Hysbyseb swydd ar gyfer Cynghorydd Datblygu Cynaliadwy 

(Cyfnod Mamolaeth – 1 blwyddyn) 

Graddfa 3: £34,083 – £39,106 pro rata y flwyddyn 

Dyddiad cau’r hysbyseb hon yw 5pm, Dydd Llun 13eg Mai 

Dyddiad cyfweliadau: Disgwylir Dydd Mercher, 22 Mai

Rydym yn chwilio am rywun sydd â gwybodaeth dda am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, dealltwriaeth a phrofiad o sut mae cyrff cyhoeddus cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn gweithio dros gyfnod mamolaeth. 

Mae hwn yn gyfle rhan amser (tua 2.5 diwrnod yr wythnos) tan fis Mehefin 2025, ond rydym yn agored i drafod eich syniadau am drefniadau gwahanol gyda chi fel unigolyn neu eich sefydliad presennol i wneud y mwyaf o’r cyfle hwn. Rydym yn agored i archwilio secondiadau neu fodelau partneriaeth. 

Rydym yn chwilio am Gynghorydd Datblygu Cynaliadwy, a fydd yn gweithio’n rhagweithiol i gyflawni cenhadaeth graidd Cymru Can, sef: ‘Gweithredu ac Effaith: sicrhau bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei gweithredu’n effeithiol a chydag uchelgais gan gyrff cyhoeddus mewn ffordd sy’n gwella bywydau pobl Cymru nawr ac yn y dyfodol.’ 

Gan gefnogi cyrff cyhoeddus a BGCau i gymhwyso Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ym mhopeth a wnânt, bydd deiliad y swydd hon hefyd yn gweithio’n benodol ar ein cenhadaeth o amgylch Economi Llesiant. 

Mae’r rôl bresennol yn amrywiol iawn ac yn cynnwys, er enghraifft, gweithredu fel deiliad perthynas ar gyfer grŵp o gyrff cyhoeddus a/neu Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, rhoi areithiau neu gynnal gweithdai, rhoi sylwadau neu gyngor, cynyddu ymwybyddiaeth neu arbenigedd trwy ddysgu a datblygu, gwneud cysylltiadau â phrosiectau, pobl neu sefydliadau eraill. Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon. 

Rydym yn croesawu ceisiadau o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Mae gan ein sefydliad bolisi gweithio “Unrhyw Bryd, Unrhyw Le” a, thra bod ein swyddfa yng Nghaerdydd, mae llawer ohonom yn gweithio gartref (neu rywle arall!) 

Cysylltwch â heledd.morgan@futuregenerations.wales neu alice.horn@futuregenerations.wales i siarad mwy am y cyfle hwn. 

Beth nesa: