Ystyriaeth hirdymor i leihau anghydraddoldebau iechyd ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Meddyliwch am y person ieuengaf yr ydych yn eu hadnabod. Sut fywyd fydd ganddynt yn 2050? Beth am 2100? Beth fyddant yn ei fwyta? Ble fyddan nhw’n byw? Sut fyddan nhw’n dathlu eu penblwydd?

Nawr dychmygwch y ddolen anweledig sy’n eich cysylltu chi yn y presennol ậ’r ddelwedd honno o’r dyfodol. Ym mha fodd fydd y penderfyniadau a wneir gennych chi heddiw yn effeithio ar eu dyfodol nhw yn 2100?

Nid dim ond un o’r pum dull o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw ystyriaeth hirdymor – dyma’r syniad sydd wrth wraidd y ddeddfwriaeth hon sy’n arwain y byd. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ni edrych ar yr heriau a wynebir gennym heddiw drwy lens fwy integredig, sy’n pontio cenedlaethau ac sy’n ein hatgoffa bod gennym gyfrifoldeb, fel hynafiaid da, i adael gwell byd i genedlaethau’r dyfodol.

Mae bywydau gormod o bobl ifanc yng Nghymru’n cael eu cwtogi oherwydd nad ydynt yn medru cyrchu hanfodion iechyd – addysg, tai, cysylltiadau cymdeithasol – sy’n galluogi bywyd hir, iach a hapus.
Mae anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru, ac o amgylch y byd, yn cael eu dwysáu gan dueddiadau megis newid hinsawdd, newid demograffig, a digideiddio. Gyda llawer o’r tueddiadau hyn ar fin gwaethygu, ni allwn barhau fel yr ydym. Mae angen newid eithafol tuag at ymagweddau ataliol fel y gellir gwella iechyd yn awr, ac yn y dyfodol.

Gall ystyriaeth hirdymor roi’r gallu i ni weld yn rhagweithiol a gweithio tuag at ddyfodol yr ydym eisiau bod yn rhan ohono, ond gall hyn fod yn anodd ei gyflawni pan fydd blaenoriaethau wedi ei gwreiddio’n ddwfn yn y presennol gyda iechyd gwladol yn gwaethygu ynghyd ậ’r rhestrau aros hir am driniaeth.

Gall meddwl a gweithredu ar gyfer yr hirdymor ein helpu i lywio byd sy’n fwyfwy cymhleth ac ansicr mewn ffordd sy’n lleihau risg ac sy’n datgloi cyfleoedd. Gall ein helpu i adeiladu cydnerthedd fel rhan o’n sefydliadau a’n systemau gan ymbellhau oddiwrth gyflwr o ymladd cyson yn erbyn amgylchiadau dyrys.

Mae’n rhaid i ni symud ymlaen o wneud dim mwy na thrin clefydau tuag at hybu iechyd da ac atal salwch i bawb yng Nghymru. Ond mae angen amser ac ymdrech, ochr yn ochr ậ gwybodaeth a sgiliau newydd, i ymgymryd ậ’r newid hwn mewn diwylliant ac ymddygiad.
Gyda’n gilydd gallwn lunio’r dyfodol

Yn ein strategaeth newydd, Cymru Can, rydym wedi ymrwymo i gefnogi pobl a sefydliadau i feddwl, cynllunio a gweithredu ar gyfer y tymor hwy ac i helpu gyda hynny, mewn cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym wedi creu Tu Hwnt i’r Presennol: Sut i ddefnyddio ystyriaeth hirdymor i leihau anghydraddoldebau iechyd.

Bwriad yr adnodd hwn yw helpu cyrff cyhoeddus, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ac eraill i wybod ble i ddechrau ystyried yr hirdymor a sut i lywio’r gwahanol ddulliau sydd ar gael ar gyfer y dyfodol.

Mae ein hadnodd yn cynnwys 12 o dechnegau hygyrch sy’n ymwneud ậ’r dyfodol ar gyfer mabwysiadu ystyriaeth hirdymor ac ystyried effaith y presennol ar ein dyfodol, a 14 enghraifft o arfer da gan sefydliadau ledled Cymru sydd wedi eu defnyddio.

Mae’r rhain i gyd yn cael eu hystyried drwy lens anghydraddoldebau iechyd fel thema drawsbynciol sy’n effeithio – ac yr effeithir arni gan – bron bob un o’n penderfyniadau a’n gweithredoedd.

Mae dulliau sy’n ymwneud ậ’r dyfodol yn yr adnodd yn cynnwys technegau i ganfod tueddiadau perthnasol, archwilio dyfodol posibl a gosod cwrs ar gyfer y dyfodol a ddymunir.

Mae’r adnodd hefyd yn dangos sut y defnyddiodd Canolfan Gymreig Materion Rhyngwladol y dull naratifau creadigol i ddiffinio strategaeth hirdymor 100 mlynedd, a sut y defnyddiodd Cyfoeth Naturiol Cymru gynllunio senarios gyda phobl o bob rhan o Gymru i gyd-greu gweledigaeth a ffefrir ar gyfer dyfodol yr amgylchedd naturiol.

Wrth archwilio pob astudiaeth achos, mae’r adnodd yn arwain pobl drwy’r gwahanol ymagweddau tuag at ystyriaeth hirdymor, yr amser sy’n ofynnol, allbynnau ac mae’n argymell pecynnau cymorth penodol ar gyfer pob ymagwedd.

Gyda’n gilydd, gallwn sbarduno gweledigaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a sicrhau ein bod yn diogelu ac yn hyrwyddo iechyd da a llesiant heddiw, ac yn yr hirdymor.

Gyda’n gilydd gall Cymru Can lwyddo.
***
Da chi, cysylltwch ậ ni i rannu’r modd yr ydych yn defnyddio’r adnodd a’ch profiad chi eich hunan i ystyried yr hirdymor.
Os oes gan eich sefydliad ddiddordeb mewn gweithdai’r dyfodol neu os hoffech drafod ystyriaeth hirdymor, os gwelwch yn dda cysylltwch ậ ni drwy cysylltwchâni@cenedlaethaurdyfodol.cymru at sylw Petranka Malcheva.