Mariyah yw harweinydd ein cyfryngau cymdeithasol a gwefan, sy’n gyfrifol am greu cynnwys cymdeithasol sy’n esbonio’r Ddeddf a’n gwaith, mewn ffordd syml, gan gydweithio ag eraill a chadw ein gwefan yn gyfoes. Yn hyrwyddwr angerddol dros Gymru fwy cyfartal, ac yn awdur llawrydd, mae hi hefyd wedi cyd-sefydlu llwyfan cyfryngau annibynnol ar gyfer a chan Fwslimiaid Cymreig o’r enw Now In A Minute Media. Y tu allan i’r gwaith, mae’n debygol y bydd yn pobi cacennau gyda’i mam fel rhan o’i hymdrechion entrepreneuraidd eraill!