Mae Mair yn gymrawd o Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr gyda dros 30 mlynedd o brofiad fel gweithiwr cyllid proffesiynol.
Treuliodd 10 mlynedd fel archwilydd ac ymgynghorydd gyda Deloitte (a Touche Ross gynt) cyn symud ymlaen i ddal nifer o rolau uwch yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Chanolfan Cydweithredol Cymru.
Mae hi bellach yn rhedeg ei phractis ymgynghori ei hun gan ddarparu ystod o wasanaethau datblygu busnes i sefydliadau preifat, cyhoeddus a thrydydd sector, gan hyrwyddo llywodraethu da, rheolaeth risg ac ariannol effeithiol, a gwerth am arian.
Mae hi wedi gwasanaethu ar fyrddau gweithredol ers dros ddeng mlynedd, gan ganolbwyntio ar gyllid, risg, llywodraethu ac effeithlonrwydd gweithredol ac effeithiolrwydd. Ar hyn o bryd hi yw cadeirydd Pwyllgor Archwilio a Risg Comisiynydd y Gymraeg ac mae'n ymddiriedolwr Sefydliad Gŵyl y Gelli. Mae hi wedi gwasanaethu fel ymddiriedolwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, cadeirydd Buddsoddi Cymdeithasol (Cymru) Ltd, cyfarwyddwr anweithredol Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd ac yn ymddiriedolwr yr Uned Polisi Arian ac Iechyd Meddwl. Mae Mair yn siarad Cymraeg rhugl ac yn byw gyda'i theulu yng Nghaerdydd.