Mae gan Martyn brofiad helaeth ym maes cydraddoldeb. Mae’n gwasanaethu fel cadeirydd dros dro y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru. Mae hefyd yn gwasanaethu fel Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Heddlu De Cymru. Cyn hynny Martyn oedd Prif Swyddog Gweithredol Diverse Cymru lle bu’n gadeirydd Grŵp Ymarferwyr Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru. Cyn hyn, bu’n arwain ar gydraddoldeb a hawliau dynol i Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, bu’n gweithio yn Age Cymru a Chyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol y Cymoedd.