Maes Ffocws: Bwyd
O’r fferm i’r fforc, mae bwyd yn hollbwysig i gyflawni nodau llesiant Cymru ar gyfer iechyd ein pobl a’n planed.
Dros y saith mlynedd nesaf, byddwn yn canolbwyntio ar faterion sy'n cysylltu ac yn cyfrannu ar yr un pryd at bob un o'n pum cenhadaeth. Bydd y maes ffocws cyntaf ar ein system fwyd.
Rhagwelir y bydd allyriadau carbon o amaethyddiaeth yn cynyddu, tra bod y system fwyd yn cyfrannu at golli natur a datgoedwigo byd-eang. Rydym yn gwastraffu bwyd ar gyfradd anghynaliadwy ac mae costau bwyd cynyddol a lefelau cynyddol o salwch sy’n gysylltiedig â diet, gan gynnwys gordewdra, ynghyd â newid yn yr hinsawdd a chadwyni cyflenwi bwyd byd-eang ansicr, yn peri heriau hirdymor enfawr i lesiant Cymru a’n gallu i bwydo cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Ni ddylai’r ffaith bod diogelwch bwyd Cymru yn dibynnu’n helaeth ar y DU a systemau bwyd byd-eang ein hatal rhag cymryd camau lle y gallwn. Mae ar Gymru angen cynllun gwydn, hirdymor sy’n symud effaith amaethyddol tuag at gael canlyniad cadarnhaol ar adfer hinsawdd a natur, gan sicrhau dietau diogel, fforddiadwy ac iach i bobl, yn enwedig plant.
Mae cymunedau gwledig a ffermio yn rhan fawr o’r ateb – maen nhw’n rhan annatod o fwydo Cymru, gwarchod byd natur ac yn rhan o’n diwylliant bywiog a’r Gymraeg yn ffynnu.
Rhaid i wasanaethau cyhoeddus ddefnyddio eu hysgogwyr ar gyfer newid, er enghraifft, gwneud mwy i hwyluso tyfu cymunedol a defnydd cynaliadwy o dir, ystyried goblygiadau ehangach penderfyniadau cynllunio ar gymunedau a natur, darparu fframwaith cymorthdaliadau a grantiau ffermio a deall yr effaith leol a byd-eang o wariant ar fwyd.
Mae sawl cyfle yn ymwneud â bwyd a fydd yn helpu Cymru i gyflawni ei nodau llesiant:
- Twf arferion ffermio amaeth-ecolegol a’r pwyslais ar newid yn yr hinsawdd a gwarchod natur yn Neddf Amaethyddiaeth gyntaf Cymru.
- Momentwm cynyddol o amgylch bwyd cymunedol, yn gysylltiedig â chadwyni cyflenwi lleol ar gyfer prydau ysgol ac ysbyty.
- Diddordeb cynyddol o fewn cyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i ddatblygu partneriaethau bwyd lleol, traws-sector a buddsoddi mewn cynhyrchu a bwyta bwyd lleol, cynaliadwy.
Drwy ganolbwyntio ar fwyd, byddwn yn cynnwys y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn ein cynlluniau i:
- Eiriol dros Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth fwyd hirdymor wedi’i fframio o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
- Gweithio gyda chyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i integreiddio polisïau bwyd cynaliadwy yn eu cynlluniau llesiant, gan gynnwys datblygu cynlluniau bwyd cymunedol.
- Sicrhau bod pob un o’n pum cenhadaeth yn cyfrannu at gynllunio systemau hirdymor ynghylch gwytnwch bwyd.