four images: top left; plants in a greenhouse, bottom left; Sam Hickman playing the harp, top right; Ruth Fabby, bottom right; three people putting up a sign at Car-y-Mor

Cymru Can: Dyma pam yr ydym yn credu y bydd yn llwyddo…

Rob Ashelford, Pennaeth Nesta Cymru, ar y modd y gallai 2024 fod y flwyddyn pan fydd Cymru’n symud at newid gwirioneddol a fydd yn fanteisiol i bobl yn awr, a hefyd yn gwarchod y dyfodol.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, deddf neilltuol i Gymru, sy’n golygu gweithredu heddiw ar gyfer gwell yfory, yn fframwaith cymhleth sydd wedi profi i fod yn her i’w gweithredu’n dda – mae’n brin mewn penodolrwydd, yn hynod eang ei chwmpas ac mae’n gosod baich ar sefydliadau cyhoeddus i weithio mewn dulliau sy’n anghyfarwydd iddynt.

Efallai oherwydd hyn, gyda rhai eithriadau, mae’r cynnydd o ran cyflawni uchelgais y ddeddf wedi bod yn araf.

Mae gennym ni yn Nesta ddiddordeb arbennig yn llwyddiant y Ddeddf ac mewn gwarchod anghenion pobl yn awr, ac anghenion y rhai sydd eto heb eu geni.

Mae llawer o’r gwaith yr ydym yn ei wneud – fel elusen sy’n ffocysu ar ddarparu arloesedd er lles cymdeithasol – yn rhannu ei hamcanion. Felly rydym yn gweld gwerth cynorthwyo menter sy’n ceisio ysgogi cynnydd yn ein meysydd diddordeb a ganddi’r potensial i gyflawni gwir newid a fedr fod o fudd i gymdeithas.

Gall mai 2024 fydd y flwyddyn pan fydd y momentwm yn dechrau symud. Mae Cymru Can – strategaeth newydd saith mlynedd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn ffocysu’n fwy tynn ar y mannau lle gallai’r Ddeddf gael yr effaith mwyaf gan roi mwy o bwyslais ar gyflawni.

Rydym ni yn Nesta’n teimlo bod profiadau diweddar ein sefydliad ni ein hunain, a’n hymagwedd at waith sy’n cael ei ysgogi gan genhadaeth, yn caniatáu i ni rannu dysgu ar ddwy agwedd allweddol o’r strategaeth hon a adnewyddwyd gan y comisiynydd a’i dîm.

1 – Dod yn elusen sy’n ffocysu-ar-effaith

Mae ymagwedd sy’n cael ei hysgogi gan genhadaeth yn ei gwneud yn ofynnol i chi osod nod penodol – i ffocysu ar yr effaith yr ydych eisiau ei gyflawni. Mae strategaeth gyfredol Nesta’n gwneud hyn – sef sicrhau fod pob plentyn yn cael

cychwyn teg mewn bywyd, gan gynyddu nifer y blynyddoedd iach a fyddant yn byw a lleihau allyriadau carbon cartrefi.

Mae ffocysu ar effath yn caniatáu i ni ddweud ie (a na) i gyfleoedd gyda mwy o bendantrwydd; i ddileu’r hyn sy’n gwrthdynnu; i ffocysu ein hadnoddau’n fwy effeithiol (ac ar gyfer yr hirdymor) a dod â phobl at ei gilydd o gwmpas diddordeb a rennir. Un o’r heriau a welwn gyda’r Ddeddf fel y mae, yw bod y saith nod llesiant yn rhy eang i fod yn ddefnyddiol – ni all neb ddweud mewn gwirionedd a ydych wedi eu cyflawni, neu heb eu cyflawni. Mae Cymru Can yn cychwyn mynd i’r afael ậ hynny drwy ei genadaethau. Mae effaith a ysgogir gan genhadaeth hefyd yn golygu ein bod yn ffocysu ar ein rheswm dros wneud rhywbeth yn hytrach nag ar sut – mae cael ein harwain gan ddiben yn hytrach na datrysiad yn creu cyfleoedd i ddarganfod syniadau newydd a radical i effeithio ar yr heriau a wynebir gennym.

2 – Darganfod y cydbwysedd rhwng ffocws a hyblygrwydd

Mae gor-ffocysu yn ddefnyddiol am yr holl resymau a nodir uchod. Gall gormod o hyblygrwydd arwain at ormod o benderfyniadau sy’n lladd momentwm. Os yr ydych eisiau gwneud cynnydd da yn gyflym gallwch ailystyried yn gyson ble’r ydych yn mynd.

Ar y llaw arall, gall gor-ffocws hefyd olygu trosglwyddo tuag i fyny gyfleoedd i fod yn ddefnyddiol neu i archwilio posibiliadau cyfagos – a fedr yn aml fod yn y man lle mae’r syniadau newydd yn gorwedd. Hyblygrwydd yw’r union beth sydd ei angen ar gyfer mynd i chwilio am bethau newydd mewn mannau cyfagos. Dros y tair mlynedd ddiwethaf yn Nesta Cymru rydym wedi gweithio i ennill cydbwysedd rhwng gor-ffocysu ar ein nodau cenhadol, tra’n parhau i fod yn ddigon hyblyg i fanteisio ar gyfleoedd sy’n cyflwyno eu hunain ar hyd y ffordd.

Enghraifft o hyn yw ein gwaith ar brydau ysgolion yng Nghymru. Tra bod ein cenhadaeth wedi ei ffocysu ar iechyd y boblogaeth gyfan, roedd y cyfle yng Nghymru’n ymwneud yn benodol ậ gordewdra ymhlith plant a’r newidiadau sy’n cael eu gwneud i brydau ysgol.

Gwnaethom benderfynnu cydfynd ậ’r cyfle oherwydd yn y pen draw byddai’n dal i’n harwain at y canlyniad yr ydym wedi ei dargedu sef poblogaeth iachach, hyd yn

oed pe bai’n golygu bod y llwybr yn edrych yn wahanol i rywfaint o’r gwaith arall yr ydym yn ei wneud mewn mannau eraill o’r DU.

Wrth edrych ar Cymru Can, credwn ei fod yn cynnal y cydbwysedd hwn yn dda. Mae’n ffocysu tra’n dal i gynnal digon o hyblygrwydd i ymateb i heriau ac ansicrwydd wrth i amser fynd heibio. Mae’n glir am yr hyn y mae’r swyddfa’n mynd i’w wneud a’r hyn nad ydyw’n mynd i’w wneud tra’n cadw gofod ar gyfer ansicrwydd.

Rhannu ffocws, rhannu cenhadaeth

Rydym yn edrych ymlaen at weld sut y bydd gwaith Nesta Cymru a gwaith tîm y comisiynydd yn medru dod at ei gilydd. Yn arbennig, mae bwyd yn faes o ddiddordeb a rennir, gydag uchelgeisiau’r Ddeddf yn alinio’n dda gyda’n ffocws ni ein hunain ar leihau gordewdra.

Gan ddefnyddio sgiliau ein timau mewnol o wyddonwyr ymddygiadol, dadansoddwyr data, dylunwyr ac arbenigwyr yn y celfyddydau a chyd-ddeallusrwydd, rydym wedi edrych ar sut i gynyddu apêl prydau ysgol iach; cynyddu cefnogaeth gyhoeddus i bolisïau bwyta’n iach a llenwi bylchau data mewn gordewdra, diet ac amgylcheddau bwyd.

Rydym yn edrych ymlaen at rannu a datblygu hyn gyda thîm Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ac eraill wrth i ni weithio gyda’n gilydd i wella Cymru yn awr ac yn yr hirdymor.

● Os yr ydych yn sefydliad a hoffai gyfrannu blog sy’n archwilio Cymru Can, ein strategaeth saith mlynedd, os gwelwch yn dda ebostiwch comms@futuregenerations.wales