Top left: group of people on a field, bottom left: image of a woman smiling wearing a green uniform shirt, top right: image of a woman smiling wearing a red scarf, bottom right image of a boy and lady smiling

Pam na fedr pob man yng Nghymru elwa ar seilwaith cymunedol cryf, lefelau uchel o ymgysylltu a chysylltedd?

Fel rhan o’n cyfres o flogiau mewn ymateb i strategaeth newydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Cymru Can, mae Eleri Williams o’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau’n archwilio’r cysylltiad rhwng cydnerthedd cymunedol ac anghydraddoldeb. Yma, mae’n edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i sicrhau bod Cymru Can yn cyflawni llesiant i bobl yn awr, ac i genedlaethau sydd eto heb eu geni ni waeth ble maent yn byw yng Nghymru.

Mae anghydraddoldeb sy’n seiliedig ar leoedd ledled Cymru yn gadael nifer cynyddol o bobl mewn perygl o ddioddef effeithiau’r argyfwng hinsawdd, gan leihau eu hamlygiad i natur a’u heithrio rhag cyrchu’r pethau sydd arnynt eu hangen i ddal yn iach yn gorfforol a meddyliol.

Mae ymchwil arloesol i asedau cymunedol yn nodi ble mae’r anghydraddoldebau parhaus hyn yn digwydd yng Nghymru a’r hyn sydd angen ei wneud nesaf. Yn ddiweddar, mae’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau sydd ậ chenhadaeth i alluogi trigolion i adeiladu ar y cryfderau a’r talentau o fewn eu cymunedau a gweithredu i wneud eu hardaloedd yn fannau gwell i fyw ynddynt, wedi cyhoeddi dau fynegai neilltuol ond sydd hefyd yn gysylltiedig.

Fel rhan o Fynegai Asedau Cymunedol Cymru, cafodd pob ardal fach o Gymru ei mapio, ei sgorio a’i graddio yn ôl presenoldeb asedau cymunedol (er enghraifft siopau cymunedol, tafarndai a mannau cyfarfod) a chydnerthedd cymunedol ehangach.

Mae’r data’n dangos bod anghydraddoldeb parhaus, seiliedig ar le, yn bodoli yng Nghymru, gyda 102 o ardaloedd bach wedi eu categoreiddio fe rhai ‘Llai Cydnerth’ oherwydd her ddeuol darpariaeth seilwaith cymunedol cyfyngedig ynghyd ậ lefelau uchel o amddifadedd economaidd-gymdeithasol.

Mae’r mynegai’n dwyn at ei gilydd 20 dangosydd yn cynnwys rhai dynol a chymdeithasol, adeiledig ac amgylcheddol, yn ogystal ậ mesurau economaidd. Mae hyn yn arwain at asesiad hollgynhwysol o seilwaith a chyfranogiad cymunedol ar gyfer Cymru gyfan – sy’n golygu y gallwn ganfod gweithredu arwahanol ac ymatebion addas i ardaloedd bach a’u hamgylchiadau amrywiol. Bydd hyn yn hwyluso cydweithio gwybodus traws-sector i gynorthwyo cydnerthedd cymunedol fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gan helpu cymunedau i achub y blaen ac ymateb i heriau yn y tymor byr a’r tymor hwy.

Mae’r Rhaglen Buddsoddi Lleol a hwylusir gan Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yn enghraifft o fuddsoddi mewn cydnerthedd cymunedol ar lefel leol. Mae’r rhaglen yn cynorthwyo 13 o gymunedau ledled Cymru i arwain eu buddsoddiad eu hunain mewn amrywiaeth o gyfleusterau a gweithgareddau cymunedol – yn amrywio o achub canolfannau cymunedol sydd mewn perygl o gau, adeiladu parciau newydd ac ardaloedd gemau amlddefnydd, i gefnogi a sefydlu clybiau a gweithgareddau ar gyfer pobl leol.

 

Mae tystiolaeth anecdotaidd yn dweud wrthym fod asedau cymunedol yn hanfodol nid yn unig ar gyfer llesiant unigolion, ond hefyd ar gyfer llesiant cymunedol, sy’n gyd-fesur ehangach o lesiant, yn cynnwys faint o gyfraniad mae pobl yn ei wneud yn eu hardal leol.

 

Mae Mynegai Asedau Cymunedol Cymru a Mynegai Cydnerthedd Cymunedol Cymru yn awr yn darparu tystiolaeth feintiol i gefnogi hyn.

 

Mae’r ymchwil yn dangos bod cymunedau sydd â llai o leoedd i gyfarfod, cymunedau llai ymgysylltiol a gweithgar, a chysylltiad gwaeth rhyngddynt â’r economi ehangach, yn profi lefelau is o lesiant yn gymdeithasol ac yn economaidd o’u cymharu â chymunedau sydd â mwy o’r asedau hyn.

 

Bydd angen i gydnerthedd cymunedol ac ystyriaeth o anghydraddoldeb seiliedig ar le fod yn ganolbwynt cyflawniad Cymru Can.

 

Mae lleoedd â llai o gydnerthedd yn fwy tebygol o ddioddef effeithiau newid hinsawdd, i fod ậ llai o fynediad i natur a bod yn llai abl i ymgysylltu ag ymagweddau ataliol tuag at iechyd.

 

Maent yn mwynhau llai o fynediad i seilwaith cymunedol sy’n cynorthwyo llesiant diwylliannol, a gall y bydd ganddynt fwy i’w ennill drwy’r newid i economi llesiant.

I gryfhau cydnerthedd cymunedol yn awr ac yn yr hirdymor, mae Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau yn argymell bod:

· Llywodraeth Cymru’n dosbarthu adnoddau ar sail cydnerthedd yn ogystal ag amddifadedd ac yn sicrhau, drwy arweiniad neu ddeddfwriaeth gryfach, bod gan gymunedau broses symlach i feddiannu cyfleusterau cymunedol allweddol.

· Llywodraeth Cymru’n datblygu canllawiau mandadol i sicrhau bod datblygiadau tai’r dyfodol yn cael ‘eu diogelu ar gyfer y dyfodol’ gyda mynediad i drafnidiaeth dda a darpariaeth isafswm asedau cymunedol, fel canolfan gymunedol.

· Llywodraeth Cymru’n creu ‘Cronfa Cyfoeth Cymunedol’ gan ddefnyddio’r don newydd o arian sydd i’w ryddhau o dan Ddeddf Asedau Segur 2022, i adeiladu cydnerthedd cymunedol ar draws Cymru.

Drwy greu amgylchedd gefnogol ar gyfer gweithredu cymunedol ac asedau cymunedol cynaliadwy – a fydd yn y pen draw yn arbed arian cyhoeddus ac yn cyfrannu at yr agenda atal – gallwn gryfhau cydnerthedd cymunedol ar gyfer yfory a thu hwnt.

Drwy fuddsoddi mewn cydnerthedd cymunedol gallwn sicrhau yn bydd Cymru Can yn medru gwneud hyn.

Cliciwch am fwy o wybodaeth am strategaeth saith-mlynedd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.