Mae Marie, o Ffrainc yn wreiddiol wedi ‘mabwysiadu gan Gymru’. Mae hi'n Ddirprwy Gomisiynydd ers 2021 ac mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Iechyd, gan arwain ar ddylunio a chyflawni ein cenhadaeth iechyd. Mae hi’n sicrhau ein bod ni’n gweithio drwy esiampl ac yn gweithredu mor effeithlon a chynaliadwy ag y gallwn ni. Hi yw ein guru ar gymhwyso'r Ddeddf yn gyfreithiol, ac mae hi wedi helpu i sefydlu swyddfa'r Comisiynydd. Mae'n arbenigwr ym maes cyfraith cyhoeddus, cyfraith datganoli, gweithdrefnau seneddol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Ac mae hi wrth ei bodd. Cyn hynny, bu’n Gyfarwyddwr ar gyfer Polisi, Deddfwriaeth ac Arloesi pan oedd yn gyfrifol am oruchwylio gwaith ar fonitro ac asesu amcanion, gohebiaeth, trafnidiaeth a chynllunio llesiant cyrff cyhoeddus. Marie hefyd oedd Conswl Anrhydeddus Ffrainc yng Nghymru ac yn aelod o bwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Mae'n gwirfoddoli ac yn ymddiriedolwr nifer o elusennau.