Cymru Can – pwy yw pwy

Cymru Can yw ein strategaeth saith mlynedd ar gyfer ysgogi newid cadarnhaol yng Nghymru yn awr ac yn y dyfodol.

Ni fydd ein cenadaethau’n bosibl heb y mudiad cynyddol dros newid yng Nghymru – y bobl a’r syniadau sy’n ymroi i gyflawni uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ogystal ậ’r rhai hynny ậ’u storïau’n amlygu’r angen ar i weithrediad ac effaith ein nodau llesiant fod yn well.  

Isod wele grynodeb byr o rai o’r bobl a’r prosiectau sy’n ymddangos yn ein fideo, Cymru Can, yn nhrefn eu hymddangosiad.  

Diolch i bawb yng Nghymru am eich holl waith caled yn y dasg o roi Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith ac am eiriol bob amser dros Gymru well ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. 

Adfer y Ddawan

Prosiect tirwedd yw Adfer y Ddawan sy’n bwriadu adfer rhwydweithiau natur yn ardal yr Afon Ddawan ym Mro Morgannwg, gan greu cysylltiad rhwng y tir ậ bywyd gwyllt lleol, tirfeddiannwyr a’r gymuned.

Wedi ei ariannu gan Rwydweithiau Natur Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Phrosiect Sero Cyngor Bro Morgannwg, mae gan y cynllun gynlluniau uchelgeisiol – yn cynnwys plannu 40,000 o goed dros yr ychydig flynyddoedd nesaf a rhyddhau bywyd gwyllt, megis 900 o lyswennod Ewropeaidd, a 150 o lygod pengrwn dŵr, gan weithio gyda dros 18 o ysgolion cynradd lleol yn y Fro. Yn amrywio o blannu coed i ŵyl afon arfaethedig, a sesiynau am ddim ar brofi dŵr i ganfod ffyngau, mae pobl leol yn ymgyfrannu yn y prosiect sy’n ymwneud ậ datrys yr heriau sy’n wynebu bywyd gwyllt yn eu cynefinoedd naturiol, ac eisoes mae dros 100 o bobl wedi gwirfoddoli.

Dywedodd Jacob Briscombe, ceidwad cynorthwyol: “Mae’n brosiect ậ Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ganolbwynt iddo.”

 

Samantha Egelstaff

Cyd-sefydlodd Samantha Egelstaff Grŵp Gweithredu Llifogydd Llanrwst, yn dilyn drylliad ei chymuned gan Storm Ciara yn 2020. Cynhyrchodd y grŵp gerdd bwerus: Ymgodi o’r Gaeaf/Emerging from Winter, gyda’n Bardd Preswyl, 2021-2022, Taylor Edmonds. Yn cael ei darllen gan ddisgyblion Ysgol Bro Gwydir, mae’n amlygu’r modd y mae llifogydd yn dinistrio ein cymunedau a’r ymdrech gydweithredol i’w hamddiffyn. Mae Samantha’n rhan o’n 100 Ysgogydd Newid Cenedlaethau’r Dyfodol 2023. 

Dywedodd Samantha: “Pan mae’r cwm yn gorlifo, mae’r rheilffordd yma’n aml yn cau, gan effeithio ymhellach ar bobl sy’n ceisio teithio. Rydym yn colli pobl o’n hardaloedd gwledig. Ddylen nhw ddim gorfod symud i ffwrdd.” 

 

Natalie Evans

Mae Natalie Evans yn Gydlynydd Ymgyrch sy’n gweithio o fewn pedwar banc bwyd Ymddiriedolaeth Trussell yn Rhondda Cynon Taf, lle mae ei thîm gwirfoddoli yn cynnwys pobl sydd, yn eu bywydau eu hunain, wedi profi tlodi bwyd.

Mae Natalie yn cynnal ymgyrch newydd gyda’r nod o sicrhau prydau ysgol am ddim i bob plentyn heb unrhyw arian cyhoeddus o fewn cyrraedd. Meddai: “Mae ysgolion wedi rhoi gwybod i ni am blant yn tynnu moronen allan fel eu pecyn bwyd, yn bwyta bara menyn fel pryd ac yn mynd â bwyd adref o’r ysgol i’w brodyr a’u chwiorydd. Fedrwn ni wneud yn well na hynny.”

 

Esther a Samuel

Mae Esther yn wirfoddolwr banc bwyd. Symudodd y fam i dri o blant, gan gynnwys Samuel, 10 oed, o Nigeria i Drefforest yn 2020 ac mae’n un o filoedd o bobl sy’n byw yn RhCT heb unrhyw arian cyhoeddus o fewn eu cyrraedd. Fel un Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus (NRPF) sy’n dod o dan reolaeth amodau mewnfudo, caiff ei hatal rhag cael mynediad i ystod o fudd-daliadau lles heblaw mewn nifer bychan iawn o achosion. Mae’r amod hon yn golygu bod llawer o bobl Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus yn cael eu gorfodi i ddefnyddio banciau bwyd. Dros gyfnod o flwyddyn, mae’r pedwar banc bwyd yn RhCT wedi bwydo 1173 o bobl Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus, 529 ohonynt yn blant.

Dywedodd Esther, sy’n astudio rheolaeth prosiect yn y brifysgol: “Rydw i eisiau bod yn rhan o’r gymuned, rydw i eisiau cyfrannu at gymdeithas, ond mae cymaint o rwystrau yn y ffordd.”

Collage of portraits of those featured in our Cymru Can video

Ophelia Dos Santos

Mae Ophelia Dos Santos yn aelod o’n Hacademi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol, sydd wedi hyfforddi dros 80 o bobl rhwng 18-30 mlwydd oed yn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac mae’n rhan annatod o’n cenhadaeth i wella gweithrediad y ddeddfwriaeth.

Mae Ophelia’n ddylunydd tecstilau, ymchwilydd ac addysgwraig ac mae’n gweithio o’r gweithdy ym Mae Caerdydd yr oedd yn ei rannu gyda’i thad-cu, Mike, a oedd yn saer. Mae Ophelia wedi bod yn gwnio ers ei phlentyndod, ac mae ei gwaith yn ystyried y berthynas rhwng ffabrig, diwylliant a chymunedau.

Fel sefydlydd Decoded Climate, ymgyrchwyr dros yr hinsawdd, o dan arweinyddiaeth Black, Brown a Chymry heb gynrychiolaeth ddigonol, ei bwriad yw defnyddio cydweithrediad i agor a thrwytho deialog yn ymwneud ậ chyfiawnder a chydraddoldeb hinsawdd, gor-ddefnydd a gwastraff yn y diwydiant ffasiwn modern.

 

Alex Galleozzie 

Mae Alex Galleozzie yn brentis trydanwr pedwaredd flwyddyn gyda Merthyr Valley Homes, a ymunodd â’u cynllun Dyfodol Disglair drwy raglen chwe wythnos a oedd yn caniatáu iddo brofi gwahanol alwedigaethau seiliedig ar grefftau. Sicrhaodd Alex brentisiaeth gyda Merthyr Valley Homes ac mae wedi bod yn hyfforddi i ddod yn drydanwr cwbl gymwys.

Mae’r llinyn “Chi a’ch Gyrfa” Dyfodol Disglair yn darparu pob agwedd ar gymorth cyflogadwyedd, mentora gyrfa, cynlluniau profiad gwaith a sgiliau a hyfforddiant seiliedig ar gyflogaeth i denantiaid ac aelodau’r gymuned.

Mae Alex yn cyflawni dyletswyddau gosod trydanol yn ddyddiol, ac mae ei brosiectau wedi cynnwys datblygiad Honeyysuckle Close diweddar Merthyr Valley Homes yn Gurnos, lle gosodwyd cyfanswm o chwe uned Passivhaus. Mae’r cartrefi cynaliadwy wedi’u cynllunio ar gyfer hirhoedledd a pherfformiad uchel, maent yn effeithlon o ran ynni ac yn garbon isel. Ymatebant yn gadarnhaol i hinsawdd sy’n newid (gorboethi ac oeri) oherwydd y dyluniad arloesol a’r strwythur ysgafn.

 

Alex Swift

Yn gweithio i’r Tîm Cyfnewid Arfer Da (GPX) yn Archwilio Cymru, mae Alex Swift o Gasnewydd, de Cymru, yn creu podlediadau ac yn helpu i gynnal digwyddiadau i rannu syniadau unigryw ac arfer da o bob rhan o Gymru. Mae Alex hefyd yn aelod o Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol. 

Dywedodd: “Gan fy mod yn awtistig, rwy’n arbennig o angerddol am actifiaeth niwroamrywiaeth, a diogelu mannau lle gall pobl ddod o hyd i gymunedau croesawgar, neu gael mynediad i gymorth. Rwyf am ddefnyddio fy swydd fel arweinydd y dyfodol i hyrwyddo’r asedau cymunedol hyn a gweithio dros fwy o urddas i bobl niwroamrywiol ac anabl, ym mhob agwedd ar ein bywydau.”

Mae Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ac Archwilio Cymru wedi llofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda’r nod o ddyfnhau’r newid yn niwylliant gwasanaethau cyhoeddus lle mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ganolbwynt y broses o wneud penderfyniadau a chyflawni. 

 

Awel Aman Tawe

Mae Awel Aman Tawe (AAT) yn elusen ynni cymunedol yn hen gymoedd glo De Cymru a gyd-sefydlwyd gan Emily Hinshelwood (yn y llun) a Dan McCallum. Mae AAT wedi sefydlu Awel Co-op (fferm wynt gymunedol 4.7MW) ac Egni Co-op (cydweithfa solar 5MW ar y to), y ddwy gydweithfa ynni adnewyddol fwyaf yng Nghymru.

Cefnogir y cydweithfeydd gan fwy na 1,500 o bobl trwy gynigion cyfranddaliadau cymunedol gyda chant o safleoedd solar gan gynnwys ysgolion, adeiladau cymunedol a busnesau. Mae’r safleoedd yn arbed cannoedd y flwyddyn mewn biliau trydan a miloedd mewn allyriadau CO2. Mae’r holl warged yn mynd i Raglen Addysg Newid Hinsawdd AAT mewn ysgolion ac i gefnogi cydnerthedd cymunedol.

Mae AAT yn paratoi i agor Hwb y Gors, cyn-ysgol yng Nghwmgors sy’n cael ei hadnewyddu fel canolfan celfyddydau, addysg a menter carbon isel. Mae Dan ac Emily yn rhan o’n 100 Ysgogydd Newid Cenedlaethau’r Dyfodol 2023. 

Collage of portraits of those featured in our Cymru Can video

Ann MacGarry

Mae Ann MacGarry yn addysgwraig cynaliadwyedd wedi ymddeol sydd wedi gweithio gyda Chanolfan y Dechnoleg Amgen a Maint Cymru. Mae hi’n gynghorydd ar Gyngor Tref Machynlleth – y dref gyntaf yng Nghymru i ddatgan argyfwng hinsawdd yn 2019.

Mae Ann hefyd yn Is-gadeirydd Ecodyfi – mudiad dielw sydd wedi bod yn meithrin a chefnogi economi a chymuned wyrddach yn nyffryn Dyfi ac ardal Biosffer Dyfi UNESCO ers dros 20 mlynedd. 

 

Julie Gordon a’r River Music Project

Mae’r River Music Project yn brosiect cerddoriaeth a chelfyddyd weledol amlddiwylliannol sydd wedi’i leoli yng nghanol Glan yr Afon, Caerdydd. Fe’i sefydlwyd ar ôl i fylchau yn y ddarpariaeth greadigol i bobl, yn enwedig y rhai dan 14 oed, gael eu nodi gan y sylfaenydd Nick Lewis, ac ers hynny mae cyfranogwyr wedi creu tair cân ar gyfer y cwricwlwm ysgol mewn Arabeg, Hindi a Mandinka, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru ac ar-lein. rhaglen addysgu, Cansing.

Mae’r prosiect yn darparu cyfleoedd celfyddydol cynhwysol i bobl o bob oed ac yn cefnogi cerddorion ac artistiaid o gymunedau amrywiol i hybu gwell dealltwriaeth o gerddoriaeth ei gilydd tra’n datblygu eu celf eu hunain. Darperir dosbarthiadau iwcalili, piano, drama, dawns, drymio, Bollywood a chelf am ddim i blant a theuluoedd. Mae EP sydd ar ddod yn cynnwys artistiaid sy’n cymryd rhan ac maen nhw newydd ysgrifennu sgôr ar gyfer ffilm animeiddio newydd.

Bob blwyddyn, mae’r prosiect, sy’n gweithio’n agos gyda Chanolfan Datblygu Cymunedol De Glan yr Afon, yn curadu Gŵyl Glan yr Afon, ac mae artistiaid wedi perfformio ledled Cymru dros y tair blynedd diwethaf mewn lleoliadau gan gynnwys Canolfan Mileniwm Cymru, Amgueddfa Stori Caerdydd ac ar ddathlu 40 mlynedd ers sefydlu Dewi Sant. Neuadd.

Mae Julie Gordon yn gantores, yn awdur caneuon ac yn artist sydd wedi’i lleoli yng Nglan-yr-afon, sy’n cyfrannu at Fforwm Caribïaidd y prosiect, gan ddathlu ei gwreiddiau diwylliannol ei hun mewn ensemble reggae efengyl. Mae caneuon Julie, meddai, yn ymwneud â gobaith a heddwch.

 

Nelly Adam, AKA Queen Niche

Mae Nelly Adam, AKA Queen Niche, yn ymgynghorydd, siaradwraig gyhoeddus, actifydd dyngarol ac artist llafar o Gaerdydd. Mae Nelly’n ymladd dros gydraddoldeb a chyfiawnder i bawb, gyda breuddwyd i alluogi cenedlaethau’r dyfodol i ddefnyddio eu llais a darganfod eu lle arbennig hwy eu hunain.

Dywedodd: “Mae Caerdydd yn ddinas amrywiol ac mae bod yn berchen ar eich Hunaniaeth, a theimlo eich bod yn perthyn, yn bwysig iawn i gynhwysiant. Bydd ysbrydoli pobl i ddefnyddio eu lleisiau a rhannu eu storïau yn ein galluogi i dyfu fel cenedl, gyda’n gilydd, gyda dealltwriaeth.” 

 

Yusuf Ismail

Yusuf Ismail yw cyd-sylfaenydd UNIFY, stiwdio greadigol Gymreig chenhadaeth i wneud y diwydiant creadigol yng Nghymru’n fwy cynhwysol a hygyrchMae UNIFY yn gweithio gydag adeiladau yn y brifddinas i hybu cynwysoldeb, yn cynnwys My City, My Shirt, sy’n darlunio trigolion Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yng nghrys Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd.

Un o’u darnau diweddaraf (y gellir ei weld yn y fideo) yw gweithio ar y cyd Chyngor Caerdydd a Swyddfa Gartref y DG, fel rhan o ymgyrch Strydoedd Diogelach sy’n ceisio mynd i’r afael thrais yn erbyn menywod a merched drwy wneud  ein strydoedd yn ddiogelach. Trawsnewidiodd UNIFY danffordd oedd wedi ei hesgeuluso, wedi ei hamgylchynu gan strydoedd prysur gyferbyn Chastell Caerdydd, gan arwain at osod goleuadau a bywiogi’r twnnel drwy ddathliad mewn paent o fenywod sy’n creu ac yn mwynhau cerddoriaeth 

Collage of portraits of those featured in our Cymru Can video

Canolfan y Dechnoleg Amgen (CAT)

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen, CAT, yn elusen addysgol wedi’i lleoli ym Machynlleth, sy’n ymroddedig i ymchwilio a chyfathrebu atebion cadarnhaol ar gyfer newid amgylcheddol.

Mae canolfan eco CAT wedi’i hamgylchynu gan natur yn Biosffer Dyfi UNESCO ar gyrion Parc Cenedlaethol Eryri, gyda gerddi bwytadwy, coetiroedd ac amrywiaeth eang o adeiladau gwyrdd.

Mae’r tîm yn siarad â’r llywodraeth ac ymgyrchwyr am bolisïau a fyddai’n helpu i greu Prydain ddi-garbon, yn darparu graddau ôl-raddedig a chyrsiau byr ym mhob agwedd ar gynaliadwyedd, ac yn cynnal ystod eang o ysgolion, colegau, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill, gan ddarparu sgiliau a gwybodaeth ac ysbrydoliaeth i helpu pobl i weithredu ar newid hinsawdd a bioamrywiaeth.

Mae Paul Allen, Cydlynydd Gwybodaeth ac Allgymorth, yn ymddangos yn ein ffilm ochr yn ochr ag Eileen Kinsman, cyd-Brif Swyddog Gweithredol.

Meddai Eileen: “Nid yw newid yn digwydd yn ddigon cyflym. Nid cyllid yw’r unig rwystr i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd – ei feddylfryd a’i gredoau, ewyllys gwleidyddol a newid cymdeithasol. Mae’r Ganolfan wedi bod yn ymchwilio ac yn rhannu ffyrdd o fynd i’r afael â heriau amgylcheddol ers 50 mlynedd bellach. Gwyddom fod gennym y dechnoleg i gyrraedd sero net, ond heb newid mewn meddylfryd, ni chawn y newid sydd ei angen arnom. Mae gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol enw rhagorol yn rhyngwladol. Rydych chi wedi cael dechrau gwych – nawr mae angen i ni ganolbwyntio ar sut rydyn ni’n ymgysylltu â chalonnau a meddyliau ac yn cyflymu newid.”

 

Ruth Fabby MBE

Mae Ruth Fabby MBE yn ddramodydd ac yn awdur straeon byrion sy’n adnabyddus am eiriol dros gynnwys pobl anabl a byddar yn y diwydiannau creadigol. Am dair blynedd, bu’r gyn-athrawes yn gweithio fel Cyfarwyddwraig Artistig Celfyddydau Anabledd Cymru a bu’n hyrwyddo pwysigrwydd hawliau pobl anabl fel hawliau dynol ac yn mynegi’r cysylltiadau rhwng celf a newid cymdeithasol. Mae Ruth Fabby ar ein rhestr 100 Ysgogydd Newid Cenedlaethau’r Dyfodol. 

 

Sam Hickman

Mae Sam Hickman yn delynores sy’n canu, yn ferch sioe, yn ddigrifwraig, yn adroddwraig straeon, cynhyrchydd theatr, cyfansoddwraig ac awdur, yn adnabyddus am ei pherfformiadau yn amrwyio o The Moon ar Stryd Womanby i Ganolfan y Mileniwm a Theatr y Sherman. Mae hefyd yn arddwraig frwdfrydig, yn ddeiliad rhandir a charthffosMae’n angerddol am arferion cynaliadwy, adeiladau cymunedol a theithio llesol 

 

Câr-y-Môr

Mae’r ffilm wedi’i recordio yng Nghâr-y-Môr, fferm wymon a physgod cregyn adfywiol sy’n eiddo i’r gymuned gyntaf Cymru, sy’n enghraifft o sut mae pobl sydd eisiau newid y byd yn defnyddio’r Ddeddf i herio a chwalu rhwystrau.

Defnyddiodd y gymdeithas budd cymunedol yn Nhyddewi, Sir Benfro y Ddeddf i apelio am drwydded forol tymor byr. Roedd yr apêl yn llwyddiannus a nawr mae ganddyn nhw drwydded 20 mlynedd i gynhyrchu gwymon Cymreig cynaliadwy a ffermio wystrys a chregyn gleision brodorol oddi ar yr arfordir yn Swnt Dewi.

Dywedodd Justin Davies, rheolwr trwyddedau morol: “Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol oedd y darn allweddol o ddeddfwriaeth yr oeddem yn dibynnu arno yn ein hapêl.”

Mae Câr-y-Môr hefyd yn cyflenwi gwymon ar gyfer dewisiadau plastig eraill, gan gynnwys blychau tecawê sy’n gwbl fioddiraddadwy.

Collage of portraits of those featured in our Cymru Can video

Cofrestrwch i gael mynediad unigryw i'r holl newyddion diweddaraf, fideos newydd, blogiau a mwy yn ein cylchlythyr misol

Subscribe to our Newsletter

Receive the latest news and updates from The Future Generations Commissioner for Wales

We never share your information.