Pep yw ein harweinydd ar gyfer ein gwaith ar feddwl hirdymor a rhagwelediad, iechyd ac atal. Mae ei rôl yn cynnwys cefnogi gweithrediad y pum ffordd o weithio trwy ddatblygu hyfforddiant, offer ac adnoddau fel y Gwiriwr Taith Ffyrdd o Weithio. Mae ei rôl hefyd yn cynnwys gweithio gyda’r Dirprwy Gomisiynydd ym mhob agwedd ar waith cyngor cyfreithiol. Y tu allan i'r swyddfa, mae Pep yn hoffi darllen llyfrau ffantasi, tynnu lluniau o'i chi, lladd ei phlanhigion yn araf a chymharu tywydd Cymru a Bwlgaria.