Mae gan Natalie gefndir eang o waith tîm a rheoli swyddfa; cynorthwyo pobl eraill i wireddu eu rolau a chyrraedd eu potensial yw’r hyn y mae’n hoffi ei wneud yn anad dim. Mae gan Natalie ddiploma mewn Seicotherapi a Hypnotherapi ac mae’n caru cwrdd â phobl o bob cefndir. Mae Natalie’n byw gyda’i theulu ifanc a dwy gath sy’n cael eu sbwylio’n rhacs, ac mae’n mwynhau mynd allan i fwynhau’r awyr agored ar bob cyfle, neu ddarllen pa bryd bynnag y mae’n cael peth amser tawel (nad yw’n digwydd mor aml â hynny!).