Yr Athro Leighton Andrews
Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd
Athro Ymarfer mewn Arwain ac Arloesi mewn Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae’n addysgu, yn ymchwilio ac yn ysgrifennu ym meysydd llywodraeth, arweinyddiaeth gyhoeddus ac arloesi, rheoleiddio a llywodraethu cyfryngau, cyfryngau cymdeithasol a digidol. Cyn Weinidog Addysg a Sgiliau a Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus yn Llywodraethau Llafur Cymru o 2009-16, a Dirprwy Weinidog o 2007-9. Bu’n Aelod Cynulliad dros y Rhondda o 2003-16. Bu’n gadeirydd y Tasglu Newyddion Digidol ar gyfer Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol a gyflwynodd adroddiad ym mis Mehefin 2017.