Cyngor ar Feysydd Blaenoriaeth y Pwyllgorau
Cyn chweched tymor y Senedd, mae llawer o Bwyllgorau'r Senedd yn ymgynghori ac yn casglu barn ar y materion blaenoriaeth y dylent eu hystyried wrth gynllunio eu gwaith yn y dyfodol.
Er mwyn sicrhau bod Pwyllgorau yn ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac effaith hirdymor eu penderfyniadau, rwyf wedi ysgrifennu ymateb i bob ymgynghoriad gyda fy marn.
Gan dynnu ar ganfyddiadau ac argymhellion o fy Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020, rwyf wedi nodi themâu i bob Pwyllgor eu hystyried wrth gynllunio eu gwaith.
Mae nifer o fy argymhellion a sylwebaethau yn berthnasol i nifer o Bwyllgorau’r Senedd ac rwyf wedi cynghori y dylid ymdrechu ar draws Pwyllgorau i integreiddio gwahanol feysydd gwaith. Bydd integreiddio meysydd polisi yn well yn sicrhau craffu ar y cyd, y gallu i nodi bylchau gweithredu a chynnig atebion ar draws gwaith y Senedd.
Mae fy ymateb i bob ymgynghoriad Pwyllgor isod.
Bydd yr holl ymatebion ar gael o’r 21 Medi 2021.
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, Iaith Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol
Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol