Fel Ysgogwr Newid gyda ffocws ar hinsawdd, natur a datgarboneiddio, mae Rhiannon yn cefnogi cyrff cyhoeddus yng Nghymru i fynd yn sero net erbyn 2030 ac i gymryd camau i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth. Mae Rhiannon wedi gweithio o’r blaen yn y sector cyhoeddus ar draws Llywodraeth Cymru, y GIG, y Senedd ac awdurdodau lleol lle bu’n arwain tîm Rhaglen Datblygu Gwledig CBS Pen-y-bont ar Ogwr am 10 mlynedd gan gefnogi datblygiad cymunedol cynaliadwy a chydlynol ac economïau gwledig ffyniannus. Mae gan Rhiannon hefyd gefndir elusennol fel Rheolwr Cymru gyda’r elusen teithio llesol Living Streets yn eiriol dros gerdded bob dydd, aer glân a datgarboneiddio trafnidiaeth a bu’n Ymddiriedolwr a chyd-Gadeirydd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru am rai blynyddoedd. Ei phrif feysydd diddordeb yw datgarboneiddio tai a thrafnidiaeth gan gynnwys cael ei bywyd ei hun ar y trywydd iawn i sero net. Mae Rhiannon yn byw yng Nghaerdydd gyda'i gŵr a'i dau o blant eco-ryfelwyr. “Does dim planed B!”