Cyhoeddwyd heddiw y bydd pobl sy’n gweithio i Genedlaethau’r Dyfodol Cymru’n medru cael cymorth ariannol i ddianc rhag perthynas dreisgar.

Heddiw mae Sophie Howe yn lansio polisi newydd a fydd yn caniatáu i staff sy’n dioddef trais yn y cartref i gyrchu grant neu fenthyciad i ‘leddfu rhwystrau ariannol’ a allai eu hatal rhag gadael yr un sy’n cyflawni trais.

Adroddir mai materion ariannol yw un o’r rhwystrau mwyaf i adael perthynas dreisgar, a gobeithir y bydd y polisi, sy’n cael ei lansio ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn Erbyn Menywod y Cenhedloedd Unedig, yn cael ei roi ar waith ledled Cymru.

Ym mis Mawrth 2019, daeth y comisiynydd i fod y cyflogwr cyntaf yng Nghymru i gynnig absenoldeb trais yn y cartref gyda thâl i gyflogai.

Gall staff gymryd i fyny at bum diwrnod y flwyddyn gyda thâl ar gyfer argyfyngau neu faterion brys domestig, neu 10 os oes angen i’r cyflogai adael cartref neu gyrchu lloches, ac ers hynny mae’r polisi wedi cael ei fabwysiadu gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Llywodraeth Cymru, gyda rhagor o gyrff cyhoeddus yn debygol o’u dilyn.

O dan y polisi cymorth ariannol newydd, gall cyflogeion sy’n gweithio i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn awr wneud cais am arian parod i fyny at £500, blaendal cyflog, neu fenthyciad hyd at £5000 i helpu i dalu am unrhyw beth, yn amrywio o gostau adleoli yn cynnwys rhent neu flaendal ar gartref, i nwyddau hanfodol.

Mae’r comisiynydd yn annog sefydliadau eraill i ystyried sut y gallant gynorthwyo ymhellach unrhyw un sy’n dioddef trais yn y cartref.

Gall cyflogeion hefyd gyrchu cymorth i ddatblygu cynllun diogelwch, galw am sgrinio i’w hamddiffyn rhag trais, a chymorth 24 awr oddi wrth gwnselwyr hyfforddedig.

Mae’r sefydliad, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru fel yr unig wlad yn y byd i ddeddfu ar gyfer llesiant, o dan y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn annog gweithio hyblyg. Mae ganddo bolisi gweithio ‘unrhyw le unrhyw amser’ ar gyfer yr holl staff, fel y gallant weithio eu horiau yn y lleoliad sy’n fwyaf addas iddynt hwy a’u teulu.

Mae’r tîm hefyd yn codi ymwybyddiaeth o drais yn y cartref a’i achosion a’i ganlyniadau drwy weithgareddau blynyddol, hyfforddiant a rhannu dysgu.

Gweithiodd y comisiynydd gyda Rachel Williams goroeswraig trais yn y cartref i ofyn i oroeswyr beth fedrai cyflogwyr ei wneud i helpu, a gwnaethant ddweud wrthym pa mor bwysig yw cyrchu cymorth ariannol wrth ddianc oddi wrth eu sefyllfa.

Dywedodd Ms Howe: “Mae gan drais yn y cartref ganlyniadau hirdymor i ddioddefwyr a’u plant. Mae bron i hanner pobl yng Nghymru wedi tyfu i fyny gydag o leiaf un profiad niweidiol yn ystod eu plentyndod yn cynnwys trais yn y cartref*, ac mae’r rhai sy’n byw gydag aml-brofiadau niweidiol yn fwy tebygol o fod yn ddioddefwyr trais yn y dyfodol, o ddioddef problemau iechyd meddwl hirdymor a hyd oed fod yn fwy tebygol o gael cyflyrau iechyd cronig.

“Mae ar genedlaethau’r dyfodol angen i bawb yn cynnwys cyflogwyr i wneud yr hyn y gallant i fynd i’r afael â hyn. Rydyn ni’n aml yn meddwl mai mater i’r heddu neu wasanaethau cymdeithasol yn unig yw hyn, ond y gwir yw bod gan gyflogwyr rôl enfawr i’w chwarae yn y dasg o helpu i gadw eu cyflogeion yn ddiogel yn y gwaith a gartref.”

Dywedodd Ms Howe, cyn ddirprwy gomisiynydd heddlu a throseddu De Cymru, ac ymgyrchydd, ers tro byd, dros hawliau’n ymwneud â thrais yn y cartref, ei bod yn awyddus i weld ‘arweinyddiaeth’ oddi wrth y Senedd a Llywodraeth Cymru wrth osod safon ar gyfer amddiffyniad ariannol eang i unigolion a’u teuluoedd.

Dywedodd: “Mae gennym i gyd ddyletswydd i helpu eraill i fyw yn rhydd o drais yn y cartref, ac i amddiffyn y rhai o’n cwmpas rhag niwed. Os y gall yr arian hwn leddfu rhwystr i ddiogelwch, byddwn yn sicrhau ei fod ar gael – p’un ai ydyw ar gyfer cychwyn cartref newydd, addasu’r un presennol, gofal plant neu hyd yn oed dalu am lety i anifail anwes.

“Gall unrhyw un gael eu heffeithio gan drais yn y cartref a gobeithiaf y bydd sefydliadau eraill yn ystyried sut y gallant gynnig help a allai un dydd fod yn fodd o achub rhywun yn eu tîm.”

Dywedodd Gwendolyn Sterk, yng Nghymorth i Fenywod Cymru: Mae Cymorth i Fenywod Cymru’n falch i weld y camau ychwanegol sy’n cael eu cymryd i gynorthwyo’r rhai sydd wedi goroesi yng Nghymru.

“Mae trais yn erbyn menywod, trais yn y cartref a thrais rhywiol yn fusnes i bawb, a hoffem weld pob cyflogwr yn medru ymateb drwy gynorthwyo’r rhai sy’n profi camdriniaeth neu drais yn y cartref, gan gymeradwyo tîm Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wrth iddynt ddatblygu’r arfer da hwn.”

Cefnogwyd y polisi gan Mutale Merrill, Prif Swyddog Gweithredol Bawso a dywedodd bod Covid-19 ‘i bob pwrpas wedi caethiwo menywod duon a menywod lleiafrifoedd ethnig ac wedi lleihau’r cyfleoedd iddynt ddianc oddi wrth y trais, gan effeithio’n sylweddol ar eu hiechyd meddwl.

Dywedodd, “Mae menywod yn parhau i ddioddef creithiau corfforol ac emosiynol trais a gyflawnir yn eu herbyn yn bennaf gan bartner gwrywaidd, neu yn achos rhai menywod o leiafrifoedd ethnig, gan aelodau eraill yr holl deulu, ac yn ychwanegol at hynny gan y gymuned.

“Mae cymdeithas yn dal yn elyniaethus tuag at fenywod sy’n ffoi rhag trais ac mae menywod yn wynebu heriau enfawr wrth adael eu teuluoedd a phopeth sy’n gyfarwydd iddynt er mwyn ffoi rhag trais ac amddiffyn eu plant. Maent yn wynebu ansicrwydd ariannol, dadleoliad meddyliol ac yn aml rwystrau iaith sy’n cymhlethu dealltwriaeth a chyfathrebu.

“Rydyn ni bob amser yn archwilio dulliau newydd o gysylltu â dioddefwyr i’w helpu i oroesi a chynllunio ar gyfer dyfodol sy’n rhydd o drais.

 

Fy stori i: Rachel Williams

Cefnogodd yr oroeswraig trais yn y cartref Rachel Williams y cynllun, a dywedodd y gallai cefnogaeth ariannol achub bywydau.

Cafodd y ddynes 48 oed o Gasnewydd ei saethu yn y gweithle gan ei gŵr yr oedd wedi gwahanu oddi wrtho ar ôl 18 mlynedd o drais corfforol ac emosiynol yn cartref, yn dilyn hunanladdiad Jack, ei mab 16 mlwydd oed.

Meddai: “Gallai hyn helpu cymaint o bobl sy’n cael eu hatal rhag gadael sefyllfa a allai eu lladd.

“Cynigir cymorth ariannol i bobl am lawer o resymau, gan gynnwys colli swydd. Ac eto, yn aml nid yw rhywun sy’n gadael cartref peryglus yn gwybod ble maen nhw’n mynd i gysgu’r noson honno.

“Byddai’r math hwn o gefnogaeth ymarferol wedi rhoi opsiwn arall i mi. Byddwn wedi gadael flynyddoedd ynghynt oni bai fy mod wedi bod yn poeni am ble byddai fy mhlant a minnau’n mynd i fyw.”

Mae Rachel bellach yn ymgyrchu ar faterion trais yn y cartref. Dilynir ei thudalen Facebook Don’t Look Back, gan 15,000 o bobl ac mae hi’n llysgennad ‘The Freedom Programme’. Ers y pandemig, cynyddodd y rhai oedd yn dilyn ei chwrs ar-lein 12 wythnos, a ariannwyd, o 10 i oddeutu 100 o fenywod.

Meddai: “Mae yna resymau pam mae pobl yn mynd yn ôl at dreisiwr. Mae’r addewidion i newid, ynghyd ag ofn ynghylch sut i fwydo eich plant, yn gallu gwneud yr opsiwn i aros i ymddangos yr un haws.

“Mae hynny’n achos pryder arbennig yn awr wrth i ni brofi cyfyngiadau symud, a gyda llawer o bobl yn colli swyddi ac yn ofni am eu dyfodol ariannol.”

Dywedodd Rachel y gallai’r gefnogaeth helpu lle mae person wedi dod yn ansefydlog yn ariannol am lawer o resymau, yn amrywio o bartner sy’n rheoli’r cyllid, i gael ei gorfodi i gymryd benthyciadau, neu fynnu eu bod yn trosglwyddo cyflog. Neu lle maen nhw wedi gorfod ffoi o’u cartref ar frys.

Meddai: “Mae cymdeithas yn rhoi pwysau ar bobl, yn enwedig menywod, i adael perthynas dreisgar, heb feddwl bob amser sut y gallent wneud hynny.

“Rydych chi’n dechrau o’r dechrau eto, weithiau ar ôl blynyddoedd o adeiladu cartref.

“Efallai bod angen dillad gwely newydd arnynt ar gyfer eu plant, gwisg ysgol ar gyfer ysgol newydd, neu gyfrifiadur iddyn nhw wneud eu gwaith cartref, talu i sefydlu’r rhyngrwyd, neu hyd yn oed gwpanau, soseri a thegell newydd.

“Mae cynnig cefnogaeth ymarferol, ariannol yn lledaenu’r neges actifyddiaethein bod ni fel cymdeithas yn gwrando ar oroeswyr trais yn y cartref.

“Dylai busnesau ystyried cefnogi hyn. Busnes cymdeithas yw trais yn y cartref ac mae angen y gymdeithas arnom i helpu i’w ddileu.”

 

Bydd Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn Erbyn Menywod, ar Dachwedd 25, yn gweld cychwyn 16 diwrnod o actifyddiaeth byd-eang yn erbyn trais ar sail rhywedd.

 

Am fwy o wybodaeth a chefnogaeth gallwch gysylltu â’r sefydliadau hyn:

Byw Heb Ofn (Sy’n darparu help a chyngor ar drais yn erbyn menywod, trais yn y cartref a thrais rhywiol) llyw.cymru/byw-heb-ofn / 0808 801 0800

Cymorth i Fenywod Cymru (yr elusen genedlaethol yng Nghymru sy’n gweithio i roi diwedd ar drais yn y cartref a phob math o drais yn erbyn menywod) welshwomensaid.org.uk/cy  / 0808 80 10 800

Mae Dyn Wales yn darparu cefnogaeth i ddynion Heterorywiol, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol sy’n profi trais yn y cartref gan bartner. www.dynwales.org/links/ 0808 801 0321

Bawso (Cefnogi Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru sy’n profi trais yn y cartref a mathau eraill o drais, gan gynnwys Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod, Priodas Orfodol, Masnachu mewn Pobl) bawso.org.uk / 029 2064 4633

*Yn ôl Ace Aware Wales.

 

Nodiadau i olygyddion

Sophie Howe yw Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol cyntaf yn y byd, a’r unig un, gyda’r rôl o amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol rhag gweithrediadau gwleidyddol heddiw.

Golyga Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus wneud Cymru’n iachach, yn fwy cydnerth, cyfartal, cydlynus, llewyrchus, cyfrifol yn fyd-eang gyda diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, drwy gyfrwng dulliau o weithio sy’n cynnwys meddwl yn yr hirdymor, atal a chydweithredu.

Ym mis Hydref, lansiodd y Comisiynydd ei Maniffesto y Dyfodol, gan annog pleidiau gwleidyddol yng Nghymru i wrando ar farn pobl ifanc ar y newid yn yr hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol, cyn i bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed bleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau’r Senedd ym mis Mai.

Ymholiadau’r cyfryngau: Claire.rees@cenedlaethaurdyfodol.cymru