Iechyd

Gweithredu heddiw ar gyfer gwell yfory

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn helpu i ddiogelu iechyd y genhedlaeth nesaf at y dyfodol drwy ganolbwyntio ar lesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd.

Mae’r Ddeddf wedi cyfrannu at strategaeth genedlaethol 10 mlynedd newydd ar gyfer gofal iechyd, sy’n canolbwyntio ar fesurau ataliol a gweledigaeth hirdymor o gadw pobl yn iach, nid dim ond trin salwch.

Mae’r Ddeddf yn cydnabod ffactorau ehangach sy’n effeithio ar ein hiechyd fel tlodi, tai, cyflogaeth, yr amgylchedd, ac addysg ac, yn dilyn galwadau gan y Comisiynydd, mae’r llywodraeth yn treialu incwm sylfaenol i fynd i’r afael â thlodi fel achos sylfaenol o iechyd gwael.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn mwy o enghreifftiau o sut mae’r Ddeddf wedi cael effaith ar y cwricwlwm Cymreig?

Adnoddau Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Adnoddau Eraill