Ein Diwylliant

Rydym yn gweithio’n galed i greu a chynnal diwylliant gweithle lle mae llesiant ein gweithwyr yn flaenoriaeth. Mae llesiant yn ei ystyr ehangaf yn ymwneud â chreu’r amodau cywir i ni ffynnu.

Gyda’n gwerthoedd craidd a rennir mewn golwg, rydym wedi datblygu diwylliant sy’n anelu at gefnogi’r canlynol: 

  • Cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith
  • Datblygiad proffesiynol parhaus
  • Amser i wneud pethau sy’n bwysig i’n tîm, y tu allan i’r swyddfa a bod yn hyderus o wybod ei bod yn iawn diffodd
  • Cysylltiad â’n cydweithwyr, gan wybod bod ein hangen i gael amser gydag eraill ac amser yn unig yn cael ei barchu
  • Man lle rydym yn teimlo’n ddiogel i ddangos ein gwendidau a chael ein parchu

 

Mae ein harferion llesiant yn cynnwys: 

Iechyd a Llesiant 

Rydym yn annog ein tîm i fwynhau buddion byd natur a mynd allan i’r awyr agored mor aml ag y gallant trwy gyfarfodydd tîm awyr agored a ‘Cherdded a Sgwrsio’ ar gyfer trafodaethau un i un a thrafodaethau ar y cyd. 

I gefnogi ein nod o gyflawni Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, mae llawer o’n tîm naill ai’n siaradwyr Cymraeg rhugl neu, ymhell ar eu ffordd i gyflawni hyn. Mae ‘Clwb Cymraeg’ a arweinir gan weithwyr yn cefnogi cydweithwyr i ymarfer eu sgiliau iaith, gan sgwrsio a chyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. 

Gwario

Mae dilyn ei brosesau gwario cynaliadwy yn golygu bod ein swyddfa yn cefnogi ystod eang o fusnesau lleol sy’n cadw arian i gylchredeg yn yr economi leol, yn cefnogi llesiant cymunedol ac yn helpu i leihau effeithiau amgylcheddol. Mae gweithio gyda mentrau cymdeithasol a busnesau sydd â chenhadaeth gymdeithasol gref wedi helpu ein Swyddfa i gynyddu ei heffaith hyd yn oed ymhellach. 

Mae gennym berthynas hirsefydlog gyda Bigmoose, elusen a menter gymdeithasol ddi-elw sy’n cefnogi pobl sydd wedi profi digartrefedd a phroblemau iechyd meddwl, gan ddefnyddio eu caffi fel lleoliad cyfarfod, prynu eu cynnyrch a chymryd rhan yn eu digwyddiadau elusennol. 

Trafnidiaeth 

Anogir ein Tîm i ddefnyddio’r dull mwyaf cost effeithiol a charbon isel o deithio, llety a lletygarwch. 

Rydym hefyd wedi llofnodi siarter Teithio Iach Cymru sy’n cynnwys cyfres o gamau gweithredu y mae sefydliadau’n ymrwymo’n gyhoeddus iddynt, i ddangos eu hymrwymiad i gefnogi cerdded, beicio, trafnidiaeth gyhoeddus, a defnyddio cerbydau allyriadau isel iawn. 

Y ffordd rydym yn gweithio 

Rydym yn hyrwyddo’n gadarn y syniad o sicrhau cydbwysedd yn ein bywydau y mae ein fframwaith Gweithio Unrhyw Le Unrhyw Amser yn ein helpu i’w gyflawni drwy ein galluogi i gael dewis a hyblygrwydd yn y ffordd yr ydym yn gweithio. 

Rydym wedi mabwysiadu’r wythnos waith fyrrach yn gynnar ac wedi gweithredu’r hyn sy’n cyfateb i waith 4 diwrnod yr wythnos yn ystod y pandemig COVID-19 heb golli unrhyw gyflog. Ers hynny rydym wedi sefydlu dyhead wythnos waith safonol 30 awr. Mae’r ffordd drawsnewidiol hon o weithio wedi gweld cynnydd yn llesiant ein tîm ond mae hefyd wedi ein helpu i recriwtio a chadw pobl a thalent anhygoel. 

Cam-drin Domestig 

Ym mis Mawrth 2019, ni oedd y cyflogwr cyntaf yng Nghymru i gynnig absenoldeb cam-drin domestig â thâl i gyflogeion. Mae’r polisi hwn yn caniatáu i gydweithwyr gymryd hyd at bum diwrnod y flwyddyn â thâl ar gyfer argyfyngau domestig brys; mae hyn yn codi i 10 os oes angen i’r gweithiwr adael cartref neu gael mynediad i loches. Ers hynny mae’r polisi wedi’i fabwysiadu gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Llywodraeth Cymru. 

Ym mis Tachwedd 2020, fe wnaethom gyflwyno polisi arall i helpu aelodau o staff a allai fod yn ddioddefwyr trais neu gam-drin domestig. O dan y polisi hwn, gall gweithwyr sy’n gweithio i’n swyddfa wneud cais am grant arian parod o hyd at £500, blaenswm cyflog neu fenthyciad o hyd at £5,000 i helpu i dalu am unrhyw beth o gostau adleoli gan gynnwys rhent neu flaendal ar gartref, i gyflenwadau hanfodol. Gwiriwyd y polisi gyda Bawso; sefydliad sy’n cefnogi cymunedau Du ac Asiaidd Lleiafrifoedd Ethnig sy’n ddioddefwyr cam-drin a chamfanteisio. 

Mae gennym hefyd fwy o bractisau sy’n sicrhau bod lles ein tîm yn parhau i fod wrth wraidd ein gweithrediad, fel ein: 

  • Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n hyfforddi arweinwyr ifanc o amrywiaeth o sectorau gyda’r sgiliau angenrheidiol i arwain, hyrwyddo a gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
  • Cynllun Gweithredu gwrth-hiliol
  • Canllawiau cyflog teg tryloyw
  • Ymrwymiad i interniaethau â thâl llawn
  • Cwpan Calon – cydnabyddiaeth wythnosol cyfoedion

 

Diddordeb mewn mwy o wybodaeth am ein diwylliant gwaith? 

Cofrestrwch i gael mynediad unigryw i'r holl newyddion diweddaraf, fideos newydd, blogiau a mwy yn ein cylchlythyr misol

Subscribe to our Newsletter

Receive the latest news and updates from The Future Generations Commissioner for Wales

We never share your information.