Mae gweledigaeth newydd o drafnidiaeth ar gyfer dyfodol Cymru sy’n rhoi blaenoriaeth i drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn gam cadarnhaol tuag at newid arferion teithio’r genedl, medd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Sophie Howe.

Mae ‘Llwybr Newydd – New Path’, strategaeth newydd 20-mlynedd Llywodraeth Cymru, yn nodi ‘uchelgais’ i ail-lunio trafnidiaeth yng Nghymru, yn cynnwys hierarchaeth trafnidiaeth newydd gynaliadwy.

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn dymuno symud Cymru i ffwrdd oddi wrth or-ddibyniaeth ar ddefnyddio ceir preifat erbyn 2030, tuag at ‘genedl teithio llesol’ gan wella iechyd, yr amgylchedd a’r economi. 

Dywedodd Ken Skates y Gweinidog dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, bod y weledigaeth hirdymor o ‘system drafnidiaeth hygyrch gynaliadwy’ yn nodi ymrwymiad i ostyngiad mawr mewn allyriadau trafnidiaeth felly, “rydyn ni i gyd yn chwarae ein rhan yn y dasg o fynd i’r afael â’r argyfwng a wynebir gennym”.

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo creu llwybrau beicio gwell a diogelach a mwy o le ar gyfer cerdded a beicio, rhwydwaith o lwybrau bysiau cyflymach, mwy dibynadwy, a threnau gwell a mwy niferus, a gwell gwasanaethau a gorsafoedd i gysylltu pobl â chyflogaeth, iechyd a hamdden. 

Mae hefyd yn cynllunio i gyflwyno technoleg a seilwaith i ddarparu bysiau allyriadau isel erbyn 2028 a dywedodd y bydd yn gweithio gyda Llywodraeth y DG i ddatblygu rheilffyrdd fel rhan o’r datrysiad ehangach i dagfeydd ar yr M4.

Mae’r strategaeth ddrafft yn ymateb i’r camau a gymerwyd gan y comisiynydd i herio ymagwedd y llywodraeth tuag at gynllunio a chyllido trafnidiaeth yng Nghymru, yn cynnwys ei hymyriadau proffil uchel ar Ffordd Liniaru’r M4. Mae’r strategaeth wedi cael ei thrwytho gan flynyddoedd o waith a wnaed gan y comisiynydd ar gynghori’r llywodraeth ar y modd y mae’n rhaid iddynt drawsnewid symudedd ar gyfer y dyfodol.

Yn ei Hadroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol a’i Maniffesto ar gyfer y Dyfodol mae’n pwysleisio’r angen i fuddsoddi mewn gwella cysylltedd digidol a dulliau teithio carbon isel, yn hytrach na dibynnu ar adeiladu ffyrdd newydd, a chefnogi teithio llesol fel cerdded a beicio.

Ar hyn o bryd mae trafnidiaeth yn cyfrif am 17% o allyriadau carbon Cymru, a bydd ymdrech genedlaethol i newid ymddygiadau, mewn ymateb i argymhelliad y comisiynydd i fabwysiadu ‘newid moddol’ yn gweld Llywodraeth Cymru’n gwella dewisiadau cynaliadwy i bobl a busnesau, yn cynnwys twf mewn trafnidiaeth gyhoeddus ac ail-flaenoriaethu gwariant. 

Anogodd y comisiynydd fwy o bobl i rannu eu barn ac ymateb i strategaeth ddrafft drwy gyfrwng y broses ymgynghori, a chanmolodd yr ymrwymiad hirdymor i ffordd iachach o fyw. 

Dywedodd: “Mae cynllunio trafnidiaeth yn ymwneud â gwella bywydau pobl ac mae hwn yn ymrwymiad clir gan Lywodraeth Cymru i roi mwy o gyfle i bobl ddewis y ffordd y maent yn byw a gweithio.

 “Mae rhai o bobl fwyaf bregus Cymru’n cael eu niweidio fwyaf gan aer gwael sy’n deillio o’n dibyniaeth ar hen ddulliau o deithio. Mae gan y cynllun hwn y potensial i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a chyflogaeth a chysylltu pobl yn iawn â’u cymunedau. 

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod penderfyniadau ar wariant yn cwrdd â’r uchelgais i ddatgarboneiddio ac agor ein system drafnidiaeth i ddiwallu anghenion pawb. 

“Mae hyn yn ein hymrwymo i symud oddi wrth adeiladu ffyrdd newydd fel datrysiad safonol, a threfnu buddsoddiad hirdymor mewn teithio llesol, trafnidiaeth gyhoeddus a chysylltedd digidol ar gyfer y Gymru yr ydyn ni i gyd yn awyddus i fyw ynddi.”

Mae gwerthiannau ceir yn y DG eleni eisoes wedi gostwng o 33.2%, o’i gymharu â’r un cyfnod llynedd, yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan Gymdeithas y Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron (SMMT), tra bo gwerthiannau ceir trydan yn tyfu. 

Rhybuddiodd Ms Howe bod yn rhaid cymryd camau i gefnogi’r strategaeth newydd, yn cynnwys rhoi’r gorau i flaenoriaethu buddsoddi mewn ffyrdd, buddsoddi mwy o arian mewn cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus a buddsoddi mewn band eang da i bawb, a fydd yn helpu i leihau’r angen i deithio yn y lle cyntaf, a nodir fel blaenoriaeth allweddol yn y strategaeth ddrafft. 

Dywedodd Ms Howe y dylai prosesau i gefnogi ymyriadau trafnidiaeth, megis WelTAG (Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru) sy’n edrych ar effaith prosiect trafnidiaeth arfaethedig ar lesiant, ddilyn hierarchaeth drafnidiaeth y strategaeth (cerdded a beicio, trafnidiaeth gyhoeddus, cerbydau ag allyriadau isel iawn, cerbydau modur preifat eraill – yn y drefn honno) cyn ystyried cynlluniau seiliedig ar ffyrdd. Rhaid cael asesiad cadarn o hyn ac ni ddylid dyfarnu cyllid i unrhyw gynllun na all ddangos yn glir sut y cafodd y broses gywir ei chymhwyso. 

Mae gan Lywodraeth Cymru uchelgais hirdymor i oddeutu 30% o weithwyr weithio o’u cartrefi neu’n agos at eu cartrefi a dywedodd y byddai’n cydweithredu â chynllunio, iechyd ac addysg drwy gynlluniau megis ‘cymdogaethau 20-munud’, a argymhellwyd gan y comisiynydd fel polisi i gynorthwyo byw yn lleol.

Tynnodd y comisiynydd sylw at enghreifftiau arloesol fel buddsoddiad Cyngor Sir Gaerfyrddin o £50m i hybu cysylltedd digidol yn yr ardal, i drefnu mwy o gysylltedd band eang sefydlog ffibr llawn, yn ogystal â 4G, 5G a’r Rhyngrwyd Pethau – rhwydwaith o wrthrychau ffisegol sy’n rhan annatod o dechnolegau i gysylltu a chyfnewid data. 

Gallwch ddarllen strategaeth ddrafft Trafnidiaeth Cymru Llywodraeth Cymru, yma.

Mae ymgynghoriad wedi ei lansio i bobl gael dweud eu dweud ar y cynlluniau, sy’n rhedeg tan 25 Ionawr 2021.

Rhai o argymhellion Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ar gyfer teithio mwy cynaliadwy:

  • Lleihau gwariant ar seilwaith ffyrdd a chynyddu gwariant ar drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn cynnwys cyflwyno trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc yng Nghymru.
  • Buddsoddi mewn gwell dulliau o gysylltu a symud pobl drwy wella cysylltedd digidol, teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus. 
  • Gosod targed cenedlaethol ar gyfer symud moddol i alluogi pobl i fabwysiadu dulliau teithio carbon isel.
  • Dyrannu o leiaf 50% o wariant cyfalaf teithio ar wella gwasanaethau bws a thrên. (Ar hyn o bryd mae tua 62% o gyllideb cyfalaf trafnidiaeth yn cael ei wario ar adeiladu ffyrdd newydd).
  • Buddsoddi mewn ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd a Natur – ymrwymo i gynyddu gwariant o flwyddyn i flwyddyn.
  • Gwneud band eang yn wasanaeth cyhoeddus hanfodol.

Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth:

  1. Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr drwy gynllunio ymlaen llaw ar gyfer gwell cysylltedd, mwy o wasanaethau lleol, mwy o weithio o gartref a gweithio o bell, a mwy o deithio llesol, fel bod angen i lai o bobl ddefnyddio eu ceir yn ddyddiol.
  2. Cynyddu trafnidaeth gyhoeddus.
  3. Seilwaith trafnidiaeth diogel, hygyrch wedi ei gynnal a’i gadw’n dda sydd hefyd yn cefnogi dewisiadau trafnidiaeth mwy cynaliadwy.
  4. Gwneud trafnidiaeth gynaliadwy yn fwy deniadol a fforddiadwy.
  5. Cefnogi cynlluniau arloesol sy’n darparu dewisiadau mwy cynaliadwy.