Rhaid i gyllideb Llywodraeth Cymru nodi newid cyfeiriad i ailosod ein heconomi

Mae’r pandemig Covid-19 wedi amlygu anghydraddoldebau strwythurol dwfn yn ein heconomi a’n cymdeithas, yn cynnwys tlodi cyflog, anghydraddoldebau iechyd, gwahaniaethau hiliol, tlodi bwyd, ansicrwydd swyddi ac anghydbwysedd yn ansawdd tai. Ar yr un pryd mae dirywiad yn ein hinsawdd a’n hecoleg yn cynyddu, ac rydyn ni mewn perygl o ddwysáu’r heriau hyn i gyd os wnawn ni ddychwelyd i’r hen ffordd o fyw.