Rhaid cymryd ansicrwydd bwyd o ddifrif, meddai Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, wrth iddo alw am gynllun hirdymor ar gyfer bwydo dyfodol Cymru
15/4/24
Rhaid cymryd ansicrwydd bwyd o ddifrif, meddai Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, wrth iddo alw am gynllun hirdymor ar gyfer bwydo dyfodol Cymru
Mae angen i Gymru gymryd ansicrwydd bwyd o ddifrif a chael cynllun ar gyfer bwydo’r boblogaeth yn y dyfodol, meddai Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
Mae Derek Walker yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi cenhedlaeth newydd o gynhyrchu bwyd cynaliadwy ac iach yn lleol, gyda chreu strategaeth fwyd genedlaethol hirdymor y mae ei hangen ar frys yn wyneb system fwyd fyd-eang ansefydlog, meddai.
Mae cynllun hirdymor ar gyfer bwydo Cymru, meddai, yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod y bobl fwyaf difreintiedig mewn cymdeithas, a chenedlaethau’r dyfodol, yn gallu bwydo eu hunain a’u teuluoedd.
Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac mae gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Walker, rôl i gefnogi a herio cyrff cyhoeddus, gan gynnwys cynghorau, byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru, i ddiogelu’r dyfodol fel maent yn mynd i’r afael â phroblemau heddiw.
Mewn digwyddiad ddydd Mawrth yma (Ebrill 16), mae’r comisiynydd yn dod â phobl ynghyd i archwilio sut y gallwn amddiffyn pobl yng Nghymru rhag prinder bwyd yn y dyfodol a chynnydd eithafol mewn prisiau mewn system fwyd fyd-eang ansefydlog. Byddai effeithiau system fwyd fyd-eang gyfnewidiol yn gwaethygu ymhellach yr heriau o ansicrwydd bwyd, y mae Cymru eisoes yn eu hwynebu.
Yr Athro Tim Lang, a fydd yn siarad yn Food Shocks: Is Wales prepared for an uncertain food future? yng Nghaerdydd, digwyddiad ar y cyd ag Our Food 1200, yn dweud nad yw’r DU yn barod ar gyfer siociau bwyd yn y dyfodol, a allai arwain at silffoedd archfarchnadoedd gwag a chynnydd pellach ym mhrisiau bwyd.
Mae Canada a’r Almaen yn drafftio cynlluniau bwyd cynhwysfawr sy’n mynd i’r afael â gwytnwch, tra bod Ffrainc yn ei gwneud yn ofynnol i ddinasoedd gael cynlluniau i fwydo eu poblogaethau o’u mannau gwledig ac mae gan Lithwania a’r Swistir gronfeydd wrth gefn bwyd cenedlaethol.
Yng Nghymru, mae Bannau Brycheiniog wedi gosod rhwydweithiau bwyd lleol wrth galon ei gweledigaeth ar gyfer llesiant pobl a diogelu byd natur. Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych wedi ymrwymo i ddatblygu cynlluniau i ddiogelu bwyd yn y dyfodol, mae Sir Fynwy wedi integreiddio polisïau bwyd – o’r fferm i’r fforc – yn eu cynlluniau llesiant, tra bod Cyngor Caerdydd wedi datblygu Strategaeth Bwyd Da leol ac yn anelu at ddod yn Ddinas Bwyd Cynaliadwy o safon Aur.
Mae WWF wedi dweud bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi’r cyfle i Gymru fabwysiadu rôl arweiniol yn y DU wrth ddatblygu polisïau bwyd, o fewn cyd-destun ehangach y DU o Brexit a’r heriau difrifol y mae system fwyd y DU yn eu hwynebu.
Dywedodd Derek Walker: “Mae diogelwch bwyd yn fater llesiant mawr na allwn ddianc ohono ac mae ar Gymru angen cynllun i bobl gael mynediad at fwyd iach, fforddiadwy am genedlaethau i ddod. Rhaid i sicrwydd bwyd fod yn rhan greiddiol o strategaeth fwyd newydd i Gymru sy’n ein hamddiffyn i gyd yn wyneb rhyfel parhaus, newid hinsawdd a rhwystrau masnach yn erbyn tlodi bwyd sydd eisoes yn cynyddu.
“Rhaid i ni ofalu am y systemau naturiol sy’n darparu ein bwyd – yr anghenion dynol mwyaf sylfaenol – a bydd cynllunio’n iawn ar gyfer sut y byddwn ni’n bwyta hefyd yn mynd i’r afael â rhai o broblemau mawr eraill Cymru, wrth gefnogi ein priddoedd a’n dŵr glân.
“Rydw i eisiau gweld dyfodol lle rydyn ni’n tyfu’r bwyd sy’n bwydo ein hanwyliaid mewn ysbytai ac ysgolion, a lle gall plant godi afalau ar eu ffordd i’r ysgol.
“Gyda meddwl arloesol, gan ddefnyddio’r caniatâd mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei roi i ni wneud pethau gwahanol, gan gynnwys ffermwyr ac arbenigwyr eraill gan gynnwys grwpiau cymunedol, mae’n bosibl newid y system i addasu i’n hanghenion cyfnewidiol.”
Mae strategaeth saith mlynedd y comisiynydd, Cymru Can, yn galw am weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn well ac yn amlygu bwyd fel her allweddol i ddatgloi cynnydd o ran cyflawni nodau llesiant Cymru.
Mae’n dweud y gallai strategaeth fwyd gynnwys:
- Cynllun cydnerthedd bwyd cenedlaethol cydgysylltiedig sy’n cynnwys hyrwyddo systemau bwyd lleol.
- Gwella cadwyni cyflenwi bwyd iach lleol, gan adeiladu ar enghreifftiau megis Cyngor Sir Caerfyrddin sy’n gweithio ar fwydlen bwyd ysgol cenedlaethau’r dyfodol sy’n cynnwys cynhwysion lleol a chynaliadwy, neu bartneriaeth Synnwyr Bwyd Cymru â Chastell Howell i gynyddu’r cyflenwad o lysiau i Ysgolion cynradd Caerdydd o dyfwyr agroecolegol.
Mwy o gefnogaeth i Bartneriaethau Bwyd Lleol, megis yng ngogledd Powys, lle maent yn datblygu rhwydweithiau bwyd lleol aml-randdeiliad i fynd i’r afael â heriau bwyd lleol.
- Cynnwys ffermwyr a gwneud y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn rhan allweddol o strategaeth fwyd genedlaethol.
- Rhoi adfer byd natur wrth galon popeth a wnawn yng Nghymru, cefnogi cenhedlaeth newydd o ffermio a gwella mynediad cymunedol i dir, i gynyddu cynhyrchiant y swm isel o ffrwythau a llysiau rydym yn eu tyfu a’u bwyta. Mae’r pumed mwyaf difreintiedig o oedolion yn bwyta llai o ffrwythau a llysiau (37% yn llai), na’r pumed lleiaf difreintiedig, yn ôl The Food Foundation.
- Dulliau arloesol o dyfu yng nghefn gwlad a threfol i hybu mwy o dyfu bwyd yn y gymuned yng Nghymru.
- Sicrhau bod y cynlluniau llesiant y mae’n rhaid i gynghorau a chyrff cyhoeddus eraill eu cyhoeddi o dan y Ddeddf, yn canolbwyntio ar fwyd a diet iach.
Dywedodd Duncan Fisher o Our Food 1200:
“Mae mynd i’r afael â diogelwch bwyd yn uno buddiannau ledled Cymru – ffermio, tlodi bwyd; gwledig a threfol – fel y dangosir gan y diddordeb traws-sector eang yn y cyfarfod heddiw. Rhaid i strategaeth fwyd fynd i’r afael â dau fater bwyd mawr ein hoes, tlodi bwyd a dyfodol ein ffermio.’’
ASTUDIAETH ACHOS: “Mae pobl yn ysu i fynd ar y tir a thyfu bwyd iddyn nhw eu hunain a’u cymuned ond mae mynediad i’r tir tyfu lleol hwnnw yn broblem fawr”
Mae’r sefydliad dielw Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned Cae Felin (CSA) yn tyfu cnydau ar dir sy’n eiddo i Fwrdd Iechyd Bae Abertawe ger Ysbyty Treforys.
Mae staff wedi bod yn gwirfoddoli i helpu’r CSA i weithio tuag at ei nod hirdymor o gefnogi gofal iechyd ataliol trwy dyfu ffrwythau a llysiau ar gyfer prydau cleifion yn yr ysbyty, gwerthu blychau bwyd a hefyd eu darparu ar gyfer ardaloedd incwm isel, tra hyrwyddo manteision gwella mynediad at fwyd ffres maethlon, wedi’i dyfu’n lleol ar gyfer pob rhan o’r gymuned.
Ymhlith y mentrau i sefydlu system fwyd leol fwy teg mae darparu gweithdai garddwriaethol, sesiynau addysg awyr agored i ysgolion lleol (tyfu, cynaeafu a choginio bwyd) a chynnal clybiau cinio misol i staff ysbytai, drwy gyllid Cymorth Bwyd Uniongyrchol.
Mae’r llawfeddyg ymgynghorol Will Beasley yn gyfarwyddwr Cae Felin, sy’n cael ei redeg yn annibynnol ond yn cael ei gefnogi gan y bwrdd iechyd fel rhan o’i ymrwymiad ehangach i ddyfodol mwy cynaliadwy.
Mewn cae saith erw ar brydles gan y bwrdd iechyd, mae dwy erw wedi’u neilltuo ar gyfer adfer cynefinoedd, ac mae aelodau o’r gymuned yn cymryd rhan mewn monitro rhywogaethau, megis gwenyn, adeiladu blychau adar ac ystlumod, a thyfu bwyd yn y berllan ffrwythau a’r ardd lysiau 100-coed a drawsnewidiwyd o dir pori.
Y llynedd oedd blwyddyn gyntaf y prosiect yn tyfu ffrwythau a llysiau ac fe ddechreuon nhw gyda rownd fach o gnydau gan gynnwys cêl, letys, bresych ac aeron ac erbyn hyn mae ganddyn nhw bys, ffa, garlleg, a 30 math o datws, yn ogystal â chnydau fel cnau mâl.
Roedd y cnydau a dyfir yn cynnwys cêl, betys, ffa, ffa dringo, pys, cennin, winwns, garlleg, ysgallddail, letys, tomatos, bresych a thatws, gyda phwyslais ar amrywiaeth, plannu llawer o wahanol fathau o bob cnwd (30 math o datws). Mae rhesi amaethgoedwigaeth a stribedi lluosflwydd yn creu cynefin bywyd gwyllt ac yn adeiladu mewn gwydnwch, gan ychwanegu cymhlethdod pellach i’r system, drwy sefydlu ffrwythau meddal, perlysiau, llysiau lluosflwydd gan gynnwys asbaragws, blodau gwyllt, hopys, grawnwin a blodau bwytadwy.
Mae dwy ysgol leol yn ymweld unwaith y tymor, tra bod ail raglen gyda chleifion adsefydlu o’r clinig anaf i’r ymennydd yn yr ysbyty ar fin dechrau a bwyd a dyfir yn cael ei gyflenwi i’r ysbyty i unrhyw un ei ddefnyddio, a’i ddosbarthu ymhlith y gymuned.
Dywedodd Simon Peacock, rheolwr prosiect a thyfwr, fod y prosiect yn ymwneud ag ailgysylltu pobl â’u bwyd a’u hamgylchedd lleol a chreu gwytnwch yn y system fwyd. Mae sesiynau gwirfoddoli yn agored i staff, cleifion ac unrhyw un sydd am gael eu dwylo yn y pridd.
Meddai Simon: “Mae’n ymgysylltu â phobl, yn addysgu plant ac yn annog pobl i faeddu eu dwylo a thyfu a galluogi pobl i weithredu ar yr argyfwng hinsawdd a natur.
“Mae pobl yn ysu i fynd ar y tir a thyfu bwyd iddyn nhw eu hunain a’u cymuned ond mae mynediad i’r tir tyfu lleol hwnnw yn broblem fawr.
“Dyma enghraifft o gorff cyhoeddus a sefydliad cymunedol yn dod at ei gilydd i wneud i dyfu’n lleol ddigwydd. Os gall eraill gymryd rôl debyg gall lenwi bwlch a’n helpu i greu system fwyd sy’n gweithio i bawb.”
Nodiadau i olygyddion
Mae Tim Lang yn Athro Emeritws Polisi Bwyd yn City University of London, ac yn awdur y dadansoddiad awdurdodol o system fwyd ddiffygiol y DU, Feeding Britain: Our Food Problems and How to Fix Them. Ers blynyddoedd, mae wedi bod yn ymwneud ag ymchwil academaidd a chyhoeddus a thrafodaeth ar gyfeiriad polisi bwyd, yn lleol ac yn fyd-eang. Mae’r Athro Tim Lang wrthi’n cloi ei adroddiad mawr ar ddiogelwch bwyd a gomisiynwyd gan Gomisiwn Parodrwydd Cenedlaethol y DU. Bydd yr Athro Lang yn dadlau nad yw’r DU, gan gynnwys Cymru, yn barod ar gyfer siociau bwyd yn y dyfodol.
Bydd yr Athro Lang yn egluro mai rhan hanfodol o adeiladu diogelwch bwyd yw arallgyfeirio ein ffynonellau bwyd, fel nad ydym mor ddibynnol ar un system gyfanwerthu ac archfarchnad fyd-eang ganolog iawn. Mae angen cadwyni cyflenwi newydd, mwy lleol, fel bod ein dinasoedd yn cael eu bwydo’n fwy sylweddol o’r ffermydd yn eu cefnwledydd gwledig.
Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac mae gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Walker, rôl i gefnogi a herio cyrff cyhoeddus, gan gynnwys cynghorau, byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru, i ddiogelu’r dyfodol fel maent yn mynd i’r afael â phroblemau heddiw.
Ym mis Tachwedd 2023, lansiodd y comisiynydd ei strategaeth hirdymor, Cymru Can, gan roi ffocws ei dîm ar bum maes cenhadaeth – sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gweithio’n galetach ac yn cael effaith ym mywydau bob dydd pobl; ymateb i argyfyngau hinsawdd a natur; mwy o gamau i atal afiechyd; economi llesiant; a diogelu a gwella diwylliant a’r iaith Gymraeg.
Yn ei strategaeth Cymru Can, mae wedi cynnig strategaeth fwyd i Gymru sy’n mynd i’r afael â salwch sy’n gysylltiedig â diet, rheoli tir yn gynaliadwy, bywoliaeth ffermwyr ac ansicrwydd bwyd ar gyfer aelwydydd incwm isel. Bydd siociau bwyd yn y dyfodol yn gwaethygu problemau yn yr holl feysydd hyn.
Mae Our Food 1200 (ourfood1200.wales) yn gweithio ym Mhowys, Bannau Brycheiniog a Sir Fynwy i adeiladu cyflenwadau bwyd newydd a diogel ar gyfer y rhanbarth a dinasoedd cyfagos. Craidd ei raglen yw adeiladu ffermydd fforddiadwy ar gyfer cenhedlaeth newydd o ffermwyr.
Bydd Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn siarad yn y digwyddiad, gyda phanel trawsbleidiol o Aelodau Seneddol.
DIWEDD.