Er mwyn helpu sefydliadau i symud ymlaen ar eu taith tuag at ddatblygu cynaliadwy, fel y’i diffinnir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae’r Gwiriwr Cynnydd Ffyrdd o Weithio yn offeryn y gellir ei ddefnyddio i’ch helpu i olrhain cynnydd hyd yma a rhoi camau nesaf i chi gymhwyso’r egwyddor datblygu cynaliadwy ymhellach. 

Sut mae’n gweithio 

Mae’r offeryn rhyngweithiol hwn yn mynd â chi drwy gyfres o gwestiynau ar bob un o’r ffyrdd o weithio sydd wedi’u cynnwys yn yr egwyddor datblygu cynaliadwy. Bydd eich atebion yn rhoi hunanasesiad o’ch cynnydd wrth gymhwyso meddwl hirdymor, atal, integreiddio, cydweithredu a chyfranogiad i’ch “Prosesau” ac i’ch “Pobl a Diwylliant.” 

Gallwch rannu manylion mewngofnodi unigryw eich sefydliad gyda chydweithwyr neu, os ydych yn cwblhau hyn fel rhan o bartneriaeth, gyda’ch Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a phartneriaid eraill. Gall gwahanol bobl ateb gwahanol adrannau, neu, fel arall, gallech wneud hyn fel grŵp gan ein bod yn disgwyl y gallai eich atebion fod yn oddrychol.  

Bydd adroddiad yn cael ei gynhyrchu gan roi eich canlyniadau a rhai camau nesaf ar sut y gallech gymhwyso ymhellach bob ffordd o weithio. Gallwch lawrlwytho adroddiadau ar gyfer pob un o’r ddwy ran, yn dibynnu ar yr hyn yr hoffech ei rannu. Gallwch archifo’ch adroddiadau ar-lein i gymharu eich cynnydd dros amser. 

Mae’r offeryn hwn yn seiliedig ar Matrics Aeddfedrwydd hirach, a ddatblygwyd fel rhan o adolygiad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol o Lywodraeth Cymru. Gallwch ddod o hyd i’r Matrics aeddfedrwydd llawn yma. 

Rydym yn deall bod hwn yn ymarfer cymhleth a byddem yn hapus i’ch cefnogi os oes gennych unrhyw gwestiynau. E-bostiwch cysylltwchâni@cenedlaethaurdyfodol.cymru gydag unrhyw ymholiadau sy’n dyfynnu ‘Gwiriwr Cynnydd Ffyrdd o Weithio’ fel y pwnc. 

I gofrestru, cwblhewch y ffurflen hon.