Dros yr ychydig fisoedd nesaf bydd fy nhîm a minnau yn achub ar y cyfle i adnewyddu ein hymagwedd at yr hyn a wnawn a gosod meysydd ffocws newydd ar gyfer ein gwaith.

Rydym yn cynnwys pobl mewn nifer o ffyrdd i gasglu eu barn gan gynnwys trwy arolwg ar-lein i gasglu adborth a syniadau er mwyn llywio Ffocws Ein Dyfodol dros y saith mlynedd nesaf. 

Rhannwch eich barn trwy ein harolwg yma.

Bydd ein harolwg Ffocws Ein Dyfodol yn fyw tan y 3ydd o Orffennaf 2023. 

Bydd y gwaith hwn yn sefydlu blaenoriaethau ar gyfer ein tîm o ran meysydd ffocws, a sut rydym yn gweithio yn y dyfodol. Bydd yn ein helpu i wneud penderfyniadau ar y ffordd fwyaf effeithiol o ddyrannu ein hamser a’n hadnoddau i gael yr effaith fwyaf ar lesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Bydd hyn yn ddechrau proses barhaus o gynnwys yn arwain at Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol (2025) nesaf a thu hwnt, a bydd yn ein galluogi i rannu ein blaenoriaethau yn ddiweddarach eleni.

Os oes gennych chi fynediad at adroddiadau neu wybodaeth y credwch y dylem eu hystyried yn ein dadansoddiad cychwynnol, neu os ydych yn trefnu digwyddiadau gyda grwpiau yr hoffech i ni siarad â nhw rhwng nawr a mis Mehefin, cysylltwch â ni drwy cysylltwchani@cenedlaethaurdyfodol.cymru.

Pwy all lenwi’r arolwg?

Mae cwestiynau’r arolwg wedi eu teilwra i fod yn benodol i chi a’r ‘het ti’n gwisgo’.

P’un a ydych chi’n gynrychiolydd corff cyhoeddus, busnes sydd â diddordeb yn y Ddeddf, neu’n unigolyn sy’n ymgyrchu dros ddyfodol gwell i’r rhai sydd heb eu geni eto, rydym am glywed gennych.

Gallwch hefyd ei lenwi ar ran eich sefydliad, fel unigolyn, neu’r ddau – bydd y cwestiynau yn eich tywys i ran briodol yr arolwg.

Sut alla i anfon adborth ar ran grŵp?

I gynorthwyo’r rhai sy’n anfon adborth a syniadau atom ar ran eu sefydliad neu grŵp (ac felly yn trafod gyda cydweithwyr yn gyntaf), gallwch gael mynediad at gopïau Word o’r arolwg yma os ydych chi’n dod o gorff cyhoeddus neu yma os ydych chi o’r sector gwirfoddol.

Peidiwch ag anfon eich atebion atom drwy unrhyw ddogfennau Word – bydd angen i chi eu trosglwyddo i’r arolwg ar-lein.

Mwy am Ffocws Ein Dyfodol

Ers i mi ddechrau ar Fawrth 1, mae fy nhîm wedi bod yn adolygu’r broses o osod blaenoriaethau gwaith a ddigwyddodd saith mlynedd yn ôl pan sefydlwyd y Swyddfa gyntaf. Rydyn ni hefyd wedi bod yn cynnal ymchwil desg ac yn cydweithio ag eraill i goladu popeth rydyn ni wedi’i ddysgu ers hynny.

Rydym wedi bod yn defnyddio methodolegau meddwl am y dyfodol i wreiddio meddwl hirdymor i’r ffordd rydym yn dadansoddi’r data sydd gennym eisoes a chynnwys rhanddeiliaid drwy weithdy cychwynnol i lunio’r gwaith hwn drwy ddull Tri Gorwelion.  

Y tro diwethaf i ni bennu ein meysydd ffocws, defnyddiwyd amrywiaeth o ddulliau cynnwys gan gynnwys ymchwil desg, paneli o arbenigwyr, ymgynghoriadau â rhanddeiliaid a’r cyhoedd drwy SenseMaker, a digwyddiadau bord gron. Helpodd hyn ni i ddewis meysydd ffocws a nodwyd fel rhai sydd â’r potensial mwyaf i wella pob un o’r pedwar dimensiwn llesiant (amgylcheddol, diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd).  

Mae’r meysydd hyn wedi llywio ein gwaith ac wedi helpu i fod yn sail i benderfynu beth i’w wneud. Er enghraifft, buom yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei hadlewyrchu yn eu canllawiau cynllunio allweddol, Polisi Cynllunio Cymru, a’n gwaith i ddylanwadu ar y Cwricwlwm i Gymru newydd a sicrhau bod ein plant a’n hwyrion wedi ei baratoi ar gyfer y dyfodol.

Mae llawer mwy yn hysbys nawr am statws y saith nod llesiant yng Nghymru, sut mae’r Ddeddf yn cael ei rhoi ar waith gan gyrff cyhoeddus a beth yw’r rhwystrau rhag gweithredu.

Mae’r swyddfa wedi cynnal ystod eang o waith ymchwil a chynnwys, gan gynnwys Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020 a dau Adolygiad Adran 20 (caffael a gweithrediad Llywodraeth Cymru o’r Ddeddf). Mae’r symudiad y tu ôl i’r Ddeddf hefyd wedi tyfu gyda llawer o sefydliadau eraill yn cynnal adolygiadau ac yn cyhoeddi syniadau ar y Ddeddf a’i gweithrediad. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Adroddiadau Llesiant Cymru blynyddol yn ogystal â dau adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol.

Byddwn yn adeiladu ar yr holl wybodaeth hon, yn ogystal â’r sylfeini a adeiladwyd y tro cyntaf, i’n galluogi i sefydlu meysydd ffocws o fewn chwe mis (y tro cyntaf, cymerodd y broses 18 mis i gyd).

Er bod llawer wedi digwydd ac wedi newid dros y saith mlynedd diwethaf, mae’r tueddiadau hirdymor mawr sy’n effeithio ar Gymru (a gweddill y byd) fel y’u nodwyd yn y gweithgaredd gosod blaenoriaethau blaenorol yn parhau’n ddigyfnewid i raddau helaeth. Mae’r rhain yn cynnwys yr argyfyngau hinsawdd a natur, ffyniant economaidd, y chwyldro technolegol, newid demograffig, newid cymdeithasol a threfoli cyflym.

Felly beth sydd nesaf?

Er mwyn sicrhau ein bod yn gwella pob un o’r pedwar dimensiwn llesiant ar draws pob un o’r saith nod llesiant, ym mhob cymuned yng Nghymru, byddwn yn canolbwyntio ar ‘sut’ a ble y byddai ein rôl fel Swyddfa yn cael yr effaith fwyaf.

I’n helpu i wneud hyn rydym wedi amlinellu sawl ‘Camau’ sy’n cynnwys: 

Cam 1: 

  • Ymchwil desg, casglu gwybodaeth gan bartneriaid, a dadansoddi gwybodaeth sydd gennym eisoes (e.e. sgyrsiau gyda chyrff cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, gohebiaeth gyhoeddus, digwyddiadau’r Comisiynydd a mwy) 
  • Sesiynau dyfodol gyda rhanddeiliaid i adolygu ein gwaith hyd yn hyn a’n hymagwedd arfaethedig at y camau nesaf 
  • Ffurfio Grŵp Llywio i helpu i lywio’r broses hon 

Cam 2 

  • Cynnwys a chydweithio ag amrywiaeth o randdeiliaid a phartneriaid trwy gyfarfodydd, digwyddiadau a rhwydweithiau presennol 
  • Casglu adborth trwy arolwg ar-lein i’w lansio tua diwedd mis Ebrill 

Cam 3  

  • Dadansoddi’r hyn rydym wedi’i gasglu drwy’r camau uchod a defnyddio methodoleg meddwl y dyfodol i’n helpu i bennu ein rôl ein hunain a’n camau strategol ar gyfer y dyfodol 

Cam 4 

  • Profi ein canlyniadau dadansoddi a rhannu canlyniadau