Mae Julie Cook yn Swyddog Cenedlaethol yn TUC Cymru. Mae hi’n arwain y tîm Polisi, gan gynnwys Swyddog Cydraddoldeb, Cyfathrebu Digidol a thîm y Gymraeg, tîm Addysg Undebau Llafur a Llywodraethiant TUC Cymru.

Mae hi hefyd yn dirprwyo ar ran Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru yn ôl y gofyn. Mae Julie wedi gweithio i’r sefydliad ers blynyddoedd lawer ac wedi dal amrywiaeth o swyddi. Hi oedd y Swyddog arweiniol ar gyfer negodi Cronfa Ddysgu Undebau Cymru.