Christine Boston, Sustrans Cymru

Bu’r cyhoeddiad nôl ym mis Mawrth eleni bod y DG yn mynd i brofi cyfyngiadau symud yn sioc i ni i gyd a gwnaethant greu heriau sylweddol wrth i ni lywio drwy fyd newydd oedd i raddau helaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ni aros gartref.

Er ei fod yn annisgwyl, rhoddodd i ni gyfle unigryw i ailgysylltu â’n hamgylchedd lleol drwy ofyn i ni aros yn ein cymuned ein hunain. Mae wedi dangos ei bod yn bosibl i ni fyw yn wahanol gyda llawer ohonom yn gwneud teithiau byrrach yn uniongyrchol o’n cartrefi ar droed neu ar feic. 

Mae llawer ohonom wedi profi ffordd symlach o fyw sydd wedi rhoi mwy o amser i ni fod gartref a gyda’r teulu. Rwyf wedi gweld plant yn chwarae yn y stryd oherwydd ei bod yn sydyn yn ddiogel i wneud hynny, ac mi gefais fy nghalonogi gan y nifer o deuluoedd yr wyf wedi eu gweld yn cerdded yn hapus drwy gaeau mwdlyd, yn archwilio coetir lleol neu’n mynd i ffwrdd am reid ar eu beiciau.

Mae’r profiadau hyn wedi dangos pwysigrwydd nifer o bethau yr ydym ni, ynghyd â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, wedi bod yn galw amdanynt megis:


Cymdogaethau 20 munud 

Am ddegawdau bellach, rydyn ni wedi bod yn adeiladu cartrefi a gwasanaethau yn y gred bod gan bobl gar ac y byddant yn gyrru. Mae hyn nid yn unig yn eithrio bron i chwarter poblogaeth Cymru nad ydynt yn gyrru ond mae hefyd yn cael effaith niweidiol ar ein hiechyd a’n llesiant. Mae pobl yn cael eu gorfodi i fod yn ddibynnol ar geir sy’n dinistrio ein hamgylchedd. 

Mae cynllunio yn y ffordd hon yn arwain at anfanteision ac arwahanrwydd wrth i hyd yn oed y pethau syml fel prynu peint o laeth, ddod yn her wirioneddol. O bwys hefyd yw bod effeithiau negyddol yn cael eu teimlo’n fwy dwys gan bobl sy’n byw mewn cymunedau llai breintiedig, lle mae pobl yn llai tebygol o yrru ac yn ei chael hi’n fwy anodd cyrchu’r hyn sydd arnynt ei angen i fyw bywyd gweddus. 

Mae Sustrans wedi hyrwyddo gweledigaeth ers tro byd lle gall pobl mewn trefi a dinasoedd gyrchu popeth sydd arnynt ei angen o fewn taith gerdded 20 munud. Mae hynny’n golygu bod ysgolion, siopau, gweithgareddau hamdden a gwaith wedi eu lleoli ar garreg y drws.

Mewn cymdogaeth 20 munud, mae strydoedd yn rhoi blaenoriaeth i bobl, gyda phalmentydd llydan, mannau i eistedd a pharcio beic. Gall plant chwarae yn y stryd a cherdded a beicio i’r ysgol yn ddiogel. Yn y cymdogaethau hyn, mae pobl yn dewis cerdded a beicio oherwydd mai dyma’r dewis mwyaf hawdd a mwyaf cyfleus. Pan fydd angen iddynt deithio ymhellach, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn hawdd ei gyrchu, yn rhad ac yn gyson. 

Mynediad i fan gwyrdd  

Eleni’n fwy nag erioed, rydyn ni wedi dod i ddeall gwerth mannau gwyrdd a glas ar gyfer iechyd da a llesiant. Yn gynharach eleni, pan wnaethom brofi byd oedd yn newid yn gyflym o’n cwmpas, daethom i ddeall bod mynediad i natur a mannau gwyrdd a glas yn fodd o ennill tawelwch a sefydlogrwydd. Rydyn ni eisiau i bawb gael mynediad i fannau gwyrdd yn yr awyr agored, ac yn arbennig fannau cyhoeddus, i sicrhau bod pawb yn medru cael eu dos o ‘Fitamin N’.

Yn Sustrans, rydyn ni eisiau buddsoddi a gwella’r Rhwydwaith Feicio Genedlaethol a’i gwneud yn goridorau gwyrdd a glas sy’n llwybrau heb draffig sy’n cysylltu cymunedau â phob math o gyrchfannau. Byddai’r coridorau’n cael eu defnyddio ar gyfer cymuned, teithiau bob dydd neu ar gyfer gweithgareddau hamdden, yn ogystal â rhoi i bobl y cyfle i gysylltu â natur o’u cwmpas. Rydyn ni’n gweld hyn fel rhywbeth sy’n fwy buddiol i bobl a chymunedau nag adeiladu ffyrdd newydd. 

Rydyn ni’n gwybod bod adeiladu ffyrdd newydd yn cynnig datrysiad tymor byr yn unig i dagfeydd a phroblemau trafnidiaeth. Bydd buddsoddi mewn rhwydwaith o goridorau gwyrdd yn rhoi i bobl ddull amgen gwyrdd a chyfleus yn hytrach na dibynnu ar gar preifat. 

Gweithio’n lleol 

Am amser hir, mae wedi bod yn ofynnol i bobl deithio i weithle yn unig er mwyn medru gweld eu bod yn gweithio. Roedd yn golygu bod tagfeydd ar y ffyrdd, trenau’n orlawn ac anadlu aer llygredig yn ddigwyddiad dyddiol. Roedd hefyd yn gosod pwysau ychwanegol ar rieni sy’n gweithio, yn gwaethygu’r bwlch tâl rhwng y rhywiau ac yn creu rhwystrau i bobl ag anableddau sy’n dymuno cyfranogi yn y farchnad lafur. 

Bwriad deddfau ar weithio hyblyg yw lefelu’r maes chwarae, gan osod dyletswydd statudol ar gyflogwyr i ystyried dulliau mwy cynhwysol o weithio, ond mae rhwystrau styfnig wedi parhau…tan eleni. Yn sydyn, mae llawer o swyddi y dywedwyd wrthym gynt na fedrid eu cyflawni o’r cartref, wedi trawsnewid dros nos i weithio yn y cartref ‘ar gyfer y dyfodol gweladwy’. Mae hwn yn newid o bwys ar gyfer cydraddoldeb ac er bod angen i ni feddwl am ddulliau o ddwyn pobl at ei gilydd, yn sydyn mae’n ymddangos yn gredadwy y gallai hybiau gwaith ddarparu rhai cyfleoedd i leihau’r angen i deithio bob dydd.

Mae hyn i gyd yn cynnig cyfle i ni ailddychmygu ein trefi a’n dinasoedd, a’u trawsnewid yn fannau sy’n annog ffyrdd iach o fyw ac sy’n caniatáu i bobl deithio llai ac mewn dull mwy cynaliadwy pan fydd angen i ni fynd ymhellach. O’n safbwynt ni, mae creu lleoedd gwell i bobl yn creu cymunedau â gwell cysylltedd, amgylchedd iachach a gwell cyfleoedd ar gyfer busnesau lleol. 

Am ddegawdau rydyn ni wedi bod yn adeiladu a dylunio trefi/dinasoedd/cymunedau o amgylch y car preifat gyda llawer o grwpiau bregus yn dioddef fel canlyniad. Mae eleni wedi ein gwneud yn ymwybodol o’r ffordd y gallwn fyw bywydau mwy cynaliadwy ac wedi dangos mai’r pethau bychain yw’r rhai pwyicaf. Gobeithiwn y bydd 2021 yn dwyn ffocws newydd a chyfleoedd newydd i newid ein ffordd o fyw fel y gallwn ganolbwyntio ar y pethau sydd bwysiacaf i ni – iechyd, hapusrwydd a chydraddoldeb.  

Os yr ydych eisiau darganfod mwy am Sustrans Cymru ymwelwch â: https://www.sustrans.org.uk/about-us/our-work-in-wales