datrys heriau trwy ddiwylliant a’r iaith Gymraeg. 

3. Cynnull a chydweithio â’r diwydiannau diwylliannol a chreadigol i gyfleu’r heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau. 

4. Sicrhau bod sefydliadau’n edrych yn fras ar sut y gallant wella llesiant diwylliannol, er enghraifft mewn meysydd fel tai, cynllunio defnydd tir, iechyd, addysg, ac adfywio cymunedol. 

5. Cynghori cyrff cyhoeddus i gymryd camau i wella gwead ein cymunedau ac i werthfawrogi aml-ddiwylliannedd.

Canlyniadau 

Mae dealltwriaeth dda o’r hyn y mae llesiant diwylliannol yn ei gwmpasu ac effaith gadarnhaol diwylliant a’r Gymraeg ar weithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. 

Mae cyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys llesiant diwylliannol yn eu hamcanion llesiant.

Mae cynnydd yn cael ei wneud gan gyrff cyhoeddus i gyrraedd cerrig milltir cenedlaethol y Gymraeg (i gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050). 

Mae ymgyrchoedd a chamau gweithredu ar gyfer newid cadarnhaol yn fwy effeithiol o ganlyniad i gyfraniad y sectorau diwylliannol. 

Mae cynhwysiant a mynediad at weithgareddau diwylliannol wedi gwella, yn enwedig i bobl â nodweddion gwarchodedig a’r rhai o gefndiroedd difreintiedig. 

Effaith

Mae Cymru’n gwneud cynnydd da o ran bodloni’r dangosyddion llesiant cenedlaethol sy’n ymwneud â diwylliant, y Gymraeg a chydlyniant cymunedol.  

Ledled Cymru, mae canran y bobl sy’n mynychu neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth yn cynyddu ac mae mwy o bobl yn gallu siarad Cymraeg. 

Mae cymunedau yn cymryd mwy o ran mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.

 

 Ein Cenadaethau 

 

Adnoddau a gwybodaeth bellach: