Ymateb i ganfyddiadau adroddiad M4: Adeiladu cymunedau’r dyfodol gyda thrafnidiaeth lân, fforddiadwy a hygyrch
26/11/20
“Mae’r ddadl o gwmpas dyfodol yr M4 â’i thagfeydd parhaus wedi ymwneud gormod ag anghenion y car a dim digon ag anghenion pobl De Ddwyrain Cymru a’n hamgylchedd.
Mae adroddiad terfynol Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru yn symud oddi wrth hynny – gweledigaeth o system drafnidiaeth gyhoeddus sydd wedi’i hintegreiddio’n iawn a’i hariannu’n gywir, a fyddai’n peri gwelliannau enfawr i ansawdd bywyd cymunedau yng Nghasnewydd, Caerdydd a thu hwnt.
Gorsafoedd rheilffordd newydd ar gyfer mannau nad ydyn nhw’n cael eu gwasanaethu gan drenau, coridorau chwim ar gyfer bysus a beiciau – dyma’r cynigion cyffrous a’r union fath o weledigaeth a amlinellir yn ein deddf arloesol Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Rydyn ni wedi dadlau ers amser maith am effaith tagfeydd ar hyd coridor yr M4 os na wneir dim – wel, nawr mae gennym gyfle i wneud rhywbeth: gweithredu a pheri newid, cefnogi twf un o ranbarthau economaidd pwysicaf Cymru, torri ar lygredd a gwneud hwn yn lle hyd yn oed yn fwy deniadol i fyw a chynnal busnes ynddo.
Yn hanfodol, byddai’r cynigion hyn yn dileu miloedd o siwrneiau mewn ceir, nid yn unig o ran darn dan ei sang o’r M4, ond o rwydwaith ranbarthol o heolydd sydd eisoes yn gwegian dan niferoedd enfawr y traffig – traffig oedd yn mynd i barhau i dyfu pe baem ni ddim yn rhoi dewisiadau credadwy i bobl allu newid eu ffordd o deithio.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ein galluogi i gymryd penderfyniadau dewr er mwyn ein symud i gyfeiriad y Gymru y dymunwn ei gweld, a gallai hyn fod yn eiliad nodedig i system drafnidiaeth Cymru, ac yn dyst i’r newid y mae’r Ddeddf yn ei hachosi.
Rhaid i hyn fod yn un o’r nifer ailddyluniadau o ran sut rydyn ni’n adeiladu cymunedau’r dyfodol gyda thrafnidiaeth sy’n lân, yn fforddiadwy ac – yn hanfodol – yn hygyrch.
Mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru’n sefydlu ac yn cyllido tîm cyflawni ar y cyd nawr, a rymusir gyda chyfrifoldeb clir a chyllideb er mwyn rhoi’r cynlluniau hyn ar y gweill, fel yr argymhellir yn yr adroddiad. Dylai hyn gynnwys ffigurau allweddol o feysydd awdurdod lleol a thrafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol ac arbenigwyr cymunedol er mwyn dechrau symud y cynlluniau hyn yn eu blaenau.”
Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
Rhai o argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru:
- Uwchraddio traciau rheilffordd, ychwanegu mwy o fannau aros i drenau, cynyddu’r nifer o orsafoedd rhwng Caerdydd ac Afon Hafren.
- System docynnu ac amserlenni bws a thrên wedi’u cydlynu.
- Model llywodraethiant newydd i greu ‘meddwl arweiniol unigol’ i drefnu’r holl rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.
- Mesurau i leihau’r angen i deithio, gan gynnwys safleoedd gweithio o hirbell a alluogir gan fand llydan cyflym iawn, er mwyn galluogi pobl i weithio’n nes at eu cartrefi.
- Dull o weithio sy’n rhoi ffocws ar drafnidiaeth yn y maes cynllunio, gan sicrhau fod datblygiadau’n cael eu hadeiladu o gwmpas y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn hytrach na’r draffordd.
- Coridorau bws a beic chwim ar draws y rhanbarth, yn enwedig yng Nghasnewydd.
Nodiadau i olygyddion
- Sefydlwyd Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru i argymell ffyrdd o ostwng tagfeydd ar draffordd yr M4, heb fod angen adeiladu ffordd liniaru newydd o gwmpas Casnewydd.
- Gwrthododd y Prif Weinidog Mark Drakeford gynigion ar gyfer y ffordd liniaru ym mis Mehefin 2019. Yn ôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, roedd yr heol, a fyddai wedi ymyrryd â Gwlyptiroedd Gwent, sy’n gyfoethog o ran bioamrywiaeth, yn anghymarus â deddfwriaeth Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
- Roedd y prosiect nid yn unig yn methu â chyfoesi â thargedau gostwng carbon Cymru, meddai hi, roedd hefyd yn mynd yn erbyn nodau llesiant y Ddeddf o gefnogi cydnerthedd ecosystemau a Chymru iachach. Nid oedd chwaith yn ystyried tueddiadau’r dyfodol, fel cynnydd mewn gweithio o gartref – rhywbeth a gyflymwyd yn fawr o ganlyniad i COVID-19, ac sy’n debygol o ddod yn normal newydd yn ôl yr ymchwil, â’r potensial i leihau tagfeydd ar einffyrdd.
Mae Sophie Howe yn cynnig argymhellion ar gyfer teithio mwy cynaliadwy yn ei Maniffesto y Dyfodol. Yn eu plith mae:
- Lleihau gwario ar isadeiledd heolydd, a chynnydd mewn gwario ar drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, gan gynnwys cyflwyno trafnidiaeth gyhoeddus rad ac am ddim i bobl ifanc yng Nghymru.
- Buddsoddi mewn ffyrdd gwell o gysylltu a symud pobl, drwy wella cysylltedd digidol, teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus.
- Gosod targed cenedlaethol ar gyfer symudiad moddol er mwyn galluogi pobl i fabwysiadu dulliau carbon-isel o deithio
- Clustnodi o leiaf 50% o wariant cyfalaf trafnidiaeth ar wella gwasanaethau bws a thrên. (mae rhyw 62% o’r gyllideb cyfalaf trafnidiaeth yn cael ei gwario ar adeiladu heolydd newydd ar hyn o bryd)
- Buddsoddi mewn ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd a Natur – ymrwymo i gynyddu gwariant o flwyddyn i flwyddyn.
- Gwneud band llydan yn wasanaeth cyhoeddus hanfodol.
Ymholiadau gan y wasg: Claire.rees@cenedlaethaurdyfodol.cymru