Beth ydyn ni’n ei olygu pan fyddwn ni’n sôn am Gymru a heddwch, a beth sydd gan heddwch i’w wneud â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol?

Llynedd, roeddwn i’n ddigon ffodus i gwrdd â Satish Kumar, ymgyrchydd heddwch ers amser maith a chyn-olygydd cylchgrawn Resurgence.

Fe aeth Satish a’i ffrind ar bererindod heddwch 8000 milltir o hyd yn y 1960au, gan gerdded o India i brifddinasoedd niwclear y byd: Llundain, Paris, Washington a Moscow er mwyn gweini cwpan distadl o de heddwch. Ei gred oedd y dylai arweinwyr y byd, cyn iddyn nhw wasgu’r botwm niwclear, eistedd gyda’i gilydd gyntaf a rhannu paned o de.

I Satish, daeth y daith mor bwysig â’r cyrchfan, oherwydd wrth iddyn nhw gerdded am filltiroedd a milltiroedd, bu’n meddwl yn ddwys am y cyswllt oedd gan bobl â’r blaned, ac mor ddibynnol ar ei gilydd yr oedden nhw. Meddwl am y cyswllt rhwng ecoleg a’r economi.

Yn ei gylchgrawn, Resurgence, mae e wedi ysgrifennu’n helaeth am y modd rydym ni wedi colli ein ffordd, a sut rydym ni wedi caniatâu i economi achub y blaen ar ecoleg. Mae’n tynnu sylw at y ffaith fod y ddau air, ‘ecoleg’ ac ‘economi’ yn deillio o’r un gwreiddyn Groeg, ‘oikos’. Ystyr hwnnw yw cartref.

Yn ddiddorol, mae ‘logos’ yn ecoleg, yn golygu gwybodaeth, a ‘nomos’, yn economi, yn golygu rheoli’r cartref. Felly: gwybodaeth am ein cartref a rheolaeth dros ein cartref – eithaf pell o’r hyn rydym ni’n ei feddwl nawr pan fyddwn ni’n sôn am ecoleg ac economi.

Gan ystyried gwreiddiau’r geiriau hyn, a’r cyswllt rhyngddyn nhw, sut ydyn ni wedi crwydro mor bell o’r ystyron hyn? Y ddolen gysylltiol gynhenid honno rhwng gwybod beth sy’n ein gwneud ni’n fodau dynol hapus ac iach, a’r wybodaeth honno am ein cartref – y blaned ble rydym ni’n byw.

Does ond angen ystyried y bwlch cyfoeth cynyddol rhwng biliwnyddion cyfoethocaf y byd a rhai o’r bobl hynny wnaethon ni eu pasio ar strydoedd Caerdydd heddiw, i gydnabod nad yw economi yn ein disgwrs presennol yn yr 21ain ganrif yn perthyn yn agos o gwbl i’r berthynas gynhenid honno rhyngom. Ni fel bodau dynol a’r byd o’n cwmpas.

Ac mae ’na bethau nad ydyn ni hyd yn oed yn eu cydnabod efallai – fel os ydych chi’n byw mewn ardal dlotach rydych chi hefyd yn fwy tebygol o fod yn byw gyda lefelau annerbyniol o lygredd awyr, a chael llai o fynediad i fyd natur a bwyd ffres o ansawdd da.

Dadl Satish yw na allwn reoli ein cartref heb yn gyntaf gael gwybodaeth drylwyr amdano – rhaid i ecoleg ddod gyntaf, cyn yr economi. Gwybodaeth cyn rheolaeth.

Gwyddom nad yw’r ffordd rydym ni wastad wedi gwneud pethau, a’r ffordd mae ein cymdeithas wedi rhoi mwy o werth ar ffyniant, wedi mynd law yn llaw â heddwch. Yr un gwerthoedd sy’n gyrru’r delfryd hwn yw’r un gwerthoedd sy’n tanio ein hargyfwng hinsawdd, yr epidemig iechyd meddwl, a darnau digyswllt o gymdeithas sy’n methu â chysylltu â’i gilydd.

Rydym ni’n gweld fan hyn sut mae ein harchwaeth anghynaladwy, anniwall am dwf yn mynd benben â phopeth mae Satish yn sôn amdano yn ei bererindod heddwch. Mae e hefyd yn wrthwynebus i bopeth rydym ni’n ceisio’i wneud yma yng Nghymru, gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Rydym ni’n gweld fod cyswllt hanfodol rhwng datblygu a heddwch. Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi dweud mai newid hinsawdd sy’n debygol o fod yn gyfrifol am adleoli’r nifer fwyaf o bobl dros y degawdau i ddod. Bydd rhyfeloedd yn cael eu hymladd dros ein cyfoeth naturiol wrth iddyn nhw gael eu dihysbyddu fwy a mwy.

Er nad oes nod penodol sy’n gofyn am ‘Gymru fwy heddychlon’ ymysg saith nod llesiant y ddeddfwriaeth, os na fyddwn ni’n cyflawni’r saith nod, bydd hi’n anochel y byddwn ni’n byw heb heddwch.

Heb: Gymru fwy ffyniannus, Cymru fwy gwydn, Cymru iachach, Cymru fwy cyfartal, Cymru sy’n llawn o gymunedau ymlynol, Cymru â’i diwylliant yn llachar a’r Gymraeg yn ffynnu, a Chymru sy’n gyfrifol yn fydeang, mae heddwch i Gymru a gweddill y byd yn gwbl amhosib.

Dyna rydw i’n ei gredu yw un o gryfderau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: y gydnabyddiaeth honno fod pob agwedd o’n bywyd yn integredig ac yn cyd-berthyn.

Heb gartref sefydlog a diogel, ni all plentyn deimlo’n llwyr heddychlon. Efallai fod Cymru’n cael ei hystyried yn genedl heddychlon, ond yn anffodus gwyddom fod achosion o drais domestig, cam-drin plant a’u hesgeuluso yn llawer rhy gyffredin. I rai o’n plant a phobl ifanc mwyaf bregus, fydd tyfu mewn cartref heddychlon byth yn wirionedd iddyn nhw.

Mae gwaith a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru’n dangos fod plant sy’n cael eu magu mewn cartrefi ble ceir trais domestig, defnyddio cyffuriau neu garcharu, digwyddiadau a elwir yn Brofiadau Niweidiol mewn Plentyndod (‘Adverse Childhood Experiences’ neu ACEs), yn fwy tebygol o ddatblygi ymddygiad sy’n andwyol i iechyd. Mae’r patrymau ymddygiad hyn yn gylchynol. Daw’r cylchoedd trais yn bethau sy’n pasio rhwng y cenedlaethau.

Nid dim ond ymwneud â’r hollbresennol ryfel a diarfogi niwclear y mae heddwch. Mae’n ymwneud â phob agwedd ar ein bywydau. Er mwyn dod â heddwch, fel yr ysgrifennodd llawer o’r lladmeryddion mwyaf yn erbyn trais, rhaid dechrau gyda’r hunan.

Mae’r rheiny sy’n gallu dod i delerau heddychlon â nhw eu hunain yn fwy tebygol o ysbrydoli heddwch ymysg eraill; a pho fwyaf o bobl sy’n gwneud y cyswllt hwnnw, fwyaf tebygol ydym ni o wella pob agwedd ar ein llesiant yma yng Nghymru: yn economaidd, yn amgylcheddol, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol.

Yr hyn rydym ni’n ei wneud gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw galw ar ein sector gyhoeddus i wneud y cysylltiadau yna. Sylweddol fod plentyn sy’n colli ysgol, sy’n camfihafio neu sy’n mynd i drafferth gyda’r heddlu, yn debygol o gael problemau yn y cartref. Ac os dyna’r gwir, rhaid i ni fod yn ymyrryd ac yn atal yn gynt.

Po fwyaf y gallwn ni wneud y cysylltiadau hynny, gyrru gwasanaethau cyhoeddus sy’n ymateb i anghenion pobl ac ymgyrraedd at wella’u llesiant, y mwyaf y gallwn ni gyflawni’r saith nod llesiant yna, a gweithredu fel ysbrydoliaeth amlwg i wledydd eraill.

Oherwydd, yr hyn welwch chi gyda mudiadau heddwch, gyda phobl sy’n gwneud safiad, i wneud rhywbeth gwahanol, yw hyn: os oes digon o bobl yn ei wneud, mae’n troi’n fudiad.

A dyna rydw i’n meddwl y gall Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ei ysbrydoli – mudiad i newid pethau. Mudiad o blaid caredigrwydd, cydymdeimlo a llesiant. Mudiad er lles heddwch.

Dove with Peace Message
International Day of Peace